Mae costau ysgol Gymraeg newydd â lle i 240 o ddisgyblion tair i unarddeg oed yng nghanol Ceredigion wedi codi i ryw £16.3m, ac mae disgwyl i gyfraniad y Cyngor Sir godi gan £1.1m.

Fis diwethaf, fe wnaeth Pwyllgor Rheoli Datblygiad Cyngor Sir Ceredigion gefnogi cais i adeiladu Ysgol Gynradd Dyffryn Aeron ar safle tir glas yn Felinfach, ar y ffordd rhwng Aberaeron a Llanbed.

Bydd yr ysgol newydd yn tynnu tair ysgol gynradd ynghyd, sef Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd ac Ysgol Gynradd Felinfach, yn ogystal â’r Ysgol Feithrin bresennol a chanolfan drochi iaith Felinfach.

Costau

Yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar Fehefin 6, bydd aelodau’n derbyn adroddiad ar gynnydd y prosiect, fydd yn amlinellu cerrig milltir allweddol hyd yn hyn ac yn tynnu sylw at y cynnydd mewn costau.

Mae adroddiad ar gyfer yr aelodau’n dweud bod disgwyl mai £16.3m fydd cyfanswm cost y prosiect cyfan, sy’n cynnwys prif gytundeb adeiladu arfaethedig gwerth oddeutu £14.7m.

Mae disgwyl i brif ran y cynllun gael ei ariannu drwy grant o 65% gan Lywodraeth Cymru, gyda chyfraddau uwch ar gyfer rhai elfennau llai.

Cafodd C Wynne & Sons Ltd, sy’n masnachu dan yr enw Wynne Construction, eu penodi fis Gorffennaf y llynedd i gyflwyno Ysgol Dyffryn Aeron.

Cafodd Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect arian cyfatebol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar Fai 5 eleni, ac mae disgwyl iddo gael ei ystyried yn ddiweddarach y mis yma.

Pe bai’n cael sêl bendith, mae disgwyl i’r grantiau gael eu cadarnhau’n derfynol erbyn mis Gorffennaf.

Er mwyn cael dechrau ar y safle, mae tîm cyflwyno’r Cyngor wedi nodi gwaith y gellid ei wneud cyn derbyn dogfennau cynnig grant swyddogol, trwy ‘Lythyr o Fwriad’, meddai’r adroddiad.

Byddai’r costau gwirioneddol yn ystod y cyfnod sydd wedi’i nodi yn y ‘Llythyr o Fwriad’ arfaethedig yn cael eu tynnu oddi ar swm terfynol y cytundeb.

“O ganlyniad i gynnydd yng nghyfanswm y gost, bydd angen cynyddu cyfraniad arian cyfatebol y Cyngor o’r oddeutu £3.5m gafodd ei neilltuo i ryw £4.6m, gydag £1.1m ychwanegol yn ofynnol drwy gyfuniad o dderbynebau cyfalaf a’r Rhaglen Cyfalaf Craidd,” meddai’r adroddiad.

“Mae swyddogion wedi bod yn rhagweithiol ac wedi diogelu rhag cynnydd uwch posib drwy gyflwyno achos busnes ar gyfer arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amryw o gydrannau ar gyfraddau ymyrraeth grantiau uwch.”

Y Cyngor wedi ymrwymo’n llawn i’r cynllun

Daw’r adroddiad i ben drwy ddweud bod y Cyngor wedi ymrwymo’n llawn i’r cynllun.

“Mae’r Cyngor wedi diogelu ei hun cyhyd ag sy’n resymol bosib drwy gymryd cyngor cyfreithiol priodol ar gynnwys ‘Llythyr o Fwriad’ arfaethedig,” meddai.

Mae gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Llythyr o Fwrdd i uchafswm gwerth £1.276m ac i dderbyn y tendr ar gyfer y cytundeb adeiladu gwerth £14,656,660; a fydd y cytundeb ddim ond yn parhau ar ôl hysbysiad ffurfiol o gadarnhad o’r cyllid.

Mae gofyn i aelodau nodi, o gymryd bod yr achos busnes yn cael ei gymeradwyo, y bydd gofyn neilltuo £1.1m ychwanegol o arian cyfatebol gan y Cyngor.