Dywed Tegwen Bruce-Deans, Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, fod ennill y Gadair “yn hwb enfawr”, a hithau wedi dod i’r brig gyda’r darn ‘Rhwng dau le’.

Yn wreiddiol o Lundain, symudodd ei theulu i Landrindod, Maesyfed pan oedd yn ddwy oed.

Wedi’i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt – Ysgol Calon Cymru bellach – graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas, ac yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru.

‘Ddim yn teimlo’r ymdeimlad yna o gartref’

Gofynion cystadleuaeth Prif Seremoni’r Gadair Bl10 a dan 25 oed eleni oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Afon’.

“Mae’r gyfres o gerddi am bâr ifanc – fi a fy nghariad – yn symud mewn i dŷ efo ein gilydd,” meddai Tegwen Bruce-Deans wrth golwg360.

“Wnes i sgrifennu fo pan o’n i newydd orffen yn y brifysgol ac yn dechrau mewn swydd a symud allan o dŷ stiwdants.

“Felly ro’n i’n teimlo fel o’n i wirioneddol rhwng dau le yn feddyliol, yn haniaethol, ond hefyd yn llythrennol achos do’n i ddim yn teimlo fel bod genna’i gartref, mewn gwirionedd.

“Do’n i ddim yn teimlo’r ymdeimlad yna o gartref ti’n cael pan ti’n cyrraedd adref.

“Felly ro’n i’n trio creu rhyw synnwyr o’r teimladau ro’n i’n cael o hyn i gyd.

“Wnaeth y gyfres o gerddi sort of cael eu ffurfio o’r gwahanol stages yn y broses o symud tŷ, a delio efo hynny.

“Felly mae o’n cychwyn efo ni yn neidio mewn i’r afon a dechrau’r broses o symud tŷ, ac wedyn erbyn y diwedd rydan ni’n dychwelyd – dydy bob dim ddim yn berffaith yn amlwg, ond rydan ni’n dechrau rhoi marc ein hun ar y lle.

“Rydan ni’n dod at y môr yn haniaethol.”

Cyhoeddi cyfrol

Byddai rhai wedi dod ar draws Tegwen Bruce-Deans a’i gwaith barddoni cyn y seremoni heddiw, gan ei bod hi wedi dod yn agos i’r brig yn y gorffennol.

“Dw i wedi bod yn barddoni ers o’n i yn yr ysgol uwchradd,” meddai.

“Wnes i ddechrau trwy gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a ges i ail yn y gystadleuaeth, a wnaeth hynny rili gyrru fi ymlaen i ddatblygu fy sgiliau barddoniaeth a meddwl: ‘Dw i’n licio gwneud hyn. Dw i eisiau gallu gwneud rhywbeth pellach’.

“Ac wedyn ymlaen i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg, a dw i yma nawr wedi ennill Cadair yr Eisteddfod.

“Dw i hefyd am ryddhau cyfrol o gerddi efo Cyhoeddiadau Barddas o’r enw Gwawrio yn yr wythnosau nesaf, felly rili edrych ymlaen.

“Mae ennill y Gadair heddiw yn hwb enfawr i fi, y ffaith bo fi wedi cael platfform cenedlaethol i hyrwyddo’r cerddi.

“Roedd y beirniaid jest mor glên, a dw i’n meddwl weithiau pan ti’n barddoni ti ym myd bach dy hun, felly mae cael clywed bod rhywun arall wedi cysylltu efo’r geiriau ti wedi’u sgrifennu a bo nhw’n ennyn ryw emosiwn ynddyn nhw – mae o jest yn deimlad gwych.

“Dw i’n dod o ardal Llandrindod ym Maesyfed, felly dydy hi ddim yn ardal sy’n draddodiadol yn cael ei chysylltu efo bod yn ardal Gymraeg iawn.

“Ond dw i wastad wedi teimlo’n angerddol dros yr iaith, yn gymdeithasol a llenyddol.

“Mae cael sefyll fyny ar lwyfan y Cyfrwy yn Eisteddfod yr Urdd yn deimlad anhygoel.

“Mae hi wedi bod mor braf gweld hen athrawon fi yn teimlo mor falch, ac yn gallu gweld bod hogan o’r ardal yn chwifio’r faner dros Gymreictod.”