Mae’r awdur a’r dramodydd Nia Morais yn olynu Casi Wyn yn swydd Bardd Plant Cymru ar gyfer 2023-25, a’i phrif amcan yw sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i blant a phobol ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sy’n agos at eu calonnau, meddai.
Gofynnodd golwg360 iddi beth mae hi’n edrych ymlaen ato pan fydd yn dechrau ar y swydd newydd ym mis Medi.
“Dw i’n edrych ymlaen at allu teithio i gymunedau ac ysgolion gwahanol,” meddai’r llenor, sydd â Gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd mewn Ysgrifennu Creadigol.
“Dw i mo’yn gweld beth mae’r plant yn angerddol drosto fe, a beth maen nhw mo’yn i fi ei gynrychioli iddyn nhw.
“Dyna beth ydy fy rôl i – gweld beth sy’n eu diddori nhw a’u helpu nhw i fagu eu lleisiau a’u pŵer nhw.”
Dyfeisio geiriau newydd
Ar ôl iddi gymell y plant i fagu llais, ym mha ffurf lenyddol neu greadigol yr hoffai iddyn nhw ei fynegi?
“Creu cerddi,” meddai. “A chwarae o gwmpas gydag iaith.
“Dw i’n hoffi creu geiriau newydd gyda phlant.
“Y gweithdy a greais ar gyfer y cyfweliad i’r swydd oedd creu geiriau newydd yn y Gymraeg, a chreu gêm allan ohono fe.
“Ro’n i’n rhoi geiriau iddyn nhw ac yn gofyn, ‘Beth chi’n meddwl y mae hwn yn ei olygu?’ ac yn rhoi hints iddyn nhw.
“Ro’n i’n dweud, ‘Does dim atebion cywir – mae e lan i chi’, yna ro’n i’n eu helpu nhw i ddyfeisio geiriau newydd.”
Cafodd y syniad o weithdy y buodd arno gyda’r sefydliad artistig Pegwn, yn eu safle yng ngorsaf trên y Fenni.
Profiad
Mae gan Nia Morais brofiad o weithio gyda phlant, ar ôl gweithio yn gymhorthydd yn Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd.
Ar hyn o bryd, mae hi’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn gyntaf, Imrie, ar daith o gwmpas theatrau Cymru gyda Chwmni’r Frân Wen a Theatr y Sherman hyd at Fehefin 16.
Yn ei gwaith, mae hi’n hoffi ymdrin â themâu fel hunanddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith.
Mi ymgeisiodd am y swydd dair blynedd yn ôl.
“Doedd dim digon o brofiad gyda fi a dweud y gwir, ond ro’n i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio gyda phlant a barddoniaeth,” meddai.
“Dw i’n hoffi gweithio gyda phlant achos mae’n foddhaol iawn, ac mae yn fy sbarduno i lot.
“Mae gweithio gyda phlant yn bwysig i fi, achos mae hi’n bwysig magu eu hunanhyder nhw. Dyna rydw i’n hoffi ei wneud.”