Mae mam i ddyn wnaeth lladd dyn arall wrth iddo fynd â’i gi am dro, yn mynnu ymddiheuriad cyhoeddus gan fwrdd iechyd ar ran ei mab a’r dyn y gwnaeth e ei ladd.

Fe wnaeth David Fleet, 20, drywanu dyn dieithr ar hap yn y Borth yng Ngheredigion ddiwrnodau’n unig ar ôl cael gadael uned seiciatryddol.

Cafodd ei anfon adref o’r uned er gwaethaf rhybuddion fod ei gyflwr meddyliol yn gwaethygu, a bu farw Lewis Stone yn sgil ei anafiadau dri mis wedi’r ymosodiad ym mis Mai 2019.

Daeth y rhaglen BBC Wales Investigates, fydd yn cael ei darlledu heno (nos Lun, Mehefin 5) i wybod am arolwg gan fwrdd iechyd ynghylch y gofal gafodd David Fleet, oedd heb gael ei gyhoeddi cyn yr ymosodiad.

Yn ôl yr adroddiad, rhybuddiodd meddyg dair wythnos cyn iddo gael mynd adref nad oedd e’n barod i adael yr uned am fod ei gyflwr meddyliol wedi gwaethygu, a’i fod yn beryglus â chyllyll yn ei feddiant.

Ddyddiau’n ddiweddarach, aeth e adref er mwyn derbyn gofal yn y gymuned, a hynny heb fod neb yn diweddaru asesiad risg.

Yn ôl Sharon Lees, mam David Fleet, roedd hithau hefyd wedi rhybuddio staff ynghylch ei phryderon a’r ffaith e fod e’n dal i chwilio am gyllell ar ôl mynd adref a’i fod e wedi dechrau ysmygu canabis eto.

Dywed fod dau deulu wedi’u dinistrio yn sgil y digwyddiad, ac y gellid fod wedi osgoi’r cyfan gan fod digon o rybuddion wedi bod.

Daeth y rhaglen i wybod fod disgwyl i staff iechyd meddwl gysylltu â David Fleet ddiwrnod cyn iddo fynd adref, ond wnaethon nhw ddim, a bod disgwyl iddo fe dderbyn meddyginiaeth hefyd ond ddigwyddodd hynny ddim chwaith.

Dywed ei fam fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud wrthi mewn llythyr fod newidiadau wedi bod i ofal iechyd meddwl ers y digwyddiad, ond dywed nad yw hynny’n ddigon yn achos ei mab.

Dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd modd iddyn nhw gyhoeddi casgliadau’r arolwg gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth feddygol gyfrinachol, ond fod eu staff eu hunain a Llywodraeth Cymru wedi gweld y casgliadau.

Gall Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiadau iechyd meddwl lle mae rhywun wedi cael eu lladd, ond dydy hynny ddim wedi digwydd ers 2016, sy’n golygu nad yw byrddau iechyd eraill wedi cael gweld manylion all fod o gymorth iddyn nhw.

Yn ôl y bargyfreithiwr yr Arglwydd Carlile, does dim modd dysgu gwersi o dan y fath amgylchiadau, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud na fu angen rhannu adolygiadau ers saith mlynedd gan fod byrddau iechyd wedi cynnal eu hadolygiadau eu hunain.

Cafodd David Fleet ddiagnosis o sgitsoffrenia ar ôl pledio’n euog i ddynladdiad drwy gyfrifoldeb lleihaedig, ac fe gafodd ei gadw yng ngofal uned iechyd meddwl am gyfnod amhenodol.

Ond mae teulu Lewis Stone wedi ei ddisgrifio fel “anghenfil” gan ddweud nad oes maddeuant i’w gael.

Garvey Gayle

Fis yn ddiweddarach, roedd Garvey Gayle, oedd yn glaf iechyd meddwl yng Nghaerdydd, wedi trywanu ei dad i farwolaeth ac wedi ceisio trywanu ei fam mewn digwyddiad yn Llaneirwg.

Cafodd y dyn 20 oed ei ryddhau o uned iechyd meddwl bedwar mis cyn y digwyddiad ym mis Hydref 2020.

Yn ôl ei fam, Amanda Gayle, roedd arwyddion o seicosis ers dros flwyddyn cyn y digwyddiad, a’i bod hi wedi ei chael hi’n anodd cael hyd i gefnogaeth iddo.

Gofynnodd hi i feddygon a’r heddlu am gymorth, ond fe gafodd ei garcharu am ddeg wythnos am ymosod arni.

Ar ôl cael gadael y ddalfa, gwaethygodd ei gyflwr meddyliol, ac fe aeth i ofal gwasanaethau iechyd meddwl gan dreulio chwe mis mewn uned seiciatryddol.

Ond pan gafodd e adael yr uned, cafodd ei anfon i fyw mewn hostel i bobol ddigartref yn y brifddinas, er ei fod yn peri risg uchel i’w rieni.

Yn ôl ei fam, doedd e ddim wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia tan ar ôl iddo ladd, ac fe blediodd yn euog i ddynladdiad drwy gyfrifoldeb lleihaedig a’i ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned iechyd meddwl.

Pe bai e wedi derbyn cymorth, mae ei fam yn credu y byddai ei dad yn dal yn fyw ac y byddai wedi cael y gefnogaeth oedd ei hangen arno.

Mae eu hachos yn un o’r rhai cyntaf i fod yn destun adolygiad o dan system warchod newydd Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad i hynny, dywed Heddlu’r De a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro nad oes modd iddyn nhw wneud sylw.

Does dim disgwyl i ganlyniadau’r arolwg fod ar gael am beth amser, ac erbyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi, bydd tair blynedd wedi mynd heibio ers i dad Garvey Gayle farw.