Bydd digwyddiadau rhyngwladol yn dwyn enw Gŵyl y Gelli yn cael eu cynnal rhwng 2023 a 2006.

Y bwriad yw cynnal Hay Queretaro ym Mecsico, Hay Arequipa ym Mheriw, a Hay Cartagena yng Ngholombia.

Yr wythnos hon, a hithau’n wythnos Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll, mae’r Cyngor Prydeinig wedi bod yn cefnogi rhaglen o ddigwyddiadau llenyddol, gan ganolbwyntio ar y thema ecwiti a rhoi llwyfan i lenorion ifainc o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Bwriad y gyfres newydd o ddigwyddiadau dros y tair blynedd nesaf yw rhoi llais grwpiau o leisiau diwylliannol sydd wedi’u tangynrychioli yn y gorffennol.

Fel rhan o’r gyfres, bydd siaradwyr o’r Deyrnas Unedig yn ymuno â lleisiau rhyngwladol fel rhan o brosiect cyfnewid sy’n cynnwys podlediad fydd yn cael ei ddatblygu ar sail y digwyddiadau ym Mecsico, Periw a Cholombia.

Mae disgwyl i enwau’r rhai fydd yn cymryd rhan gael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae’r prosiect hefyd yn cwmpasu Sbaen, lle bydd awduron, artistiaid a phobol ddylanwadol eraill o’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn Hay Segovia.

‘Creu gofod i rymuso grwpiau amrywiol’

Yn ôl Scott McDonald, Prif Weithredwr y Cyngor Prydeinig, bydd y sgyrsiau a’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu’n “creu gofod i rymuso grwpiau amrywiol”.

“Yn dilyn y peilot y llynedd, mae’n bleser gwirioneddol gallu cyhoeddi cyfres newydd o sgyrsiau fydd yn cael eu cynnal yn y gwyliau hynny dros y tair blynedd nesaf,” meddai.

“Wrth i anghyfartaledd barhau i fodoli’n fyd-eang, rydym yn credu bod creu gofod ar gyfer cyfnewid rhyng-ddiwylliannol yn grymuso grwpiau amrywiol, yn creu sgyrsiau trawsddiwylliannol i hwyluso datrys problemau gyda’n gilydd, ac yn codi lleisiau unigolion yn uwch – ac yn eu helpu nhw i godi ymwybyddiaeth ac adeiladu solidariaeth rhwng grwpiau.

“Cafodd y digwyddiadau hyn eu dylunio i gefnogi cyfraniadau diwylliannol gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol, ac i fynd i’r afael â themâu brys.

“Bydd y gyfres yn dechrau gyda digwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli ym Mecsico ym mis Medi, a thros dair blynedd rydym yn anelu i greu sgyrsiau o’r de i’r gogledd rhwng llenorion, gan fynd i’r afael â phynciau megis rhywedd a hunaniaeth, hil ac ethnigrwydd, niwro-amrywiaeth ac amrywiaeth corfforol, a heriau cymdeithasol-economaidd.”

‘Ystod o leisiau a phersbectifau’

“O’r gyfres, gall ffans llenyddol ddisgwyl clywed gan lenorion sy’n cynrychioli ystod o leisiau a phersbectifau ar thema ecwiti, gan ddechrau eleni drwy ganolbwyntio ar rywedd a hunaniaeth rywiol,” meddai Sinead Russell, Cyfarwyddwr Llenyddol y Cyngor Prydeinig.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Hay i gynnig y cyfle i’r llenorion hyn rannu eu gwaith gyda chynulleidfaoedd newydd o amgylch y byd, ac i greu llwyfan lle gall sgyrsiau rhyngwladol ynghylch pynciau pwysig ddechrau a chael eu rhannu.”

Yn ôl Julie Finch, Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, mae’r ŵyl yn “symbol rhyngwladol o obaith, dychymyg creadigol a dyfodol gwell”.

“Rydym yn credu y gall syniadau newid y byd gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig yn fyd-eang, gallwn ni gyrraedd yn ehangach ac ymhellach, gan ddod ynghyd i gynnig persbectifau gwahanol trwy lenyddiaeth, celf, syniadau a mynegiant creadigol, gallwn ni ddod o hyd i’r gwirionedd a gobaith.”