Mae ymchwil gan Brifysgol Loughborough ar ran y Glymblaid Dileu Tlodi Plant yn dangos bod mwy nag un o bob pump plentyn ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru’n byw mewn tlodi.
Mae tlodi plant ar ei waethaf ym Mlaenau Gwent (30.3%) a Cheredigion (30%), tra bo’r ffigwr yn dal i fod dros un ym mhob pump (21.4%) yn Sir Fynwy hefyd.
Yn ôl Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, dylid trin tlodi plant yng Nghymru fel “problem genedlaethol” yn hytrach na phroblem drefol neu wledig neu un sy’n bodoli yn y cymoedd yn unig.
Mae 27.9% o blant Cymru’n byw mewn tlodi ar ôl costau tai, ond heb ystyried costau tai mae’r ffigwr yn codi i 79.8% mewn aelwydydd lle mae teuluoedd yn gweithio.
“Dydy tlodi ddim yn broblem sy’n perthyn i’r gorffennol,” meddai Claire Atchia McMaster, Cyfarwyddwr Materion Allanol yn Turn2us.
“Er bod yr ystadegau hyn yn syfrdanol, rydym yn credu bod modd datrys tlodi.
“Mae’r ffaith fod saith ym mhob deg o blant sy’n profi tlodi yn byw mewn aelwydydd lle mae teuluoedd yn gweithio yn symptom o swyddi ansefydlog â chyflogau isel a budd-daliadau nad ydyn nhw wedi cadw i fyny â chostau byw gwirioneddol.
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod sicrwydd ariannol yn mynd y tu hwnt i allu pobol i gyllidebu neu eu hysgogiad unigol i lwyddo; ein heconomi a’n rhwyd diogelwch cymdeithasol sydd ddim yn gweithio’n iawn.
“Mae’r casgliadau hyn yn cynnig rheswm go dda pam y dylai Llywodraeth Cymru wneud diweddariadau mawr eu hangen i’w Strategaeth Tlodi Plant, oherwydd mae hyd yn oed un plentyn heb ddigon i’w fwyta’n un yn ormod yn 2023.”
‘Yr angen mwyaf erioed i weithredu’
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod plant o deuluoedd mawr yn fwy tebygol o lawer o fyw mewn tlodi.
Yn 2021-22, 42% oedd y gyfradd dlodi yn y Deyrnas Unedig ymhlith plant â nifer o frodyr a chwiorydd, o gymharu â 23% a 22% ar gyfer plant mewn teuluoedd ag un neu ddau o blant.
Gyda chynifer o blant yn byw mewn tlodi, mae mwy o angen nag erioed i weithredu, yn ôl Dr Steffan Evans.
“Ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r Glymblaid Dileu Tlodi Plant yn galw am ddileu’r uchafswm o ddau o blant ar gyfer y rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, o ystyried y cyswllt clir rhwng y polisi a chyfraddau tlodi plant mewn teuluoedd mawr.
“Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar hyn o bryd i ddiweddaru eu Strategaeth Tlodi Plant.
“Mae’r dadansoddiad diweddaraf yn ei gwneud hi’n glir fod rhaid i’r strategaeth newydd hon ddod ochr yn ochr â gweithgarwch fydd yn helpu i roi arian ym mhocedi teuluoedd a gwella mynediad i wasanaethau.”