Mae rhoi llwyfan i gerddorion Affricanaidd “yn rhan o egwyddorion Neuadd Ogwen o hybu cydlyniant cymunedol,” yn ôl rheolwr y neuadd.

Mae Dathliad Cymru-Affrica dros y ddau benwythnos nesaf yn anelu i fod yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yng Nghymru drwy arddangos a rhoi llwyfan i artistiaid rhyngwladol o Affrica, ac artistiaid Affricanaidd o Gymru ac ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.

Bydd digwyddiad tebyg y penwythnos nesaf (Mehefin 10-11) yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Y rhaglen

Mae rhaglen o weithgareddau wedi cael ei chreu, sy’n cynnwys nifer o weithdai, a byddan nhw’n cael eu cynnal yn Nhafarn y Fic, Llithfaen a bydd nifer o’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim.

Mi fydd y sêr rhyngwladol Bassekou Kouyaté & Ngoni Ba yn amlwg ar y ddau benwythnos, fel rhan o daith fawr o wledydd y Deyrnas Unedig, y daith gyntaf ers chwe blynedd.

Mae Bassekou Kouyaté yn un o artistiaid amlycaf Mali, ac yn wir feistr ar y ngoni, offeryn traddodiadol hynafol gorllewin Affrica.

Mae parch eang iddo fel un artist byd-eang.

Mi fydd BCUC: Bantu Continua Uhuru Consciousness yn cyflwyno’u doniau hefyd, a hwythau’n gyfuniad o saith cerddor o Dde Affrica sydd wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd yn lleol ac yn rhyngwladol gyda pherfformiadau llawn egni.

Yn ymuno yn y rhaglen uchelgeisiol hefyd fydd y seren Kanda Bongo Man, ‘Brenin y Soukous’, un o’r unigolion ddaeth â’r math yma o gerddoriaeth egnïol o’r Congo i sylw’r byd.

Mae Rasha o Swdan wedi bod yn cyfansoddi a chanu ar lwyfannau rhyngwladol tros dri degawd, gan blethu prydferthwch a thraddodiad cerddorol ei gwlad gydag alawon a chyfansoddiadau unigryw.

Mi fydd y prif artistiaid yma yn cael eu cefnogi gan artistiaid eraill o Gaerdydd, y Gambia, Ethiopia a nifer o wledydd eraill.

Mi fydd Dafydd Iwan yn ymddangos fel rhan o gydweithrediad arbennig â’r bardd Ali Goolyad, sydd wedi cael ei gomisiynu i ddathlu cysylltiadau Affricanaidd-Cymraeg.

Gydag arddangosfeydd celfyddydol, ffotograffiaeth a gweithgareddau ymarferol drwy weithdai, bwydydd Affricanaidd a chymaint mwy, bydd hwn yn ddathliad cynhwysol o Affrica yng Nghymru i’r teulu cyfan.

Cefndir

Syniad y cerddor N’famady Kouyate a Cathryn McShane-Kouyate o The Successors of the Mandingue, sefydliad celfyddydol Affricanaidd o Gaerdydd, yw Dathliad Cymru-Affrica.

Nod sylfaenwyr yr ŵyl yw hwyluso rhannu diwylliannau a chelfyddydau mewn dathliad llawen sy’n dod â chymunedau yng Nghymru at ei gilydd, ac sy’n arddangos y cyfoeth o dalent a’r cyfoeth o amrywiaeth sy’n bodoli yng Nghymru a thu hwnt.

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid y prosiect – Neuadd Ogwen, Canolfan Mileniwm Cymru, BACA (Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliannol Butetown) a Rahim el Habachi – mae’r trefnwyr yn cyflwyno’r ŵyl aml-leoliad pan-Affricanaidd newydd hwn, yn ogystal â rhaglen o weithdai cymunedol trwy gydol y flwyddyn, i ddod â chelfyddydau Affricanaidd i gymunedau gwledig ledled Cymru.

Caiff Dathliad Cymru-Affrica ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd-orllewin Cymru (Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy) yn ogystal â nawdd gan Sefydliad Byd-eang y Ddynoliaeth dros Heddwch a Phrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.

Y cysylltiad rhwng Cymru ac Affrica

Yn ôl Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, daw’r cysylltiad ag Affrica yn sgil y ffaith fod Cymru wedi bod yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig yn y gorffennol, a bod yr Ymerodraeth wedi gwladychu gwledydd Affrica.

O ran y digwyddiadau, mae’r cysylltiad yn un llawer iawn mwy personol, gan fod y ddau drefnydd yn briod â’i gilydd.

“Mae N’famady Kouyaté wedi priodi Cathryn McShane-Kouyate,” meddai wrth golwg360.

“Mae Cathryn McShane-Kouyate yn Gymraes.

“Mae dau berson o wahanol lefydd yn y byd wedi dod at ei gilydd i feddwl am y syniad.”

Dywed fod Neuadd Ogwen yn ceisio rhoi llwyfan i gerddorion o Gymru ac o bedwar ban byd.

“Mae rhoi llwyfan i gerddorion Affricanaidd yn rhan o egwyddorion Neuadd Ogwen o hybu cydlyniant cymunedol,” meddai.

“Dyna pam rydym yn cynnal digwyddiadau fel hyn.

“Rydym yn ceisio dangos cerddoriaeth o bob man yn y byd yn ogystal â Chymru.

“Rydym yn rhan o gymuned ehangach.

“Cydlyniant cymunedol ydi o fwy na ddim byd.

“Mae pobol eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy.”

‘Bethesda yn wych am gerddoriaeth’

Mae’r sîn gerddorol wedi’i gwreiddio’n ddwfn ym mywyd Bethesda, a Neuadd Ogwen yn chwarae rhan hanfodol yn hynny o beth.

Yn ôl Dilwyn Llwyd, “mae Bethesda’n wych am gerddoriaeth”.

“Mae hanes cerddoriaeth ym Methesda’n anhygoel, yndi?” meddai.

“Mae Neuadd Ogwen yn helpu, rwy’n hapus i ddweud hynna.

“Ond os fysa gynna chdi ddim Neuadd Ogwen, byddai stwff yn digwydd ym Methesda beth bynnag.

“Byddai pobol yn creu cerddoriaeth, mae yna hanes.”