Oeddech chi yn gwybod fod pobol yn ymdrochi mewn gwymon ers canrifoedd, gan gredu ei fod yn llesol i gorff ac enaid?  

Mae cwmni creu halen yn y gogledd wedi gosod casgenni ar lan y môr sy’n cynnwys dŵr cynnes ac un o blanhigion enwoca’r moroedd mawr… ac wedi denu cwsmeriaid lu i osod eu cyrff yn y baddonau al fresco.