Tegwen Bruce-Deans yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, ac enillydd y Gadair gyda’r darn ‘Rhwng dau le’.

Yn wreiddiol o Lundain, symudodd ei theulu i Landrindod, Maesyfed pan oedd yn ddwy oed.

Wedi’i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt – bellach Ysgol Calon Cymru – graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas, ac yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru.

Gofynion cystadleuaeth Prif Seremoni y Gadair Bl10 a dan 25 oed eleni oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Afon’.

Cyflwynodd unarddeg bardd eu gwaith i’r gystadleuaeth.

‘Gwawr’

“Gwawr yw bardd mwyaf crefftus ac aeddfeta’r gystadleuaeth,” meddai’r beirniaid Hywel Griffiths a Gwennan Evans am y bardd buddugol.

“Cryfder y casgliad yw’r ffordd y mae’r bardd wedi llwyddo i droi profiadau personol penodol yn brofiadau y gallwn uniaethu â nhw, waeth beth bynnag yw ein hoedran.

“Yn fwy nag un o’r ymgeiswyr eraill, trwy drin delwedd yr afon yn gynnil, mae’r bardd wedi llwyddo i’w throi i’w melin ei hun, yn hytrach na chael ei chario ymaith gan y llif, ac mae’n gwbl deilwng o Gadair Eisteddfod Sir Gâr.”

“Colli hunaniaeth” yn ysbrydoli’r darn buddugol

“Ar ôl i mi raddio o’r brifysgol y llynedd, wnes i a fy mhartner brynu hen dŷ stiwdants,” meddai Tegwen Bruce-Deans.

“Roedd hi’n gyfnod mor chwithig yn dod allan o addysg am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, a theimlo fel fy mod i wedi colli rhan o fy hunaniaeth o ganlyniad.

“Ar ben hynny, roeddwn i’n teimlo fel nad oedd gen i synnwyr o ‘adref’ bellach, tra roedden ni’n aros i ddechrau bwrw gwreiddiau yn ein tŷ newydd.

“O’n i ‘rhwng dau le’ yn feddyliol ac yn gorfforol, a rhyw geisio rhoi synnwyr ar y cwlwm o emosiynau a theimladau ddaeth yn sgil hynny yw’r casgliad yma o gerddi.

“Wrth roi pen i bapur, roedd y trosiad o afon ar ei thaith rhwng dau le yn cyfleu’n berffaith cymaint o wahanol deimladau ro’n i’n ceisio’u delweddu, ac o ganlyniad yn tynnu’r cyfan at ei gilydd yn y diwedd.

“Mae gallu dweud bod yna ferch o Lewisham wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn eitha’ cŵl!

“Ond go iawn, un o’r pethau dwi’n hoff o genhadu’r fwyaf yw bod unrhyw un yn gallu bod yn fardd – dim jyst hen ddynion gwyn o gefndir traddodiadol Cymraeg.

“Felly mae’n ffaith fy mod i’n gallu cyfrannu at ran bach, bach iawn o’r mudiad hwnnw o newid agweddau pobol tuag at y syniad o fardd cyfoes yn amhrisiadwy.”

Aeth yr ail wobr i Tesni Peers, sy’n 20 oed ac yn dod o Rhosllannerchrugog yn Wrecsam, a’r drydedd wobr i Buddug Watcyn Roberts, sy’n 22 oed ac yn dod o Fangor.

Y Gadair

Caiff y Gadair ei rhoi eleni gan Gwmni T Richard Jones (Betws) cyf.

Bedwyn Rees o ardal Hermon, Cynwyl Elfed sydd wedi ei chynllunio a’i chreu.

Yn berchennog ar gwmni teuluol Cymraeg Old Oak Kitchens, mae’n arbenigo mewn creu ceginau a dodrefn â llaw.

Cafodd y seremoni ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.

Tegwen Bruce-Deans

Barry Thomas

Mae’r bardd 21 oed o Landrindod ym Mhowys newydd gael gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a gwaith yn ymchwilio i raglenni cerddoriaeth Radio Cymru