Owain Williams o Abergele yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Mae’n ennill Coron yr Eisteddfod.
Wedi’i fagu ar ffarm ger Betws yn Rhos, Abergele, mae’n 23 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol y Creuddyn.
Ac yntau bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae’n gweithio fel meddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Enillodd radd mewn Meddygaeth o Brifysgol Caerdydd, ac roedd yn Llywydd ar Gymdeithas Gymraeg yr Ysgol Feddygol, sef Clwb Y Mynydd Bychan.
Mae’n edrych ymlaen at ddechrau swydd newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst.
Lleu oedd ei ffugenw, a dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu ar gyfer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd.
Teitl y darn buddugol oedd ‘Blodyn Haul’.
‘Mae ennill yn fraint’
“Mae ennill yn fraint arbennig, ac mi ydw i’n hollol ddiolchgar am y cyfle,” meddai Owain Williams.
“Mae’n parhau i fod yn sioc llwyr ac yn fy ysbrydoli i barhau i ysgrifennu.
“Mi oeddwn yn awyddus i ysgrifennu darn o’r galon – a thrafod themâu sy’n gyfarwydd i amryw o bobl fel unigedd, dynamig teulu, newid a heneiddio.
“Mae’r darn yn adrodd stori gyffredin; ac wrth weithio fel meddyg dwi’n gweld y sefyllfa yma bob dydd.
“Dwi’n teimlo nad ydy’r rhan yma o fywyd yn cael ei drafod o gwbl.”
Y dasg
Gofynion cystadleuaeth Y Goron eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Hadau’.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Fflur Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis.
“Mae yma storïwr wrth reddf sy’n gallu dewinio naws ac awyrgylch yn gynnil ac yn effeithiol, ac mae’r awdur hwn hefyd yn ymwybodol o siâp a strwythur stori fer effeithiol,” meddai Fflur Dafydd wrth draddodi’r feirniadaeth.
“Mae’n darlunio cyfnod ym mywyd Enid, dynes oedrannus sy’n cael cryn gysur o blannu blodau haul, ac yn eu trin gyda chariad fel pe baent yn deulu iddi.
“Mae yma ysgrifennu delweddol, disgrifiadol hyfryd ar brydiau, yn enwedig wrth ddisgrifio’r newid mewn tymhorau.
“Mae’n stori glir, syml, effeithiol – ond hefyd sy’n llawn ysgrifennu aeddfed, sy’n ennyn emosiwn, ac yn creu delweddau effeithiol dro ar ôl tro.
“Mae yma lais tawel, cynnil, sydd wedi gwneud i ni deimlo i’r byw dros Enid, ac wedi roi stori gyflawn i ni a fydd yn debygol o fod ag apêl eang.”
Aeth yr ail wobr i Tesni Peers, sy’n 20 oed ac yn dod o Rhosllannerchrugog yn Wrecsam, a’r drydedd wobr i Tegwen Bruce-Deans, sef Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.
Y Goron
Cafodd y Goron ei rhoi gan Gwmni Teledu Tinopolis, a noddwyr y seremoni oedd Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Goron eleni’n gywaith rhwng trigolion, disgyblion a chrefftwyr Sir Gaerfyrddin.
Roedd cael mewnbwn pobol ifanc y Sir yn bwysig i’r pwyllgor a chafodd disgyblion yr ardal gyfle i rannu syniadau wrth benderfynu ar brif themâu y gampwaith.
Ar frig y Goron, mae llinell yn dangos taith y Porthmyn dros fryniau a dyffrynnoedd yr ardal.
Mae llinell trwy ganol y Goron yn adlewyrchu taith yr Afon Tywi o’i tharddiad uwchlaw Brianne lawr i Lansteffan.
Cafodd llinell o waith William Williams Pantycelyn ei ddewis, sef “Mae dy eiriau fel gwin”, ac mae’r grefftwraig Mari Bennet wedi ysgrythu’r geiriau hynny yn gywrain o fewn yr afon ar y Goron.