Mae ennill Coron Eisteddfod yr Urdd ar ei ymgais gyntaf yn “anrhydedd llwyr” ond yn “dipyn o sioc”, meddai meddyg ifanc o ochrau Abergele yng Nghonwy.

Eleni oedd y tro cyntaf i Owain Williams, sydd wedi’i fagu ar fferm ger Betws yn Rhos ond yn gweithio fel meddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn byw yng Nghaerdydd, drio yng nghystadleuaeth y Prif Lenor.

Darn sy’n trafod yr emosiynau mae rhywun yn eu teimlo wrth heneiddio, a sut mae bywyd yn newid gydag oed, gyflwynodd i’r gystadleuaeth.

Gofynion cystadleuaeth Y Goron eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Hadau’, a disgrifiodd y beirniaid, Fflur Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis, waith Owain Williams fel “stori glir, syml, effeithiol – ond hefyd sy’n llawn ysgrifennu aeddfed, sy’n ennyn emosiwn, ac yn creu delweddau effeithiol dro ar ôl tro”.

‘Sgrifennu o’r galon’

Mae’r stori, Blodyn Haul, yn adrodd hanes bywyd dynes o’r enw Enid, sy’n tyfu blodyn haul, rhywbeth mae hi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd.

“Mae’r stori yn trafod yr emosiynau mae hi’n eu profi fel mae hi’n heneiddio, a’r perthnasau sydd ganddi hi efo’i theulu a’i ffrindiau, a’r newid go iawn yna sy’n digwydd yn ei bywyd hi – colli annibyniaeth mewn rhai ffyrdd. Hyd at ddiwedd y stori, mae ei bywyd hi’n newid yn gyfan gwbl,” meddai Owain Williams wrth golwg360.

“Dangos bod yna newid clir ym mywyd pobol hŷn, a sôn am yr emosiynau tu ôl i hynny mae’r stori.

“Mae hi’n stori reit syml.

“Doedd yna ddim un ysbrydoliaeth gadarn tu ôl i’r darn, roedd o’n gyfuniad o ffactorau.

“Y peth pwysicaf i fi oedd sgrifennu o’r galon, sgrifennu darn oeddwn i’n uniaethu efo ac oedd gen i ryw fath o brofiad efo fo.

“Dyma fi’n meddwl am bethau sy’n agos at fy nghalon, dw i’n gweithio lot efo pobol hŷn ac yn amlwg mae yna bobol hŷn yn fy nheulu i ac roeddwn i eisiau trafod ychydig bach o’u stori nhw.”

‘Dipyn o sioc’

Enillodd Owain Williams radd mewn Meddygaeth o Brifysgol Caerdydd, ac mae ar fin dechrau swydd newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst.

Doedd fawr ddim amser i sgrifennu’n ystod ei astudiaethau, er ei fod yn mwynhau sgrifennu ers ei ddyddiau yn yr ysgol gynradd ac yna yn Ysgol y Creuddyn yn Llandudno.

“Ar ôl siarad efo un o fy athrawon llynedd, [fe wnes i feddwl] efallai y bysa hi’n syniad gwneud rhywbeth gwahanol o sgrifennu rhywbeth ac wedyn dyma fi’n penderfynu mynd am y Goron fel ymgais i sgrifennu tuag ato fo, bron,” meddai.

“Fe wnes i wir fwynhau sgrifennu’r darn, a dw i mor ddiolchgar ac mor falch fy mod i wedi sgrifennu.

“Mae’n anrhydedd llwyr [ennill], annisgwyl iawn. Gan fy mod i wedi trio am y tro cyntaf doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill.

“Mae’n dipyn o sioc, ond mor ddiolchgar.”

Owain Williams yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd

Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yw’r wobr