Mae ffigurau diweddaraf Rajar, corff sy’n cynnal ymchwil i gynulleidfaoedd radio, yn dangos bod Radio Cymru wedi colli bron i 30,000 o wrandawyr mewn blwyddyn.
Roedd gan yr orsaf 131,000 o wrandawyr fis Medi y llynedd, ond mae’r nifer wedi gostwng i 102,000 erbyn mis Medi eleni.
Mae hyn hefyd yn sylweddol llai na’r 164,000 oedd yn gwrando yn 2021.
Roedd cyrhaeddiad yr orsaf wedi gostwng gan 20% dros yr un cyfnod, ac oriau gwrando hefyd wedi cwympo o 1,545 o oriau yn 2022 i 1,013 o oriau eleni.
Wrth ymateb, dywed BBC Cymru y byddan nhw’n “edrych yn ofalus ar y data”, ond eu bod nhw’n “falch iawn” mai Radio Cymru yw’r orsaf fwyaf poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl, sy’n gwrando am ddeuddeg awr a 27 munud ar gyfartaledd bob wythnos.
Maen nhw hefyd wedi datgelu eu bod nhw wedi cyflwyno cynlluniau i Ofcom i sefydlu Radio Cymru 2 fel gorsaf lawn.