Does dim digon yn cael ei wneud i amddiffyn tenantiaid rhag codiadau rhent, medd undeb ACORN Caerdydd.

Daw hyn ar ôl i’r grŵp darfu ar gyfarfod pwyllgor yn y Senedd er mwyn mynnu bod rhywbeth yn cael ei wneud am y sefyllfa “frawychus.”

Daliodd y protestwyr faner oedd yn galw am “Reoli Rhent Nawr” tra roedd y pwyllgor yn mynd yn ei flaen.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae rhent yn cynyddu ar y raddfa gyflymaf ers cychwyn cofnodion yn 2006, gyda chynnydd o 6.9% yng nghostau rhentu yng Nghymru dros y deuddeg mis diwethaf. Dyma’r ffigwr uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Ystadegau’n gwaethygu

Dywed Nora Rhiannon o ACORN Cymru eu bod nhw eisiau i Lywodraeth Cymru gyfyngu ar faint y gall rhent gynyddu bob blwyddyn.

“Hefyd, oherwydd ein bod ni eisiau gweithredu ar unwaith a’n bod ni’n gwybod fod rheoliadau rhent yn cymryd amser i ddeddfu, rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhewi rhenti unwaith y byddan nhw’n cyhoeddi rheolaeth rhent fel nad yw landlordiaid yn codi eu rhent yn sky high,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi bod yn cadw golwg ar yr ystadegau ac maen nhw wedi bod yn gwaethygu.

“Felly rwy’n meddwl bod ein gweithred [yn y Senedd] wedi’i llywio gan y ffaith ei fod yn gwaethygu’n gyflym iawn o hyd.

“Y peth arall rwy’n meddwl yw bod tenantiaid yn teimlo nad oes dim yn cael ei wneud drostynt o ran yr ateb uniongyrchol i godiadau rhent.”

Rhy ddrud i fyfyrwyr

Yn ôl Nora Rhiannon o ACORN Caerdydd mae landlordiaid hefyd yn cymryd mantais o fyfyrwyr.

Yn ôl Unipol, mae’r rhent blynyddol mewn ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr wedi cynyddu o 15% mewn dwy flynedd.

Mae hyn oddeutu £1,000 yn fwy ar gyfer y flwyddyn academaidd hon o gymharu â’r diwethaf.

Daw hyn â’r rhent blynyddol i fyfyrwyr Caerdydd i ychydig dros £6,600 ar gyfartaledd.

Golyga hyn fod sawl un yn methu fforddio byw yn y brifddinas gyda’r benthyciad cynhaliaeth yn unig.

Cymryd mantais o fyfyrwyr?

Bu ACORN yn cynnal stondin yn ffair dai Prifysgol Caerdydd ddydd Mawrth (Hydref 24).

“Rydym yn ymwybodol iawn bod landlordiaid yn tueddu i dargedu diffyg profiad myfyrwyr,” meddai Nora Rhiannon.

“Un o’r pethau yr oeddem yn ei drafod oedd bod myfyrwyr yn cael eu rhoi dan bwysau i arwyddo contractau’n rhy gyflym, a dyna, yn fy marn i, pam oedd yr asiantaethau gosod tai yn y ffair.

“Mae agwedd o ’mae’n rhaid i chi ddatrys hyn yn gyflym iawn’.

“Dydych chi ddim yn cael amser i ddarllen y contract nac yn treulio amser yn gweithio allan beth yw’r rhent mewn gwirionedd.”

Mae ACORN Caerdydd wedi gofyn i gyfarfod gyda’r Gweinidog Julie James er mwyn trafod y pryderon.

Taflu protestwyr tros reoli rhent allan o’r Senedd

Chris Haines, Gohebydd Senedd ICNN

Fe wnaethon nhw darfu ar drafodaeth o’r oriel gyhoeddus