Mae’r Senedd wedi clywed bod gweinidogion Cymru’n paratoi ar gyfer datganoli pwerau tros gyfiawnder ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf a phlismona i Gymru.

Dywedodd Jane Hutt wrth Aelodau’r Senedd nad yw Llywodraeth Cymru’n paratoi i gyflwyno’r achos tros gyfiawnder troseddol yn unig, gan ddweud, “Rydyn ni’n paratoi iddyn nhw gael eu datganoli”.

Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn siarad wrth roi datganiad i’r Senedd, gan roi diweddariad i Aelodau ynghylch glasbrintiau gweinidogion Cymru ar gyfer troseddwyr benywaidd ac ifainc.

“Rydyn ni’n paratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf a phlismona,” meddai wrth y Siambr.

“Rydyn ni’n gweithio ar yr ymarferoldeb, ac mae hynny’n bwysig.

“Beth yn union ddylai gael ei ddatganoli? Sut fydden ni’n defnyddio ein cyfrifoldebau newydd? Beth yw’r gost a’r gallu?

“Nid sgwrs am bwerau mo hon, ond sgwrs am sut rydyn ni’n cynhyrchu’r canlyniadau gorau i bobol sy’n byw yng Nghymru – a menywod a phobol ifanc yn enwedig.”

Tra bod cyfiawnder troseddol wedi’i gadw gan San Steffan, mae iechyd ac addysg wedi’u datganoli, ac felly mae cyfrifoldebau llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gorgyffwrdd.

Cafodd hyn ei ddisgrifio fel “ymyl danheddog” cyfiawnder Cymru mewn adroddiad yn 2019.

Glasbrintiau

Eglurodd Jane Hutt fod y glasbrintiau ar gyfer menywod a chyfiawnder ieuenctid wedi’u cynhyrchu ar y cyd â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r gwasanaethau heddlu, carchardai, prawf ac ieuenctid yn 2019.

Tynnodd hi sylw at y gostyngiad yn nifer y menywod sy’n cael dedfrydau o garchar ar unwaith, a nifer y bobol ifanc sy’n mynd i mewn i’r system gyfiawnder troseddol ers hynny.

Dywedodd Mark Isherwood, llefarydd y Ceidwadwyr, fod polisïau llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfochrog o ran strategaethau ar gyfer troseddwyr benywaidd ac ifainc.

Cododd e bryderon am ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe, gafodd ei chyhoeddi gan weinidogion cyn i’r Cyngor wrthod rhoi caniatâd cynllunio maes o law.

Er i’r ganolfan gael y golau gwyrdd yn dilyn apêl, fe wnaeth Mark Isherwood gwestiynu proses ddiwydrwydd Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros ogledd Cymru grybwyll ymchwiliad gan y pwyllgor cydraddoldeb, oedd wedi canfod fod gan 60% o bobol ifanc yn y system gyfiawnder anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Hawliau plant

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (Hydref 24), fe wnaeth Sioned Williams o Blaid Cymru ategu galwad ei phlaid am ddatganoli cyfiawnder yn llawn.

“O’n gwasanaethau carchardai gorlawn i’r anghydraddoldebau syfrdanol yn ein system gyfiawnder troseddol, i dorri hawliau plant Cymru, dydy cyflwr cyfiawnder yng Nghymru ddim yn addas ar gyfer y pwrpas ar hyn o bryd, ac mae’n niweidio pobol Cymru,” meddai.

Gan dynnu sylw at achos ‘Plentyn Q’, merch ddu 15 oed gafodd ei harchwilio’n noeth gan swyddogion Heddlu Llundain, cododd Sioned Williams bryderon am adroddiad sy’n dangos bod 134 o archwiliadau noeth ar blant gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 2018 a 2022.

Dywed Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru fod Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn dadlau bod archwiliadau noeth yn torri hawliau plant.

Dywedodd Jane Hutt wrth Aelodau’r Senedd ei bod hi wedi codi’r mater â chomisiynwyr yr heddlu, gan ofyn am wybodaeth am ethnigrwydd a nifer yr archwiliadau sydd wedi’u cynnal.

Tynnodd Jenny Rathbone, sy’n cadeirio’r pwyllgor cydraddoldeb, sylw at y ffaith fod Adroddiad Corston wedi’i gyhoeddi yn 2007.

“Rydyn ni’n dal yn bell iawn oddi wrth ei gweledigaeth o ran sut rydym yn ymdrin yn well â menywod yn y system gyfiawnder troseddol,” meddai’r aelod o feinciau cefn Llafur.

Rhoddodd Alex Chalk, yr Arglwydd Ganghellor, ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf am agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at gyfiawnder troseddol.

Yn ystod tymor blaenorol y Senedd, fe wnaeth comisiwn alw am ddiwygiadau sylweddol i’r setliad datganoli yn dilyn yr adolygiad cyntaf o’r system gyfiawnder yng Nghymru ers dros 200 o flynyddoedd.