Cafodd protestwyr oedd yn galw am reoli rhent yng Nghymru eu taflu allan o’r Senedd ar ôl tarfu ar drafodaeth o’r oriel gyhoeddus.

Cafodd y pedwar protestiwr o undeb gymunedol Acorn, sy’n ymgyrchu tros ddiwygiadau i renti preifat, eu taflu allan gan staff diogelwch y Senedd ar ôl tarfu ar gyfarfod y pwyllgor newid hinsawdd.

Yn gwisgo crysau-T coch â logo’r grŵp ymgyrchu arnyn nhw, galwodd y protestwyr am reoliadau rhent wrth i Julie James, Gweinidog Tai Cymru, ymddangos gerbron y pwyllgor i roi tystiolaeth.

Fe wnaeth y protestwyr ddadorchuddio baner ddwyieithog yn dweud ‘Rent Controls Now/Rheoli Rhent Nawr’ yn Saesneg a Chymraeg.

Cafodd staff diogelwch eu gweld yn rhedeg i lawr coridorau’r Senedd yn ystod yr aflonyddwch heddiw (dydd Iau, Hydref 26).

Daeth Llŷr Gruffydd, cadeirydd y pwyllgor, â’r cyfarfod i ben dros dro tra bod y protestwyr wedi cael cais i adael cyn cael eu tywys yn gyflym oddi yno.

“Julie James, all Cymru ddim aros i weithredu ar gostau cynyddol rhenti. Mae angen rheoliadau rhent arnon ni nawr!” meddai un o’r protestwyr ar ôl iddyn nhw gael eu taflu allan o’r Senedd.

Diffyg llais a chefnogaeth

“Mae tenantiaid yn teimlo heb eu clywed a heb eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, wrth i renti cynyddol dorri mwy a mwy i mewn i’w cyllidebau,” meddai Nora Rhiannon o Acorn Caerdydd.

“Gobeithio bod ein gweithgarwch heddiw wedi dal eu sylw nhw.

“Fe fu Acorn ar lawr gwlad yn atal cynnydd mewn rhenti, ond mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i gael rheoli’r argyfwng tai hwn.”

Tynnodd y protestwyr sylw at y ffaith fod prisiau rhenti preifat yng Nghymru wedi cynyddu gan bron i 7% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2023, gan ddweud mai dyma’r uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Deiseb

Mae Acorn wedi sefydlu deiseb yn galw am reoliadau rhent yng Nghymru, sydd wedi cael ei llofnodi gan oddeutu 450 o bobol.

“Mae’r farchnad renti preifat allan o reolaeth,” medd y ddeiseb.

“Mae landlordiaid yn codi rhenti ar y cyflymdra mwyaf ers dechrau cofnodion, gan orfodi miloedd o denantiaid i dorri’n ôl ar hanfodion megis bwyd, gofal plant a gwres digonol.

“Mae nifer o denantiaid un cynnydd rhent i ffwrdd o golli eu cartrefi a chael eu prisio allan o’u cymunedau.

“Ond does dim rhaid iddi fod fel hyn.

“Byddai rheoli rhent yn golygu y byddai tenantiaid Cymreig yn cael eu gwarchod rhag costau rhent cynyddol, ac yn sicrhau bod tai yn cael ei drin fel angen dynol sylfaenol sy’n fforddiadwy i bawb.”

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried cyflwyno system i reoli rhenti ar ôl cynnal ymgynghoriad ar renti teg a fforddiadwyedd dros yr haf.