Y comedïwr Elis James yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 2).

Wedi’i fagu yng Nghaerfyrddin, ar ôl symud yno o Hwlffordd yn Sir Benfro, mae ganddo “atgofion melys” o’r Urdd, a chael clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol tu allan i’r ysgol.

Dechreuodd ei yrfa fel digrifwr stand-yp yn 2005, ac ers hynny mae wedi perfformio mewn gwyliau ledled gwledydd Prydain, Awstralia a Seland Newydd.

Enillodd ei sioe BBC Radio 5live gyda John Robins y wobr aur am y Sioe Radio Fwyaf Doniol yng Ngwobrau Aria 2020.

Mae’n ysgrifennu a chyflwyno Fantasy Football League ar Sky gyda Matt Lucas, ac yn ysgrifennu am bêl-droed i The Guardian.

“Yr atgofion sydd gyda fi [o’r Eisteddfod] ydy mynd mas yn y cylch bob blwyddyn – 1987, 1988, 1989 – ac wedyn ymddeol yn 1990,” meddai Elis James wrth golwg360.

“Atgofion o’r Urdd, maen nhw’n atgofion melys dros ben. Es i i Langrannog sawl gwaith, roeddwn i’n gweithio fel swog yn Llangrannog, mynd i’r Aelwyd bob wythnos.

“Mae’r Eisteddfod yn un rhan o’r gwaith mae’r Urdd yn ei wneud, yn enwedig i rywun fel fi, cyn i ni symud i Gaerfyrddin roeddwn i’n byw yn Hwlffordd a doedd dim ysgol Gymraeg yn Hwlffordd ar y pryd.

“Yn y 1980au, roedd Hwlffordd yn dref ddi-Gymraeg dros ben. Dim ond naw o blant oedd yn fy mlwyddyn i yn yr uned Gymraeg.

“Mynd i Langrannog, roeddwn i’n cael gweld plant yn defnyddio’r iaith mewn ffordd hollol naturiol a mynd â fe i ffwrdd o fod yn bwnc ysgol.

“Fi oedd yr unig blentyn oedd gyda dau riant oedd yn siarad Cymraeg gartref, felly roedd pethau fel Llangrannog a Glan-llyn yn enfawr pan oeddwn i’n ifanc.

“Y ffaith bod yr Eisteddfod yn Sir Gâr, y sir ble mae fy nheulu i gyd yn byw, mae e’n fraint bod yn Llywydd y Dydd.”

Cyflwyno’r Urdd i bobol ddi-Gymraeg

Ac yntau bellach yn byw yn Llundain gyda’i deulu, mae Elis James wedi cael cyfle i gyflwyno’r Urdd a’r Eisteddfod i’w gariad, yr actores a’r ddigrifwraig Isy Suttie.

Mae gan y pâr ddau o blant, ac er bod eu mab yn rhy ifanc i werthfawrogi’r Urdd eto, mae gan ei ferch ddiddordeb mawr.

“Mae ei chefnder hi’n cystadlu – dechreuodd e gystadlu ddoe ac roedd hi’n gwylio fe ar y teledu,” meddai.

“Y peth gyda’r Urdd, mae Isy fy nghariad yn actio a buodd hi’n gwneud pethau fel drama ieuenctid, ond i rywun sydd ddim o Gymru mae e’n eithaf anodd esbonio beth yw’r Urdd.

“Bore yma, cyn i ni adael y tŷ, roedd hi’n dweud pethau fel, ‘Fydd parcio? Beth yw e?’

“Dw i’n edrych ymlaen at gyflwyno’r pethau yma i gyd i Isy.

“Ond hefyd, sa i wedi bod i Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd maith.

“Roeddwn i’n cerdded o gwmpas y maes bore yma, ac mae e wedi diweddaru gymaint ers i fi fod yn ifanc.”