Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i broblem baw ci ar y strydoedd waethygu dros y gaeaf, ond fod mesurau ar waith i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Daw hyn wrth i un ddynes o Gaernarfon ddweud wrth golwg360 nad oes digon o gyhoeddusrwydd am y bagiau codi baw ci mae’r Cyngor yn eu darparu.

Mae gan Sandra Salisbury ddau gi, ac mae hi’n poeni’n fawr am faw ci ar Lôn Las yn y dref.

Dydy hi ddim yn gwybod sut mae cael y bagiau, ac yn dweud bod angen mwy o gyhoeddusrwydd amdanyn nhw.

“Dydw i ddim yn gwybod lle mae pobol yn gallu codi’r rhain i fyny,” meddai, gan ychwanegu bod y broblem baw ci yn “anghynnes” i blant sy’n chwarae ac yn debygol o roi eu traed ynddo.

Ond yn ôl y Cynghorydd Dewi Jones, sy’n cynrychioli Peblig ar Gyngor Gwynedd, mae nifer o ffyrdd y gall pobol gael y bagiau a nifer o ffyrdd o osgoi peidio codi baw ci ar y stryd.

Diffyg cyhoeddusrwydd

Ond wrth siarad â golwg360, mae Sandra Salisbury Jones yn mynnu nady yw hi’n ymwybodol o sut mae cael gafael ar y bagiau, ac yn dweud hwyrach fod pobol eraill yn yr un sefyllfa â hi.

“Rwyf wedi clywed am y bagiau mae Cyngor Gwynedd yn rhoi allan,” meddai.

“Fydda i ddim yn eu prynu nhw, oherwydd bydda i’n eu prynu nhw yn fy siopa.

“Dydw i heb gael mantais o’r bagiau rhad neu fagiau am ddim sydd gan y Cyngor.

“Doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono fo.

“Dylai fod lleoliad o gwmpas, efallai, lle mae rhywun yn gallu mynd i’w ’nôl nhw.

“Efallai y dylai poster gael ei roi i wneud pobol yn ymwybodol ohono fo.

“Bobol bach, rwy’n meddwl ei fod yn beth da eu bod nhw’n rhoi’r bagiau allan.

“Er bo nhw ddim yn bethau drwg i’w prynu, mae gennyt ti rai pobol sydd ddim yn gallu fforddio nhw.”

Y broblem

Yn ôl Sandra Salisbury Jones, mae baw ci yn gryn broblem yn ei hardal hi.

“Rwy’n berchen dau gi, ac rwy’ hefyd yn warchodwraig yn fy ngwaith, felly rwy’n cerdded plant hefyd,” meddai.

“Os byswn i’n gadael baw dau gi bob tro rwy’n cerdded, bysa yna fynydd o faw yna.

“Rwy’ wedi swnian am fin i gael ar ddechrau ein giât wrth ymyl ein tŷ ni fan hyn.

“Ti’n gweld gwahaniaeth efo’r defnydd mae hwnna’n cael.

“Dydy’r bobol sy’n gadael baw ar ochr llwybrau ddim yn ystyried bod plant bach yn cerdded hefyd, rhieni efo prams.

“Mae’n beth anghynnes i blant roi eu traed i mewn iddo, ac i bobol ei gael o ar olwynion y pram hefyd.

“Rwy’n gwybod mai llwybr cyhoeddus ydy o, ond mae eisiau meddwl am y bobol eraill sy’n defnyddio’r llwybr.

“Mae plant bach yn hoffi mynd yn eu welis yn y gwair hefyd.

“Mae eisiau i’r cyhoedd sy’n cerdded cŵn, er bod nhw’n cerdded ar lwybr cyhoeddus sef y Lon Lâs, gofio bod pobol eraill yn ei ddefnyddio fo, ac os maen nhw’n gweld y ci yn maeddu mae eisiau ei godi fo.”

Beth mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud?

Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio cymryd camau i fynd i’r afael â’r sefyllfa drwy roi bagiau allan, medden nhw, ac maen nhw’n mynd cyn belled â rhoi dirwy lle mae tystiolaeth gadarn o weithred fwriadol.

“Fel Cyngor, rydym yn darparu bagiau a dispensers, a hefyd mae yna arwyddion,” meddai Dewi Jones wrth golwg360.

“Lle rydym yn gallu, rydym yn edrych ar ddirwyo pobol os ydym yn gallu eu dal nhw yn gwneud.

