Roedd cael dod i’r brig yng ngwobrau Tir na n-Og fel pâr priod yn gwneud ennill y wobr yn fwy arbennig fyth, meddai awduron y gyfrol fuddugol.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, wedi’i hysgrifennu gan Luned a Huw Aaron, ddaeth i’r brig yng nghategori oedran cynradd y gwobrau llenyddiaeth plant.

Cafodd y gwobrau eu cyhoeddi ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddydd Iau (Mehefin 1), a datgelwyd hefyd mai cyfrol Alun Davies, Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, yw enillydd y categori oedran uwchradd.

Dwy gyfrol gan Manon Steffan Ros ddaeth i’r brig ym mhleidlais Dewis y Darllenwyr – Powell yn y categori uwchradd a Nye, wedi’i ddarlunio gan Valeriane Leblond, yn y categori cynradd.

Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd yr awduron sy’n byw yng Nghaerdydd, ei bod hi’n fraint ei derbyn.

“Ti’n gweld rhestr o’r enwau a’r llyfrau sydd wedi ennill o’r blaen, ac mae bod yn rhan o’r rhestr yna’n wych ac yn ffantastig ac yn dangos bod yr holl waith rydych chi’n rhoi mewn i greu llyfr a’i ddanfon e mas i’r byd a byth yn gwybod sut geith e ei dderbyn – mae’n hyfryd i gael yr adborth yna fel hwb i gario ymlaen,” meddai Huw Aaron, sydd wedi darlunio’r llyfr, wrth golwg360.

“Wrth ein boddau, yn enwedig i ennill gyda’n gilydd.”

‘Cywaith bob tro’

Sut beth ydy cydweithio fel gŵr a gwraig, felly?

“Mae hi’n hyfryd gweld Huw yn ymateb yn weledol i’r geiriau a bownsio syniadau. Cywaith ydy o bob tro,” meddai Luned Aaron.

“Yn aml, os ti yn y maes fel awdur neu ddarlunydd, efallai bod yna ddim perthynas o gwbl a ti ddim yn gwybod dim am y person arall, ond yn ein hachos ni mae o wir yn gywaith.

“Pan ti’n cael cyfrol drwy’r post a’r holl ddegau o lyfrau yn y bocs, mae o’n sbesial ar ôl yr holl broses hir o greu’r llyfr, ond mae yna rywbeth mwy arbennig o gael y gyfrol efo enw Huw hefyd.”

Yn ystod y seremoni yn yr Arddorfa, cafodd Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, sy’n adrodd hanes prif gymeriad sydd eisiau bod yn ddeinosor neu’n “robot, roced, crocodeil neu ddraig”, ei pherfformio gan ddisgyblion Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin.

“Roedden ni wedi cael gwybod o flaen llaw ein bod ni wedi ennill y wobr, felly doedd hwnna ddim yn syrpreis ar y dydd, ond yn syrpreis pan glywon ni, ond roedd y perfformiad wedyn yn syrpreis,” meddai Huw Aaron.

“Roedd gweld plant Ysgol y Dderwen yn perfformio’n geiriau ni yn Eisteddfod yr Urdd yn ffantastig.

“Fe wnaethon nhw job mor dda o gymryd y geiriau, mae’r lluniau’n gwneud i’r geiriau ddod yn fyw yn y llyfr, ond wedyn ar ffurf perfformiad roedd hwnna’n syrpreis llwyr.

“Roedd e’n wych – bach o ddeigryn yn y llygaid.”

Gwasg Broga

Mae Luned a Huw Aaron yn rhedeg Gwasg Broga, sy’n cyhoeddi llyfrau plant, a nhw oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrol Manon Steffan Ros a Valeriane Leblond, Nye hefyd.

“Pan wnaethon ni ofyn i Manon Steffan Ros a Valeriane Leblond greu llyfr ar y cyd, roedden ni’n hyderus y byddai’n llyfr gwerth chweil, ac mi roedd o’n llyfr arbennig ac roedden nhw’n llawn haeddu’r tlws yma wedi cael ei roi gan yr holl blant.

“Nhw ydy’r beirniad pwysicaf, wrth gwrs,” meddai Luned Aaron.

“Rydyn ni’n dathlu efo nhw, mae e wir yn bluen yn eu het nhw.”

Yn ôl Huw Aaron, mae Manon Steffan Ros a Valeriane Leblond yn “ddwy o’r big guns” ac yn “dream team“.

“I gyfleu bywyd rhywun mor bwysig a gyda chymaint o drafodaethau am yr NHS ers cyfnod Covid, mae e fel tase Aneurin Bevan yn cynrychioli rhyw fath o ymgnawdoliad o’r NHS a’r ysbryd ohonom ni i gyd yn tynnu at ein gilydd,” meddai.

“Roeddwn i’n meddwl bod e’n unigolyn oedd rhaid i ni gael yng nghyfres Enwogion o Fri, gyda neges gyfoes iawn o ran gwerth y Gwasanaeth Iechyd a’i werth e fel unigolyn.

“I gael gwleidydd mae pobol yn ei garu, dydy hynna ddim yn beth sy’n digwydd yn aml iawn.

“Fe wnaethon nhw jobyn dda o ddod â hwnna i blant, ac mae’n amlwg bod pobol ifanc wedi ymateb a joio’r llyfr.

“Mae’r pleser cymaint ag ennill ein hun.

“Dw i’n meddwl dylsai pobol gadw golwg ar yr enw yma… Manon Steffan Ros – eith hi’n bell dw i’n meddwl!” meddai â’i dafod yn ei foch.

‘Braint ac anrhydedd’

Mae Manawydan Jones: Y Pair Dadeni yn llyfr llawn dirgelwch sy’n defnyddio’r Mabinogi fel ysbrydoliaeth.

Dyma gyfrol gyntaf Alun Davies i oedolion.

“Mae e’n fraint, anrhydedd i ennill y wobr, yn enwedig gyda dwy gyfrol arall mor gryf ar y rhestr fer,” meddai’r awdur wrth golwg360.

“Dw i ddim wedi ennill o’r blaen, dw i ddim wedi bod ar y rhestr fer o’r blaen, doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, felly mae hyn yn hyfryd.

“Fe wnes i ysgrifennu llyfr fyddai fy mhlant i’n gallu darllen.

“Mae gyda fi drioleg o lyfrau ditectif, sydd ddim yn addas i blant, felly roeddwn i eisiau sgrifennu rhywbeth fyddai’n addas iddyn nhw – ychydig bach antur, ychydig bach o gyffro ynddo fe.

“Mae cymeriadau’r Mabinogi yna’n barod i’w defnyddio, felly fe wnes i drio’u dwyn nhw!

“Y bwriad cyn ysgrifennu’r un cyntaf oedd ysgrifennu pump, a does neb wedi dweud fy mod i ddim yn cael gwneud e, felly dyna dw i dal yn meddwl gwneud!”