Wythnos Gofalwyr yw’r amser perffaith i ddiolch i ofalwyr am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud, yn ôl un o gynghorwyr Sir Benfro.

Daw sylwadau’r Cynghorydd Mike James, Hyrwyddwr Gofalwyr Cyngor Sir Penfro, wrth i sefydliadau ledled y sir a Chymru ddathlu Wythnos Gofalwyr yr wythnos hon (Mehefin 5-11).

Mae Wythnos Gofalwyr yn cael ei chynnal bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn helpu pobol nad ydyn nhw’n ystyried bod ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu i nodi eu bod yn ofalwyr a chael y cyfle i fanteisio ar gymorth.

Mae unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol, caethiwed, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddyn nhw heneiddio, yn ofalwr.

Gall effaith gofalu ar bob agwedd ar fywyd – o berthnasoedd ac iechyd i gyllid a gwaith – fod yn sylweddol.

Gofalu heb gymorth

Er bod sawl un yn teimlo mai gofalu yw un o’r pethau pwysicaf maen nhw’n ei wneud, ddylai’r heriau ddim cael eu lleihau, meddai’r Cyngor.

Gall gofalu heb yr wybodaeth a’r gefnogaeth gywir fod yn anodd.

Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cydnabod y cyfraniad mae gofalwyr yn ei wneud i’w teuluoedd a’u cymunedau lleol, eu gweithleoedd a’u cymdeithas, a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn ôl y Cyngor.

Bydd gofalu’n cyffwrdd â bywydau pob un ohonom, gan y bydd tri ym mhob pump o bobol yn dod yn ofalwyr ar ryw adeg.

Dathlu’r wythnos yn Sir Benfro

Yn Sir Benfro, mae gan fwy na 10% o’r boblogaeth gyfrifoldebau gofalu.

I gydnabod cyfraniad a gwerth gofalwyr, mae Wythnos Gofalwyr yn cael ei dathlu yn Sir Benfro gan amrywiaeth o sefydliadau.

Mae Adferiad Recovery (PCISS), Action for Children, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau am ddim ar gyfer gofalwyr ar draws y sir.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • digwyddiad i ofalwyr ym Maenordy Scolton gyda thaith o amgylch yr ardd a’r tŷ
  • Gweithffyrdd+ yn cynnig diod a chacen am ddim i ofalwyr yn eu caffis
  • te prynhawn i ofalwyr yn Nhyddewi

Mae modd dod o hyd i fanylion am yr holl weithgareddau ar wefan Cymorth i Ofalwyr Gorllewin Cymru, neu drwy ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro (PCISS) ar 01437 611002.

‘Gwaith pwysig ac angenrheidiol’

“Wythnos Gofalwyr yw’r amser perffaith i ddiolch i ofalwyr yn Sir Benfro am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud,” meddai’r Cynghorydd Mike James.

“Mae hefyd yn gyfle gwych i atgoffa bod cefnogaeth ar gael i ofalwyr yn lleol.”

Os ydych chi’n cydnabod eich hun fel gofalwr, neu’n adnabod rhywun sy’n gwneud hynny, mae cymorth ar gael:

  • Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc sy’n cael ei ddarparu gan Action for Children – 01437 761 330
  • Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro sy’n cael ei ddarparu gan Adferiad Recovery – 01437 611002 / PCISS@adferiad.org

Mae gweithgareddau hefyd yn digwydd ar draws Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer gofalwyr sy’n byw ger ffiniau’r sir. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â:

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin – Ffôn: 01267 230791 neu e-bost carersincarms@adferiad.org
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Ceredigion – Ffôn: 01970 633564 – E-bost: carersunit@ceredigion.gov.uk neu ewch i’r wefan