Gallai cwsmeriaid Dŵr Cymru weld cynnydd rhwng £50 a £220 y flwyddyn yn eu biliau, o ganlyniad i gynlluniau i leihau llygredd ym moroedd ac afonydd Cymru.

Mae’r cynnydd yn ddibynnol ar ba welliannau fydd yn cael eu gwneud i systemau gorlif stormydd.

Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, mae newid yn yr hinsawdd a thwf yn y boblogaeth yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system bresennol.

“Mae gorlifoedd storm gyfun yn rhan hanfodol o’n rhwydwaith dŵr,” meddai Julie James.

“Maen nhw’n ffordd a reolir o leihau pwysau yn ystod cyfnodau o law trwm, gan gyflawni rôl hanfodol wrth leihau’r risg o garthffosiaeth yn llifo’n ôl i gartrefi, busnesau a mannau cyhoeddus.

“Er hynny, mae’n amlwg fod y rhwydwaith gorlifoedd storm gyfun o dan bwysau.

“Gwyddom o ragolygon hinsawdd fod rhaid inni fod yn barod am gyfnodau hwy a mwy rheolaidd o law trymach yn y dyfodol.”

Naw opsiwn

Mae naw opsiwn i fynd i’r afael â’r broblem wedi’u cynnig mewn adroddiad gan ymgynghorwyr annibynnol Llywodraeth Cymru, ond does dim argymhellion terfynol wedi eu gwneud eto.

Byddai cyflwyno polisi fyddai’n atal y systemau rhag gorlifo mwy na deg gwaith y flwyddyn yn dod ar gost o hyd at £6.5bn.

Canlyniad hyn fyddai rhwng £80 a £220 ychwanegol ar ben biliau blynyddol arferol Dŵr Cymru.

Opsiwn arall sydd wedi ei gynnig yw lleihau effeithiau negyddol gorlifo carthffosiaeth, ond nid eu hatal.

Byddai hyn yn dod ar bris llai, sef £2.7bn, ac yn golygu rhwng £50 a £90 y flwyddyn ar ben y bil arferol.

Sefydlu tasglu

Bydd Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru, sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru, yn ystyried yr adroddiad ac yn nodi’r camau nesaf.

“Rydym yn croesawu cyhoeddi’r Adroddiad Tystiolaeth ar Orlifoedd Stormydd yng Nghymru, sy’n garreg filltir bwysig yn ein Cynllun Gweithredu ar Reoleiddio Amgylcheddol ar gyfer Gorlifoedd Storm,” medd y tasglu mewn datganiad.

“Er nad yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw argymhellion, mae’n nodi cyfres o opsiynau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli gorlifoedd storm yng Nghymru.

“Er mwyn cyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer rheoli gorlifoedd, nid oes yr un ateb tymor byr.

“Mae angen inni edrych tua’r dyfodol.”