“Llyfrau llawn hwyl a sbri, ynghyd â negeseuon cryf” sydd wedi cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og eleni.

Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aeron, a Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies sydd wedi dod i’r brig, wrth i’r enillwyr gael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn Llanymddyfri heddiw (dydd Iau, Mehefin 1).

Mae’r llyfrau buddugol yn dathlu pa mor unigryw yw pob plentyn, a phwysigrwydd derbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol.

Ar ben hyn i gyd, mae’r ddau lyfr yn arddangos pa mor bwerus yw stori a chymeriadau da i sbarduno’r dychymyg.

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, gafodd eu sefydlu yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobol ifanc yng Nghymru, ac maen nhw’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, sef Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.

Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws gafodd ei gomisiynu’n arbennig ac a gafodd ei greu gan ddylunwyr o Dawn’s Welsh Gifts yn Aberystwyth a Thregaron.

Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)

Dyma lyfr stori-a-llun sy’n llawn direidi a dychymyg.

Mae’r prif gymeriad eisiau bod yn ddeinosor, neu’n “robot, roced, crocodeil neu ddraig” – i enwi dim ond rhai pethau ar ei restr!

Yn hytrach na gweld y gwahaniaethau rhyngddo fe a’r creaduriaid eraill yn y llyfr, mae’n dod i sylweddoli ei fod yn unigryw yn ei ffordd ei hun – a does neb yn debyg iddo.

Dyma, wrth gwrs, sy’n ei wneud yn arbennig.

Mae hwn yn llyfr modern, doniol a lliwgar iawn sy’n trafod neges bwysig – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

“Ar ôl blynyddoedd tywyll y pandemig, roedd mwynhau llyfr hefo tipyn o hiwmor yn donig ac yn chwa o awyr iach,” meddai Morgan Dafydd, cadeirydd y panel beirniaid.

“Mae’r odl yn llifo mor naturiol, a’r stori yn un mor chwareus.

“Byddai hwn yn llyfr addas i blentyn ei ddarllen yn annibynnol ond hefyd i’w rannu â rhiant.

“Gallai’r panel ddychmygu sawl oedolyn yn gwenu wrth gyd-ddarllen.

“Er mai gweddol fyr yw’r llyfr, mae’r gwaith arlunio yn lliwgar, yn glir, yn fodern ac yn drawiadol.

“Roedd y beirniaid yn hoff o’r neges, sef ‘bod yn gyfforddus yn dy groen dy hun’ gan fod y neges yn glir, heb fod yn bregethwrol, nac yn teimlo fel petai’n cael ei orfodi.

“Roedd pawb yn gytûn ei bod yn bwysig cael llyfrau ysgafn, llawn hiwmor er mwyn denu (a chadw) darllenwyr.”

Yn ôl Luned Aaron, mae’r awduron “yn ei chyfri hi’n wir fraint” ennill y wobr.

“Mae’n golygu cymaint i ni ein dau ein bod wedi ennill Gwobr Tir na n-Og gyda’n llyfr stori-a-llun Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, ac mi rydan ni’n ei chyfri hi’n wir fraint,” meddai.

“Braf iawn hefyd ydi cael dod yn fuddugol ar y cyd!

“Diolch yn fawr i Rachel Lloyd o gwmni Atebol am ein cynorthwyo fel golygydd creadigol y gyfrol.

“Mae’r holl hyrwyddo sydd wedi bod ynghlwm â’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn hyfryd dros ben, gyda gweithgareddau amrywiol fel y Cynllun Cysgodi, Helfa Drysor a chystadleuaeth arddangos y siopau llyfrau wedi ychwanegu at y bwrlwm.”

Yn ôl Rachel Lloyd o gwmni Atebol, “mae ennill y categori Cynradd yn anrhydedd fawr”.

“Mae Gwobr Tir na n-Og yn rhoi cyfle arbennig i dynnu sylw at lyfrau plant a phobol ifanc ac i ddathlu’r cyfoeth o gyhoeddiadau newydd a chyffrous sydd gyda ni yma yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y gyfrol wedi plesio’r panel o feirniaid ac wedi llwyddo i ddod i’r brig eleni.”

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies (Y Lolfa)

Gan gychwyn gyda darganfod corff marw, mae darllenwyr yn sylweddoli’n fuan iawn bod y llyfr hwn yn un llawn dirgelwch.

