Bydd yn rhaid i Faes Awyr Caerdydd gydymffurfio â rheoliadau sgrinio bagiau newydd y Deyrnas Unedig, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliadau Diogelwch Hedfan diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod rhaid i bob maes awyr â mwy na miliwn o deithwyr bob blwyddyn yn 2019 adnewyddu peiriannau sgrinio bagiau caban 2D gyda sganwyr diogelwch 3D erbyn mis Mehefin nesaf.

Yn seiliedig ar eu niferoedd teithwyr cyn y pandemig, bydd rhaid i Faes Awyr Caerdydd gydymffurfio â hyn.

Bwriad y rheoliadau yw lliniaru risgiau diogelwch, a byddan nhw hefyd yn caniatáu i deithwyr adael gliniaduron a hylifau yn y bagiau maen nhw’n eu cario gyda nhw gan leihau oedi.

Heb y sganwyr 3D, byddai’n rhaid i Faes Awyr Caerdydd ddod â gweithrediadau masnachol i deithwyr i ben erbyn mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae’r sganwyr yn cael eu gosod fel rhan o gynllun achub ac ailstrwythuro gafodd ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn y pandemig.

Heriau ariannol

Mae cost gosod y sganwyr “wedi cynyddu’n sylweddol” o gymharu â’r amcangyfrifon cychwynnol, oherwydd cyfuniad o chwyddiant a chymhlethdod gorfod symud asbestos mewn amgylchedd gweithredol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod Maes Awyr Caerdydd yn dal i adfer o “effaith ddinistriol y pandemig”.

“Mae’r maes awyr wedi adfer 58% hyd yn hyn, gyda 28 o’r 52 llwybr di-stop oedd yn cael eu rhedeg yn flaenorol yn gweithredu unwaith eto, ac yn cludo 910,000 o deithwyr y llynedd,” meddai llefarydd.

“Mae chwyddiant a materion eraill yn parhau i roi pwysau ar gostau’r maes awyr.

“Er bod diogelwch hedfan yn fater a gedwir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae wedi gwrthod yn gyson ddarparu unrhyw gymorth ariannol i helpu gwahanol feysydd awyr y Deyrnas Unedig i drosglwyddo i sganwyr y genhedlaeth nesaf er mwyn bodloni’r dyddiadau cau rheoliadol, er y pwysau mae chwyddiant yn ei roi ar y diwydiant.”

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu darparu buddsoddiad ecwiti o £6.6m fel mesur untro i fynd i’r afael â’r costau, ac i sicrhau eu bod nhw’n bodloni’r gofyniad newydd.

“Bydd hyn yn sicrhau bod diogelwch teithwyr yng Nghaerdydd yn cyfateb i’r hyn a geir mewn meysydd awyr rheoleiddiedig eraill ledled y Deyrnas Unedig, a bydd yn diogelu buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y maes awyr yn y tymor hwy,” meddai’r llefarydd.