Owain Wyn Evans, y cyflwynydd teledu a radio, yw Llywydd y Dydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Iau, Mehefin 1), ac mae’n canmol gofod Cwiar na nOg yn Llanymddyfri.
Ac yntau’n gweithio i’r BBC ers 15 mlynedd, mae’n adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt fel y dyn tywydd gyflawnodd her y Drumathon ar gyfer Plant Mewn Angen.
O fore Llun i Gwener, fo sy’n deffro’r gwrandawyr ar BBC Radio 2 gyda’i sioe frecwast gynnar.
Daeth yn fwy adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn 2020 pan aeth fideo ohono yn drymio i dôn Newyddion y BBC ar led.
Gwyliodd chwe miliwn o bobol y fideo ar-lein ac fe wnaeth y stori ymddangos mewn sawl papur newydd ar draws y byd, o India i Awstralia.
Rhoddodd hyn y llwyfan iddo gyflawni her 24 awr y Drumathon dorrodd y record, ac sydd wedi codi £3.8m hyd yma.
“Lwcus” i gael yr Urdd
“Mae jest bod yma yn Sir Gâr – reit lawr yr heol o ble wnes i dyfu lan yn Rhydaman – yn hyfryd,” meddai Owain Wyn Evans yn ei anerchiad ar y Maes.
“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i fi, a ni mor lwcus yng Nghymru bod yr Urdd yn bodoli achos does dim byd tebyg gyda ni ar draws y byd.
“Fi’n credu, mae cael y cyfle i fod yn Llywydd y Dydd heddiw, i fi, yn rili pwysig.
“Ers i fi ddechrau’r rhaglen ar BBC Radio 2, un o’r pethau fi’n trio gwneud bob dydd yw cyfarch pobol trwy’r Gymraeg trwy ddweud ‘Bore darlings‘.
“Fi ffili credu bod gennym ni dros filiwn o wrandawyr ar y sioe frecwast gynnar, a phob bore ni’n cael rhyw neges gan unrhyw un, o rywun sy’n gyrru lorri tu fas i Leeds yn dweud: ‘Bore darlings, Owain! It’s raining in Leeds‘.
“Mae cael y cyfle bach i siarad Cymraeg bob dydd, a bod pobol tu fa’s i Gymru’n clywed hwnna, jest yn ffab.
“Fi jest eisiau dweud hefyd pa mor lwcus ydyn ni o’r Urdd yn newid gyda’r amseroedd, a phob blwyddyn mae rhywbeth newydd – fel ardal Cwiar na nOg.
“Tase rhywbeth fel hyn wedi bodoli pan o’n i’n iau, byddai e wedi newid bywyd fi yn llwyr.
“Mae cael hwn nawr ar ein Maes ni’n fan hyn yn mynd i newid bywydau pobol, ac mae’n dangos i bobol ifanc sy’n teimlo’n unig ac fel bod ddim gyda nhw unman arall i droi, bod e’n iawn i fod yn hoyw, a bod e’n iawn i fod yn LGBT+.
“Mae hwnna’n rywbeth gall pob un ohonom ni fynd allan a chofio.
“Diolch o galon am gael fi.
“Fi wrth fy modd i fod yma heddiw a fi wedi bod yn joio crwydro’r Maes fel Llywydd y Dydd, a fi’n gwybod bod lot mwy i ddod.”
Holi Owain Wyn Evans
Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?
Un o fy hoff atgofion o’r Urdd oedd gwylio holl gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd ar y teledu. O’n i wrth fy modd yn ymweld â’r maes hefyd pan oedd mewn ardal agos at adre’ ac mae mor hyfryd i weld bod yr Urdd ac Eisteddfodau yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru!
Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?
Wnes i chwarae’r drymiau unwaith ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, dwi’n meddwl byddai hwn wedi bod yng nghanol y 90’au ac os dwi’n cofio’n iawn, o’n i chwarae wrth ochr piano tra bod criw dawnsio gwerin yn dawnsio ar y llwyfan. Profiad ffab!
Beth, yn dy farn di, yw’r newid mwyaf am ŵyl Eisteddfod yr Urdd ers pan oeddet ti’n aelod, a’r Eisteddfod heddiw?
Dwi’n meddwl bod Eisteddfod yr Urdd wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ond mae calon yr Urdd yn yr un lle ag erioed. Cyfle i bobl ifanc gwrdd, cystadlu mewn ffordd gyfeillgar a hefyd i ddatblygu talentau a hyder yn y Gymraeg. Mae’n ffab erbyn hyn bod yna ardal i bobol LGBTQ yn Eisteddfod yr Urdd hefyd, rhywbeth oedd ddim yn bodoli pan o’n i’n ifanc.
Pe bai ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohono?
Dwi’n meddwl bod e’n ffab bod nawr modd cymryd rhan mewn pob mathau o gystadlaethau a gweithgareddau newydd yn Eisteddfod yr Urdd. O’n i wrth fy modd yn clywed bod hyd yn oed cyfle i greu apps!
Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?
Mae’n anrhydedd cael cyfle i fod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at grwydro’r Maes, ond hefyd i glywed mwy am waith yr Urdd. Mae’n gyfle anhygoel.
Beth fyddai dy brif gyngor i’r rhai sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod wythnos yma?
Tria fwynhau’r broses! Fel person ifanc, o’n i’n diodde’ lot o anxiety, a’n becso lot, yn enwedig os o’n i mewn criw mawr o bobol ddiarth. Efallai dy fod di yn teimlo’r un peth, ond erbyn hyn dwi’n gallu gweld bod ymysg pobol debyg yn gyfle ffab i ddysgu mwy amdanat ti dy hun, a hefyd i wneud ffrindiau newydd. Pwy a ŵyr, efallai byddwch chi’n ffrindiau oes! Os wyt ti’n cystadlu, pob lwc! Ac os wyt ti ddim yn ennill, paid â phoeni. Mae bod yn rhan o’r broses yn bwysig.