Mae dros 10,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu Sycharth, cartref Owain Glyndŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Elfed Wyn ap Elwyn, cynghorydd sir yng Ngwynedd, sydd wedi sefydlu’r ddeiseb i gadw’r safle “hollbwysig” ym Mhowys, gan ddweud bod Owain Glyndŵr “yn symbol o Gymru unedig flaengar”.
“Rwy’n falch iawn bod y ddeiseb yma wedi cyrraedd 10,000 – mae’n dangos bod Sycharth, hanes Glyndŵr, a hanes Cymru mor agos at galonnau bobol,” meddai mewn llythyr i’r Cyngor.
“Mae dros chwe mlynedd wedi bod bellach ers i fy neiseb ar ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion gyrraedd y trothwy (5,000 yr adeg yno), a deiseb arall wedyn yn 2020 yn gofyn i’r Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, i ddefnyddio’r wybodaeth oedd pwyllgor oedd yn edrych ar y mater wedi ei gasglu, i wneud y pwnc yn ofynnol mewn ysgolion yn y wlad – a falch yw gweld bod newid wedi dechrau gyda dysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd.
“Credaf fod hi’n allweddol rŵan i blethu’r safleoedd allweddol yma gyda hanes Cymru, gyda’r addysg yma, a dyna pam y gwnes i ddeiseb ar achub Sycharth.
“Byddai achub a datblygu’r safle ddim yn unig yn dod a’r safle yn fwy at sylw bobol yn y genedl (llawer o bobol sydd nai llai ddim yn gwybod bod y safle yn bodoli ar hyn o bryd, neu lle mae ei leoliad) ond hefyd yn dod â balchder at bethau fel yr iaith a’r diwylliant, a heb os byddai defnyddio’r safle yma’n galluogi’r person, yn enwedig disgyblion a phlant, i ddychmygu’r hanes, ac yn plethu’r holl beth mewn i’r tirlun.
“Digalon felly oedd gweld y safle yn ei stad bresennol – Dyma sut y disgrifiais fy mhrofiad wrth ymweld â’r safle dipyn o fisoedd yn ôl:
“Prin bod arwydd i’w weld wrth fynd yno yn cyfeirio at y lle ar y ffordd drwy Llangedwyn.
“Er bod y maes parcio wedi’i darmacio, a camfa newydd i fynd dros y ffens, does dim arwydd na teimlad o werthfawrogiad hefo’r safle yma a’i bwysigrwydd i Gymru, mae fel ryw lecyn wedi ei guddio i ffwrdd, tra bod cestyll mawreddog Caernarfon a Chonwy yn cael ei ddathlu yn ddiddiwedd.
“Fel gwelir yn y lluniau, roedd o’n dipyn o gamp i gael ni’n pedwar drosodd, ac yn sicr bysa rhywun sydd isio dod â Cadair olwyn ar y cae a hefo anghenion arbennig yn cael trafferth mawr.
“Er diwrnod mor braf oedd hi, dwi’n credu bysa’r llwybr dros y gamfa yn troi yn boetsh gwlyb mwyaf sydyn!
“Un o’r pethau mwyaf rhwystredig oedd y ffyrdd i fynd ato, yn troi a throelli, a gyda tyllau a phyllau ar y rhannau ger y maes parcio.
“Y teimlad o’r castell ei hun yw does ddim llawer o eglurhad o’r safle, gyda dau plac gwybodaeth ger y fynedfa, a dim arall wedyn – a bechod oedd gweld erydiad a mieri ar twmpath y castell.”
“Gwallgof felly ydi gweld nad ydi Sycharth dan berchnogaeth y genedl – tra bod llefydd eraill gyda’r un pwysigrwydd cenedlaethol yn cael y fraint yma,” meddai wedyn.
“Wrth i ni ddathlu ac edrych yn ôl ar ein hanes, mae’n bwysig i ddefnyddio’r safle yma, yn ogystal â safleoedd eraill dros Gymru, i ddehongli’r gorffennol, a gan fod Sycharth, a hanes Glyndŵr yn rhan annatod o hanes ein cenedl, mae’n allweddol i gynnal trafodaeth ar ddyfodol a phwysigrwydd Sycharth ar lawr y Senedd.”
‘Digalon iawn’
Wrth siarad â golwg360 rai misoedd yn ôl, dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn ei fod yn “ddigalon iawn i weld bod cartref Glyndŵr, sef Sycharth, bron yn angof ynghanol cefn gwlad Powys”.
Mae bellach yn galw ar y Llywodraeth i fynd ati i sicrhau bod y safle’n cael ei gadw’n ddiogel i’r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a’i wneud yn fwy hygyrch i bobol allu mynd yno i werthfawrogi’r safle.
“Mae’n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru’n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ddathlu.
“Mae’n anodd dweud pam bod cestyll wedi cael eu gwarchod yng Nghymru ac nid Sycharth,” meddai.
“Efallai bod mwy o bwyslais wedi bod ar hanes Prydeinig y hytrach na hanes Cymru.
“Mae yna fwy o bwyslais wedi bod ar gastell Harlech.
“Dydy o [Sycharth] heb fod mor apelgar i’r llygaid â beth yw’r cestyll Prydeinig yma yng Nghymru.”
‘Symbol i’r genedl’
Mae’n bryd newid y ffordd rydyn ni’n edrych ar hanes Cymru, meddai Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n credu y dylid dechrau gyda Sycharth.
“Mae cymeriadau wedi lliwio’r hanes diddorol yma, gyda neb mor amlwg ag Owain Glyndŵr, sydd wedi cyfrannu gymaint i’n hunaniaeth, ac mae llawer yn ei ddefnyddio fel symbol i’r genedl.
“Mae Sycharth nid yn unig yn cynrychioli’r symbolaeth oedd Owain Glyndŵr yn ei gynrychioli, mae o’n cynrychioli rhywle pwysig iawn yn yr Oesoedd Canol.
“Mae’n rhoi rhyw ddarlun i ni o beth ydy’r gorffennol. Mae’n allwedd ar gyfnod Glyndŵr a’i ddylanwad dros Gymru.
“Roedd yn symbol o Gymru unedig flaengar ar y pryd.”
‘Y safleoedd yma’n bwysig iawn’
“O edrych ar y dirywiad sydd wedi bod efo’r cyfrifiad rŵan, sy’n dorcalonnus, rwy’n meddwl bod y safleoedd yma yn bwysig iawn,” meddai wedyn.
“Mae wedi cymryd 600 mlynedd i gael Senedd ein hunain. Mae o i gyd yn rhan o’r weledigaeth.
“Nid yn unig mae hanes Cymru yn adrodd beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ond sut rydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa rydym ynddo rŵan. Y sefyllfa wleidyddol, ieithyddol.
“Drwy edrych nôl ar hanes, gallwn ddeall y gorffennol a dadwneud rhai pethau neu newid pethau. Mae’n bwysig edrych i’r gorffennol i ddeall be sy’n digwydd yn y presennol.”