Enw llawn: Dr Steffan Wynn Thomas

Dyddiad Geni: Ebrill 1988

Man geni : Wrecsam


Pan dyw Dr Steffan Wynn Thomas ddim yn addysgu myfyrwyr fel Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata Digidol ym Mhrifysgol Bangor, bosibl mai mewn neuadd ddawns y gwelwch chi o, yn hedfan yn y cymylau neu ar feic modur yn y wlad.

Mae wedi ymddiddori mewn dawns draddodiadol Gymreig er pan oedd yn ifanc, ac wedi cael cyfleoedd i berfformio a chystadlu ledled Cymru a thu hwnt. Efallai na fydd yn eich synnu, felly, ei fod yn canu’r delyn deires Gymreig, math o delyn sy’n defnyddio tair rhes o dannau cyfochrog yn hytrach na’r rhes sengl fwy cyffredin. Un o atgofion cerddorol cynharaf Steffan yw ennill yn Eisteddfod Treffynnon yn 1994.

“Mi ges i fedal fach gyda’r Ddraig Goch arni, ac mae’r fedal dal gen i rywle. Yna dwi’n cofio mynd lawr i Blas Llanofer i ganu’r delyn a theimlo fy mod i’n rhan o hanes y stad ac yn cerdded yn olion y telynorion teires oedd wedi bod yna o flaen fi.

“Y Delyn Deires yw ein hofferyn cenedlaethol, ac felly i fi, mae’n fraint cael parhau fel rhan o’n traddodiad di-dor. Mae’n debyg mai Dad oedd y dylanwad mwyaf arna i ar y cychwyn. Dad ddysgodd fi i ganu’r delyn, ac mi ges i fy nysgu yn y ffordd draddodiadol ar y glust. Dydw i dal ddim yn darllen cerddoriaeth! Ers hynny, mae unigolion fel Huw Roberts, Llangefni wedi bod yn ddylanwad mawr arna i. Bellach, mae fy mab wedi cychwyn dangos diddordeb, ac felly dwi’n gobeithio y bydd o yn rhan o’r genhedlaeth nesaf.”

‘Persbectif gwahanol’

Diddordeb arall ganddo yw hedfan, ac un freuddwyd sydd ganddo ers yn fychan, meddai, yw “hedfan heb awyren, hynny yw hedfan fel aderyn”.

“Fel plentyn, roeddwn i’n cael y freuddwyd yma yn aml. Yn anffodus, dwi ddim eto wedi canfod ffordd o wireddu’r freuddwyd.

“Mi ges i fy nhrwydded tua unarddeg mlynedd yn ôl, gan ddilyn Dad fel peilot. Mae hedfan yn rhoi’r cyfle i weld y byd o bersbectif gwahanol. Fy hoff beth am hedfan yw cymryd pobol eraill i fyny gyda fi a rhannu’r profiad.”

Ond dyw’r awyr a’r cymylau ddim yn cael perchnogi ei galon yn gyfangwbl. Mae’r wlad hefyd yn swyno Steffan, a does dim gwell ganddo na threulio amser ar feic ffordd neu feic modur yn y wlad.

“Does dim byd yn dod yn agos at y teimlad o fod allan yn y wlad ar ddwy olwyn. Mae’n rhaid canolbwyntio yn llwyr ar y ffordd, ac felly mae gweddill problemau’r byd yn cael mynd i gefn fy meddwl am dipyn.

“Ar feic, mae rhywun yn troi yn rhan o’r tirlun, lle mewn car mae rhywun yn sbïo allan ar y byd trwy ffrâm y ffenest. Mae beic yn cynnig ffordd o fod yn agosach at yr amgylchedd.”

Goresgyn y gwaethaf

Ond dyw bywyd ddim wedi bod yn hawdd i Steffan a’i deulu yn yr 17 mlynedd maen nhw wedi’i dreulio gyda’i gilydd. Un o’r heriau mwyaf iddyn nhw ei goresgyn oedd pan fu rhaid i wraig Steffan, Danielle, fynd i mewn i’r ysbyty i gael trawsblaniad.

“Mae’n debyg mai’r her anoddaf oedd y noson yn Ysbyty Lerpwl. Roedd Danielle wedi cyrraedd ugain wythnos o feichiogrwydd, ac roedd hi’n wynebu llawdriniaeth un ai i achub ei bywyd hi, neu fywyd y babi. Mi ges i air gyda’r llawfeddyg y noson cyn y llawdriniaeth er mwyn deall y peryglon.

“Ond er y cyngor, roedd fy ngwraig yn benderfynol nad oedden nhw am derfynu’r beichiogrwydd, ac felly erbyn y bore wedyn mi ges i alwad ffôn ganddi i ddweud ei bod hi wedi gadael yr ysbyty, ac i mi fynd i’w ’nôl hi o ganol y ddinas! Wrth gwrs, hi oedd yn iawn, a rhyw bymtheg wythnos yn ddiweddarach cafodd ein mab ei eni.”