Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud ei bod yn “bryderus” am negeseuon “ymosodol a gwahaniaethol” aelod o Sefydliad Criced Swydd Efrog am Israel.

Mae Amjad Bashir wedi cael ei symud o’i rôl ar ôl dweud bythefnos yn ôl ar X (Twitter gynt) fod “aflonyddu, ymosodiadau a lladd Palestiniaid diniwed gan wladychwyr anghyfreithlon gyda chefnogaeth byddin Israel yn un o’r rhesymau sydd wedi’u nodi gan ymladdwyr Hamas am yr ymosodiadau diweddaraf”.

Daeth Sefydliad Criced Swydd Efrog ynghyd neithiwr (nos Fercher, Hydref 25) am gyfarfod brys i drafod y mater.

Dywed Tanni Grey-Thompson, sy’n gadeirydd ar y Sefydliad Criced, fod “yr iaith gafodd ei defnyddio’n wahaniaethol ac yn ymosodol ei natur”, gan ychwanegu mai gorchwyl Swydd Efrog oedd “darparu amgylchfyd croesawgar a chynhwysol i bawb”, ac na all “gwahaniaethu o unrhyw fath gael ei oddef”.

Dywed nad yw Amjad Bashir bellach “yn gysylltiedig â Sefydliad Criced Swydd Efrog nac o deulu ehangach Criced Swydd Efrog”, a’i bod hi’n ymddiheuro am y negeseuon “annerbyniol”.

Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi beirniadu’r sylwadau hefyd, gan gefnogi penderfyniad Sefydliad Criced Swydd Efrog.

Hiliaeth

Ym mis Gorffennaf, collodd tîm Swydd Efrog bwyntiau a chawson nhw ddirwy ar ôl i banel disgyblu benderfynu nad oedden nhw wedi “herio ymddygiad hiliol a gwahaniaethol”.

Ond dywed Swydd Efrog fod y panel wedi cydnabod eu gwaith wrth fynd i’r afael â “materion diwylliannol o fewn y clwb”.

Azeem Rafiq

Cymraes yn ymateb mewn datganiad ar y cyd i helynt hiliaeth Swydd Efrog

Mae gwrandawiad wedi cael y cyn-gapten Michael Vaughan yn ddieuog o gyhuddiadau yn ei erbyn
Y Farwnes Tanni Grey-Thompson

Tanni Grey-Thompson yw cyd-gadeirydd dros dro Clwb Criced Swydd Efrog

Bydd hi’n cydweithio â’r Arglwydd Patel, y cadeirydd presennol, hyd nes y bydd e’n camu o’r neilltu ym mis Mawrth