Mae cynghorwyr Plaid Cymru ym Mhowys yn galw am ymddiheuriad ar ran pobol Cymru, wrth iddyn nhw gyhuddo Cabinet y Cyngor Sir o “drahauster ac anwybodaeth” ynghylch Sycharth.

Mae’n debyg mai cartref hanesyddol tywysogion Powys yng ngogledd Sir Drefaldwyn oedd man geni Owain Glyndŵr.

Mae sôn am Sycharth yng ngherdd Iolo Goch, ‘Llys Owain Glyndŵr’.

Cafodd ei losgi i’r ddaear yn 1403 gan y Tywysog Harri yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, ac mae bellach yn adeilad sydd wedi’i warchod gan Ddeddf Cofadeiladau Hynafol ac Ardaloedd Archeolegol 1979.

Mae Sycharth, sydd wedi derbyn arian gan Cadw yn y gorffennol, dan berchnogaeth breifat ar hyn o bryd, ond mae modd trefnu ymweliadau ag Ystâd Llangedwyn.

‘Ddim yn bodloni’r gofynion ar gyfer arwyddion’

Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn ar ôl i’r Cynghorydd Jackie Charlton ddweud ar ran Cabinet Cyngor Sir Powys, sydd dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, nad yw Sycharth yn bodloni’r gofynio ar gyfer arwyddion i dwristiaid.

Yn gynharach eleni, roedd Sycharth yn destun deiseb gan Elfed Wyn ab Elwyn, yn galw am brynu’r safle er mwyn ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac fe ddenodd dros 10,000 o lofnodion – oedd yn hen ddigon i gynnal dadl yn y Senedd.

Yn ystod trafodaeth Pwyllgor Deisebau’r Senedd, fe wnaethon nhw gytuno i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys yn gofyn am arwyddion i gyfeirio ymwelwyr at y safle, ac am arwydd amlycach ger y brif fynedfa i’r safle.

Mae Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru ym Mhowys, a Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi galw ar Gyngor Powys i weithredu ar sail hyn.

“Dw i’n awgrymu’n barchus, o ystyried maint yr atyniad, y parcio ar ei gyfer a’i hygyrchedd, na fyddai’n cael ei ystyried yn gyrchfan sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer arwyddion twristiaeth,” meddai’r Cynghorydd Jackie Charlton.

‘Diffyg dealltwriaeth’

Dywed Elwyn Vaughan fod y Cabinet “wedi dangos trahauster ac anwybodaeth llwyr”, ac y dylen nhw ymddiheuro wrth bobol Cymru.

Mewn datganiad, mae cynghorydd Glantwymyn a Bryn Davies, cynghorydd Banwy, Llanfihangel and Llanwddyn, yn dweud bod y mater “yn dangos anwybodaeth lwyr yr awdurdod hwn dan y Democratiaid Rhyddfrydol tuag at hanes Cymru, eu diffyg dealltwriaeth o Gymru, a diffyg gweld y cyfle mae twristiaeth ddiwylliannol yn ei gynnig”.

“Y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni dros 100,000 o ymwelwyr yn mynychu Eisteddfod yr Urdd ychydig filltiroedd i ffwrdd, sy’n hwb economaidd enfawr posib i’r ardal.

“Dro ar ôl tro, rydym yn gweld pobol yn gwneud sylwadau nad oes arwyddion, mae pwyllgor y Senedd ei hun yn cytuno ac yn gofyn i Bowys weithredu’n bositif, ond dyma ni’n gweld y gwirionedd am eu dirmyg a’u hanwybodaeth.

“Dyna pam ein bod ni’n gofyn am ymddiheuriad i’r miloedd hynny lofnododd y ddeiseb wreiddiol, ac am unwaith iddyn nhw wrando ar y rhai sydd yn gwerthfawrogi ein hanes a’n treftadaeth.”

Awdur deiseb Sycharth “heb ddigalonni” er gwaethaf canlyniad y ddadl

Catrin Lewis

Dywed y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth na fydd Llywodraeth Cymru yn prynu’r safle ar hyn o bryd

Dadl am brynu Sycharth ar drothwy Diwrnod Owain Glyndŵr

“Ydyn ni dal am drin ein hanes fel rhywbeth ymylol, wedi’i daflu i’r cysgodion, neu ydym ni am barchu hanes ein cenedl a’i ddysgu’n iawn?”

10,000 o bobol wedi llofnodi deiseb i ddiogelu cartref Owain Glyndŵr

Y cynghorydd sir Elfed Wyn ap Elwyn wedi creu’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw Sycharth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol