Un o atgofion cynharaf Prif Weinidog Cymru o’r Urdd yw gwrando ar Gwynfor Evans yn siarad ar lwyfan yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin yn 1967, meddai wrth siarad â golwg360 ar y Maes yn Llanymddyfri heddiw (dydd Mercher, Mai 31).

Bu’n cynnal sesiwn holi ac ateb gyda phobol ifanc ym mhabell Llywodraeth Cymru, lle cafodd ei holi am darged y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr argyfwng tai, ynghyd ag ymgysylltiad pobol ifanc â gwleidyddiaeth a’i brofiadau yn yr Urdd.

Wrth siarad gyda golwg360, bu’n sôn am ei atgofion cynnar gyda’r mudiad ieuenctid.

“Y tro cyntaf gefais i’r cyfle i fynd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd oedd nôl yn 1967 pan oeddwn i’n tyfu lan yng Nghaerfyrddin. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref yn y flwyddyn yna,” meddai.

“Dw i’n cofio mynd at y Gymanfa Ganu gyda fy mam yn y nos gyntaf, ac roedden ni’n cael ein rhannu – hi’n mynd i un ochr a ni’n mynd i’r ochr arall, bechgyn ar un ochr a’r menywod ar yr ochr arall.

“Dw i’n cofio mynd ’nôl yn ystod yr wythnos i weld beth oedd yn mynd ymlaen, a chlywed Gwynfor Evans yn siarad ar y llwyfan yn yr Eisteddfod flwyddyn ar ôl oedd e wedi cael ei ethol fel Aelod cyntaf Plaid Cymru i Dŷ’r Cyffredin.

“Dw i wedi bod lan a lawr i Eisteddfodau’r Urdd am fwy na hanner canrif.

“Yn 1968, aethon ni lan o’r ysgol i’r Eisteddfod yn Llanrwst, ac i gystadlu, ar lefel yr ysgol, lefel y sir, yn y pre-lims, ac roeddwn i’n lwcus i fod ar y llwyfan gyda grŵp o fechgyn eraill, ac i aros gyda theulu lan yn y gogledd – y tro cyntaf i fi yn dod o’r de i deithio i’r gogledd.

“Roeddwn i mewn grŵp o fechgyn, octet, fel dw i’n gofio, yn canu.”

Y mudiad yn addasu

Un o’r pethau pwysicaf, meddai’r Prif Weinidog, yw’r ffordd mae’r Urdd wedi addasu a datblygu gydag amser.

“Yn tyfu lan yng Nghaerfyrddin, roedd yr Urdd yn rhan o beth oedd pobol yn ei wneud. Mae fy mhlant i wedi bod yn aelodau o’r Urdd, yn mynd i Langrannog ac yn y blaen.

“Un o’r pethau pwysicaf sy’n taro fi’n dod yma heddiw ydy’r ffordd mae’r Urdd wedi llwyddo i dyfu lan gyda’r pethau sy’n newid bob blwyddyn yma yng Nghymru.

“O edrych yn ôl i’r Urdd yn ôl yn y 1960au, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol lot, lot yn wahanol i’r Eisteddfod heddiw.

“Un o’r pethau mae’r Urdd wedi gwneud mewn ffordd mor llwyddiannus yw addasu i’r newidiadau mewn cymuned, ac adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.”

Cymreictod

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, cafodd ei holi sut beth yw Cymreictod iddo fe.

“I fi, pan mae pobol yn gofyn ‘Ydych chi’n teimlo fel rhywun sy’n dod o Gymru neu rywun o’r Deyrnas Unedig?’, dw i’n gwybod, i fi, ar lefel teimladau, dw i’n rywun sy’n dod o Gymru,” atebodd.

“Mae lot o bethau tu ôl i hynny, dw i’n meddwl.

“Wrth gwrs, mae’r iaith yn bwysig, mae e’n fwy nag iaith; mae’r iaith yn gwneud gwahaniaeth i sut ydych chi’n edrych at y byd.

“Felly mae’r iaith yn bwysig i fi fel rhan o Gymreictod, ond mae lot o bobol sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhan o’n bywydau ni yng Nghymru hefyd, felly’r iaith, yr hanes, daearyddiaeth, y profiadau rydyn ni’n eu cael fel gwlad fach.

“Rydych chi’n tynnu nhw i gyd at ei gilydd, ac maen nhw’n creu rhyw fath o lwyfan i chi ble rydych chi’n glir am ble rydych chi’n dod, ac mae hynny yn bwysig i fi.”