Mae’r Athro Elan Closs Stephens wedi’i phenodi’n Gadeirydd dros dro’r BBC.

Bydd hi’n olynu Richard Sharp, fydd yn camu o’r neilltu ar Fehefin 27.

Yn ôl Siarter y BBC, rhaid i’r Cadeirydd dros dro fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol presennol o Fwrdd y Gorfforaeth.

Dywed yr Athro Elan Closs Stephens ei bod hi’n “fraint” cael ei phenodi, gan ddiolch i aelodau’r Bwrdd am ymddiried ynddi.

Dywed y bydd y Bwrdd yn hybu ffi’r drwydded ledled y Deyrnas Unedig, yn sicrhau bod y BBC yn bartner hanfodol i’r diwydiannau creadigol, yn adfer ffyrdd ac yn gyrru newidiadau er mwyn sicrhau bod y BBC yn addas mewn tirlun sy’n newid ym myd y cyfryngau.

Dywed fod yna “lawer o waith i’w wneud” er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau hynny.

Gyrfa

Bu’r Athro Elan Closs Stephens yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Bwrdd y BBC ers Gorffennaf 2017.

Cyn hynny, roedd hi’n Ymddiriedolwr Cymru gydag Ymddiriedolaeth y BBC rhwng 2010 a 2017.

Mae’n gyn-Gadeirydd S4C, ac ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Ganghellor ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Hefyd, mae’n Gomisiynydd Etholiadol Cymru.

Mae disgwyl iddi fod yn ei rôl am rai misoedd tra bo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn chwilio am Gadeirydd parhaol.

Yn ôl y BBC, hi yw’r “dewis delfrydol” i fod yn Gadeirydd dros dro.