Mae YesCymru, y mudiad annibyniaeth, yn chwilio am Swyddog Grwpiau a Digwyddiadau yn dilyn twf sylweddol yn nifer eu haelodau dros y misoedd diwethaf.
Rôl y swyddog newydd fydd cydlynu grwpiau aelodaeth ar lawr gwlad ledled Cymru, a threfnu digwyddiadau swyddogol yr ymgyrch.
Mae’r mudiad wedi denu dros 1,000 o aelodau newydd dros y chwe mis diwethaf, sydd wedi rhoi digon o hwb i’w coffrau i allu creu’r swydd.
Daw hyn yn dilyn gorymdaith annibyniaeth lwyddiannus dros ben yn Abertawe fis diwethaf, gyda 7,000 o bobol yn gorymdeithio drwy’r ddinas.
Nod YesCymru drwy benodi’r swyddog newydd yw proffesiynoli ac ehangu’r mudiad, ar ôl i arolwg barn gan Redfield & Wilton Strategies ddatgelu ym mis Mai fod 36% o bobol yng Nghymru bellach o blaid annibyniaeth.
‘Cyfnod hynod gyffrous i YesCymru’
“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i YesCymru,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr y mudiad annibyniaeth.
“Rydym newydd gael gorymdaith hynod lwyddiannus dros annibyniaeth yn Abertawe, ac rydym yn gweld twf sylweddol yn nifer yr aelodau.
“Hoffwn ddiolch i’n holl aelodau a’n gwirfoddolwyr ymroddedig o bob rhan o’r wlad a thu hwnt sydd wedi gwneud hi’n bosibl llogi swyddog newydd.
“Ni fyddem yn gallu gwneud dim heb eu cefnogaeth.
“Bydd y Swyddog Grwpiau a Digwyddiadau yn chwarae rhan allweddol yn nhwf a datblygiad grwpiau YesCymru ac wrth gydlynu ac ehangu ein digwyddiadau swyddogol.
“Dim ond y dechrau yw hyn oherwydd po fwyaf o gefnogaeth a gawn, y mwyaf o adnoddau fydd ar gael i’n galluogi i ddatblygu ac ehangu ein gallu i ymgyrchu a threfnu mewn cymunedau ledled Cymru.
“Rydym yn gweld mwy a mwy o bobl yn syrffedu ar wleidyddiaeth hen a gwenwynig y sefydliad yn San Steffan; trefn sy’n niweidio ein cymunedau ac yn dal Cymru yn ôl rhag gwireddu ei photensial.”