“Yn anffodus, er mwyn rhoi dirwy, mae’r Cyngor yn gorfod cael dipyn go lew o dystiolaeth – tystiolaeth lle mae o’n gwbl glir ’na nhw sydd wedi gwneud, bod hwnna’n fideo felly o’r ci yn maeddu a’r perchennog ddim yn ei gasglu fo.

“Mae’r arwyddion er mwyn ceisio newid agwedd pobol.

“Mae yna fagiau a dispensers ar gael am ddim, a lle rydym yn gallu rydym yn ceisio rhoi dirwy i bobol.

“A dweud y gwir, fel cynghorydd, byddwn i’n gobeithio’n bod ni ddim yn gorfod dod i’r pwynt yna, bod pobol yn cymryd cyfrifoldeb am eu cŵn.

“Rwy’ eisiau pwysleisio, mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n berchnogion cŵn yn cymryd cyfrifoldeb.

“Lleiafrif bychan sydd ddim yn ymddwyn yn briodol ac yn cymryd y cyfrifoldeb, a dyna rydym angen annog, fod pobol yn cymryd cyfrifoldeb o’u cŵn ac yn codi ar eu hôl nhw pan maen nhw’n maeddu.”

Gwybodaeth ar Facebook

Ond beth am y bobol sydd ddim yn defnyddio Facebook?

“Rwy’n gwybod bod gwybodaeth am y bagiau dispenser wedi mynd allan ar Facebook,” meddai.

“Ond os ydy pobol eisiau bagiau, maen nhw’n gallu eu cael nhw yn siop Gwynedd, neu drwy ffonio’r cyngor, neu drwy gysylltu efo’u cynghorydd lleol.

“Wedyn, os mae rhywun eisiau bagiau, gallan nhw yn sicr gysylltu efo fi.”

Ategu’r neges

Daw sylwadau Dewi Jones ar ôl i gynghorydd arall, Cai Larsen, gyhoeddi neges ar Facebook fis Ionawr eleni.

“Cais caredig i berchnogion cŵn,” meddai.

“Baw cŵn ar balmentydd ydi un o’r cwynion dwi’n ei derbyn amlaf fel cynghorydd yng Nghaernarfon – ac rwyf yn eithaf siŵr bod yr un peth yn wir am fy nghyd-gynghorwyr.

“Rŵan, mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn o ddigon yn hynod gyfrifol ac yn gwaredu baw ci yn hollol briodol.

“Ond yn anffodus, mae yna leiafrif bach sydd ddim yn gwneud hynny ac mae’n achosi problem sylweddol.

“Un o’r llefydd gwaethaf o ran baw ci dwi wedi ei weld ers talwm ydi palmant y Lôn Bost sy’n rhedeg yn gyfochrog efo Mynwent Llanbeblig rhwng Gallt y Sil a Ffordd Eryri.

“Mae hyn yn arbennig o anffodus gan fod plant yn gwneud defnydd sylweddol o’r lôn wrth fynd a dod o’r ysgol.

“Felly – os gwelwch yn dda – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwaredu baw ci yn y lleoliad yma yn arbennig ond hefyd ym mhob man arall.

“Mae’r palmant wedi ei glirio gan y Cyngor Sir ddechrau’r wythnos a gobeithio y bydd yn aros yn lan.

“Os oes unrhyw un eisiau pecynnau (dispensers siâp asgwrn) ar gyfer bagiau baw cŵn, mae gen i rai sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

“Os ydych eisiau rhai, cysylltwch trwy anfon neges i mi ar Facebook neu drwy fy ffonio ar 07795 23007.”

Roedd neges Facebook gan Dewi Jones rai misoedd wedyn yn gosod bagiau baw ci ar draws ward Peblig.

Beth am bentref Bethel?

Yn ôl cwynion ar Facebook, mae cryn broblem ym mhentref Bethel ger Caernarfon, sy’n arwain at y cwestiwn a yw’r broblem yn waeth mewn pentrefi?

Dyma ddywedodd un ddynes ar grŵp Facebook Cymuned Bethel:

“Cachu ci yn y pentref wrth ymyl y cae swings yn hollol warthus,” medd un person ar Facebook. “Plant a phobol yn sefyll ynddo bob munud. Reit o flaen giatiau gerddi pobol, reit oflaen giât i’r cae swings. Oes bosib cael warden / camerau i fyny? Be allith cael ei neud am y peth?”

Ymatebodd Delyth Owen drwy ddweud, “Mae hyn yn warthus ac ym mhob man yn y pentref!!! Does dim yn cael ei wneud am y peth yn anffodus.”

Awgryma Hannah Hughes ddatrysiad i’r broblem, drwy ddweud bod “bagiau ci ar gael AM DDIM yng Nghaffi’r Bedol Menter Gymunedol Bethel felly dim esgus!”

‘Y broblem ddim yn waeth na llefydd eraill’

Fe fu golwg360 yn siarad â Peter Simpson, Rheolwr Gwasanaethau Stryd Cyngor Gwynedd, sy’n gyfrifol am wasanaethau drwy’r sir gyfan.

Mae’n gyfrifol am y gwasanaeth gorfodaeth stryd, y gwasanaeth glanhau strydoedd, a hefyd y gwasanaeth timau tacluso.

Mae’r tîm yn mynd o gwmpas yn glanhau arwyddion a chwynnu.

Dydy Peter Simpson ddim yn credu bod y broblem yn waeth yng Nghaernarfon na llefydd eraill yn y sir, o ystyried faint o bobol sydd yn byw yno.

“Fyswn i ddim yn dweud bod o ddim gwaeth yng Nghaernarfon,” meddai.

“Rydym yn tueddu cael llefydd rydym yn eu galw’n hot spots, lle mae o’n gallu bod yn waeth am gyfnod, wedyn rydym yn ei dargedu fo.

“Mae’r broblem yn lleihau, ond efallai digwyddith o yn rhywle arall.

“Mae Caernarfon yn un o’r trefi prysuraf efo poblogaeth reit uchel, felly mae nifer o broblemau yn gallu adlewyrchu faint o bobol sy’n byw mewn tref.

“Mae’n gallu bod ychydig yn uwch oherwydd bod mwy o bobol yna.

“Fy mhrofiad i ydy, dydy o ddim gwaeth, galla i feddwl am lefydd eraill lle rydym yn cael gymaint o gwynion.”

Y gaeaf

Gyda’r broblem yn gwaethygu dros y gaeaf, mae Cyngor Gwynedd yn cymryd camau yn ystod y tymor i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae baw ci yn mynd yn waeth yn y gaeaf,” meddai Peter Simpson.

“Mae yna reswm amlwg am hynna.

“Wrth i’r nosweithiau fynd yn fwy tywyll, mae pobol yn mynd allan yn y tywyllwch ac maen nhw’n meddwl, ‘Does neb yn gweld fi, does dim rhaid i fi lanhau o fyny’.

“Mae o’n cael ei adael yna yn y tywyllwch.

“Y bore wedyn, mae rhywun yn sathru yno ac yn dod ar ei draws a chwyno.

“Rydym yn gweld cynnydd sylweddol o gwyno am faw ci yn y gaeaf.

“Unwaith mae’r clociau yn newid, gwneith y cwynion ddechrau cynyddu.

“Gwneith fynd fel yna tan fis Chwefror, ac wedyn mae pethau’n dechrau arafu.

“Beth rydym yn ceisio’i wneud yw, yn ystod y cyfnod yna, rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth.

“Byddan ni’n gwneud negeseuon sy’n mynd allan ar dudalen Facebook y Cyngor, a Twitter ac yn y blaen, i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod o’n hynod bwysig i bobol lanhau fyny ar ôl eu cwn, bagio fo a rhoi o mewn bin.

“Byddan ni’n drymio’r neges yna i mewn yn eithaf rheolaidd trwy fisoedd y gaeaf.”

Camau Cyngor Gwynedd

Os ydy Cyngor Gwynedd yn ymwybodol o ardaloedd penodol lle mae’n broblem, maen nhw’n cymryd camau i’w datrys, yn ôl Peter Simpson.

“Mae targedu ardaloedd yn bwysig oherwydd rydym angen pwysleisio i bobol sydd efallai eisiau adrodd y broblem,” meddai.

“Byddan ni’n cael llawer o sylwadau, fel pobol yn dweud, “Mae baw ci yng Nghaernarfon yn ddrwg”.

“Beth rydyn eisiau gwybod ydy lle yn union yng Nghaernarfon mae’r broblem yn ddrwg, ac wedyn fedrwn ni dargedu fo llawer haws.

“Efallai, weithiau, gallwn ni ffeindio allan pwy sy’n ei wneud o.

“Sut rydym yn ei dargedu fo? Mae gennym dîm gorfodaeth stryd sy’n weithredol trwy Wynedd.

“Mae gennym wardeiniaid sy’n mynd allan ar batrôl, ymchwilio i’r problemau, gosod arwyddion rhybudd ac arwyddion codi ymwybyddiaeth, ac os ydym yn dal rhywun wrthi yn peidio glanhau fyny ar ôl baw ci, maen nhw’n gallu rhoi dirwy o £100 iddyn nhw.

“Mae rhywun yng Nghaernarfon yn ddiweddar wedi cael dirwy gan un o’r wardeiniad.

“Peth arall rydym yn ei wneud, os oes rhywun yn cwyno bod yna lawer o faw ci ar Lôn Llan Beblig, er enghraifft, byddan ni’n gyrru y tîm glanhau strydoedd i lanhau o fyny.

“Mae gennym ddyletswydd i lanhau lonydd a glanhau baw ci.

“Weithiau gwneith o ddigwydd dros nos, a gwneith rhywun ffonio ni’n y bore a byddan ni’n gyrru rhywun allan i’w lanhau o fyny.”

Conwy

Ond beth am ardaloedd eraill?

Mae cynghorwyr yng Nghonwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad pellach mewn perthynas â Gorchmynion Rheoli Cŵn ar draeth Bae Colwyn.

Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, cefnogodd Aelodau’r Cabinet y Gorchmynion Rheoli Cŵn estynedig a diwygiedig sydd ar waith mewn lleoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy, gan eithrio rhan o’r traeth rhwng Porth Eirias a’r traeth tywodlyd bach ym Mhwynt Rhos.

Penderfynodd y cynghorwyr y dylid cynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y dewisiadau amgen i wahardd cŵn ar draeth Bae Colwyn, ac eithrio Pwynt Rhos yn Llandrillo-yn-Rhos.

Yn ôl y Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd y Cyngor, mae’r traeth yno i bawb ei fwynhau.

“Hoffwn ymddiheuro i’r cyhoedd am unrhyw ofid a achoswyd gan y broses ymgynghori,” meddai.

“Yn amlwg, mae yna gefnogaeth gref i ddefnyddio traeth Bae Colwyn.

“Yma yn sir Conwy, rydym yn ffodus iawn o gael nifer fawr o draethau hyfryd, ac rwy’n siŵr y gallwn ddod o hyd i ateb i sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau’r traeth hwn.”

Bydd yr ymgynghoriad pellach ar yr opsiynau ar gyfer traeth Bae Colwyn yn cael ei gynnal dros y gaeaf, a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi unwaith y byddan nhw wedi’u cadarnhau.

Ar gyfer pob lleoliad arall ym Mwrdeistref Sirol Conwy, mae’n bosib gweld y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn ar eu gwefan.

Cynghorau eraill

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan gynghorau eraill yn y gogledd hefyd.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn bobol gyfrifol”, ond maen nhw’n dweud bod yna “ganran fychan sydd yn dal i anwybyddu’r cyngor ac yn troseddu”.

“Mae hyn yn tueddu fod yn broblem fwy amlwg o fewn trefi’r sir oherwydd bod y boblogaeth cymaint mwy, wrth gwrs,” meddai llefarydd.

“Rydym yn derbyn cwynion rheolaidd am ardaloedd sydd yn peri pryder, yn enwedig ar lwybrau cerdded, meysydd chwarae, traethau neu du allan i ysgolion.

“Yn unol â Gorchymyn (Cŵn yn Baeddu Tiroedd) Ynys Môn 1997, cyflawnir trosedd oni fydd perchenogion cŵn yn clirio i fyny wedi i’w cŵn faeddu unrhyw dir sy’n dir penodedig.

“Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi taflen i godi ymwybyddiaeth perchenogion cŵn, am yr effeithiau posibl y gallai baw cwn sydd wedi ei heintio gyda’r llyngyr toxocara ei gael ar iechyd.

“Rydym hefyd wedi datblygu cynllun sydd wedi gweld blychau bagiau baw ci yn cael eu lleoli mewn ardaloedd ar hyd a lled yr Ynys.

“Mae dros 30 o flychau bagiau baw ci wedi cael eu gosod ar draws yr Ynys a’u pwrpas yw darparu bagiau pwrpasol ar gyfer cerddwyr cŵn sydd wedi anghofio eu bagiau baw ci neu sydd heb fagiau ar ôl.

“Drwy weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned, rydym wedi gweld y sefyllfa’n gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

“O ran traethau, rydym yn cynnal adolygiad o ddeddfau sy’n ymwneud ag ardaloedd gwahardd cŵn gyda’r bwriad o resymoli’r rhain ac yn edrych i gynyddu ein hopsiynau gorfodi ar gyfer y canran bychan yma sy’n parhau i adael baw cŵn ar ein traethau.

“Fel Cyngor, byddwn yn parhau i annog aelodau’r cyhoedd sydd â phryderon am faw ci i gysylltu gydag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor Sir.”