Yna, rydym yn cwrdd â bachgen ifanc o’r enw Manawydan Jones sy’n wahanol i’r plant eraill mae’n eu hadnabod yn yr ysgol – ond dydy hynny ddim yn beth drwg.

Dyna beth sy’n ei wneud e’n arbennig – yn ogystal â’r ffaith ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. A’r sylweddoliad hwn yw dechrau’r antur gyffrous.

Ond nid llyfr antur ffantasïol yn unig yw Manawydan Jones – mae hi hefyd yn stori deimladwy am deulu, cyfeillgarwch, hunaniaeth a pherthyn.

Mae’n cyflwyno cymeriadau dewr, cryf a chofiadwy sy’n pwysleisio’r neges bwysig o ‘ddilyn eich llwybr eich hun’.

Dyma nofel gyffrous sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol: dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

“Rhyw dwist modern” ar y Mabinogi yw’r gyfrol, yn ôl Morgan Dafydd.

“Pendilia’r stori rhwng y prif naratif, sef siwrne bachgen ifanc ar antur hudol, ac ymgais yr heddlu sy’n ceisio datrys dirgelwch am lofrudd amheus,” meddai.

“Roedd y darnau yma’n ychwanegu at y stori ac yn cysylltu’r byd go iawn gyda byd hudol ynys Fosgad.

“Byddai’r nofel yma’n apelio at unrhyw un sy’n hoff o antur, hanes a ffantasi.”

Dywed Alun Davies ei fod e wrth ei fodd ac yn “falch iawn” o ennill y wobr.

“Roedd y rhestr fer yn un gystadleuol iawn, a hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i Manon Steffan Ros ac i Wyn a Efa Blosse Mason am greu cyfrolau mor wych,” meddai.

“Y llyfr yma yw cychwyn antur Manawydan Jones, a dwi’n falch bod cymaint wedi ei fwynhau; gobeithio bod y darllenwyr yn edrych ymlaen at weld mwy o’r cymeriad yn fuan.”

Yn ôl Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa, mae Alun Davies yn un o awduron “mwyaf talentog” Y Lolfa “sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf”.

“Roedd ei drioleg o nofelau i oedolion am y ditectif Taliesin MacLeavy yn gampweithiau, ac mae’r nofel Manawydan Jones: Y Pair Dadeni hefyd yn hynod ddarllenadwy a chrefftus wrth gyflwyno chwedlau Cymreig i’r arddegau,” meddai.

Cyfrolau Tir na n-Og

Mae rhestr fer Tir na n-Og 2023 yn cyflwyno darllenwyr ifanc i gast o gymeriadau cryf, chwedlonol a chreadigol, a’r cymeriadau hynny’n serennu mewn straeon rhyfeddol a dychmygus.

Dyma’r teitlau eraill oedd ar restr fer y categorïau Cymraeg:

  • Categori oedran cynradd

Enwogion o Fri: NyeBywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, gafodd ei darlunio gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga).

Dros y Môr a’r Mynyddoedd gan awduron amrywiol, gafodd ei darlunio gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch).

  • Categori oedran uwchradd

Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason, gafodd ei darlunio gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch).

Powell gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

‘Llongyfarchiadau’

“Llongyfarchiadau fil i’r enillwyr ar eu camp aruthrol,” meddai Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales.

“Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobol ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

Eleni, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflwyno elfen newydd i’r gwobrau, sef Dewis y Darllenwyr – tlws arbennig sy’n cael ei ddyfarnu gan blant a phobol ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og.

Cafodd enillwyr Dewis y Darllenwyr eu cyhoeddi hefyd yn ystod y seremoni lle enillodd Manon Steffan Ros yn y ddau gategori Cymraeg gyda’i llyfrau Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan a Powell.

Mae Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, wedi diolch i’r holl awduron ac wedi eu llongyfarch.

“Mae eu straeon wedi sefyll allan ymhlith y teitlau gwych niferus ar y rhestrau byr,” meddai.

“A diolch arbennig eleni i’r holl blant a phobol ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Cysgodi a chyfrannu mor frwdfrydig i wobrau Dewis y Darllenwyr.”

Bydd enillydd y wobr yn y categori Saesneg a’r tlws Dewis y Darllenwyr yn cael eu cyhoeddi ar The Review Show ar Radio Wales nos Wener (Mehefin 2).