Mae adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ar ddarlledu yng Nghymru yn “anwybyddu’r broblem sylfaenol”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Yn ôl y Gymdeithas, nid trwy Lundain mae datrys diffygion darlledu yng Nghymru, ac maen nhw’n dweud bod yr adroddiad yn dangos “pa mor fregus ac ansicr yw dyfodol cyllido darlledu Cymraeg, y diffyg rheoleiddio ar radio masnachol, a’r her sy’n dod gyda’r chwyldro yn y cyfryngau digidol”.

“Dyna’r broblem sylfaenol sy’n cael ei hanwybyddu gan yr adroddiad yma,” meddai Carl Morris, cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith.

“Os ydyn ni o ddifri am wella darpariaeth darlledu Gymreig a Chymraeg er budd ein hiaith, ein diwylliannau a’n democratiaeth, rhaid i’r penderfyniadau yn eu cylch gael eu gwneud yma yng Nghymru.”

‘Ddim yn mynd at wraidd y broblem’

Mae’r adroddiad yn argymell adolygu cylch gwaith Ofcom, pasio Bil y Cyfryngau drwy San Steffan, ac annog perthynas agosach rhwng S4C a’r BBC.

Ond “dydi’r rhain ddim yn mynd at wraidd y broblem”, meddai Carl Morris, sy’n dweud bod “rhaid datganoli darlledu i Gymru”.

Cafodd adroddiad y Panel Arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ei gyhoeddi fis Awst eleni.

Dywed Carl Morris fod hwn yn cynnig trywydd llawer mwy cadarn ar gyfer cryfhau darlledu yng Nghymru.

“Cafwyd ystyriaeth llawer cliriach ac argymhellion llawer cryfach yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Gosododd drywydd pendant ar gyfer dechrau’r broses o ddatganoli darlledu a mynd i’r afael gyda’r heriau sy’n ein hwynebu yn y maes.

“Edrychwn ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru iddo a’u cynlluniau i roi’r adroddiad ar waith.”