Mae parti sydd wedi teithio draw o Lydaw wedi bod yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin heddiw (dydd Iau, Mehefin 1).

Mae aelodau o gôr Ysgol La Sablière wedi teithio’n unswydd i Lanymddyfri ar gyfer Eisteddfod yr Urdd i ddathlu’r ffaith fod tref Llanymddyfri a phentref Pluguen ger tref Kemper yn Llydaw, wedi gefeillio â’i gilydd.

Adref yn Llydaw, mae aelodau’r côr yn adnabyddus am weithio gyda’i gilydd i helpu cymdeithasau yn eu hardal.

Fis Ebrill diwethaf, fe drefnon nhw gyngerdd i godi arian tuag at ofal plant mewn ysbytai yn Llydaw.

Mae 35 o gantorion yn y côr fel arfer, ond dim ond wyth fu’n eu cynrychioli nhw heddiw.

Maen nhw wedi bod yn cyfarfod bob dydd Mawrth ers mis i baratoi casgliad o ganeuon yn Llydaweg.