Nia Morais yw’r Bardd Plant Cymru newydd, gan olynu Casi Wyn.
Yn ôl Bethan Mai Jones, un o’r panel dethol, bardd sy’n annog plant i “fentro a chwarae gyda’r iaith Gymraeg” ac sydd ag angerdd heintus at “hunaniaeth ac annog eraill i barchu eu hunan-ddelwedd” yw’r nesaf i ymgymryd â’r rôl arbennig hon.
Heddiw (dydd Iau, Mehefin 1) ar lwyfan Yr Arddorfa ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, cafodd enw’r Bardd Plant Cymru nesaf ei gyhoeddi, a bydd hi’n camu i’r rôl ym mis Medi.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol sydd â’r bwriad o danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth, a bydd Nia Morais yn y rôl tan 2025.
Caiff y prosiect ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Cafodd y rôl ei sefydlu yn 2000, ac ers hynny mae 17 bardd wedi ymgymryd â’r rôl.
Caiff y rôl ei rhoi bob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angerddol dros sicrhau bod mwy o blant a phobol ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pwy yw Nia Morais?
Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais.
Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion, ac mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar hunanddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith.
Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol.
Yn 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, Calon Caerdydd.
Ar hyn o bryd, mae hi’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman, ac mae ei drama lawn gyntaf, Imrie, yn teithio Cymru gyda Cwmni Fran Wen a Theatr y Sherman dros yr haf.
Roedd yn aelod o banel beirniadu Gwobrau Tir na n-Og 2021, a hefyd yn ran o raglen ddatblygu awduron Cynrychioli Cymru yr un flwyddyn gyda Llenyddiaeth Cymru.
Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion.
Prif amcan Nia Morais yn ei rôl newydd yw sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i blant a phobol ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd.
Mae’n angerddol dros y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, dros ddathlu ein hunaniaeth, ac annog parch tuag at ein hunanddelwedd gan gynyddu hunanhyder.
“Rydw i mor falch i fod yn Fardd Plant Cymru a dw i methu aros i ddechrau!” meddai.
“Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl tipyn o amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar iawn i allu rhannu fy amser gyda phobol ifanc Cymru.
“Rydw i’n caru gweithio gyda phobol ifanc — mae’n foddhaol iawn a dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan weld be’ sy’n diddori nhw.
“Rwy’n caru sgwennu barddoniaeth ac yn gobeithio gallu creu gwaith gwych gyda phobol ifanc Cymru.”
Prif amcan Nia Morais yw sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobol ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd.
Mae’n awyddus i wrando a chanfod pa themâu sydd yn tanio plant a phobol ifanc Cymru. Yn benodol, mae hi’n angerddol dros:
- brofi bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, gan ddefnyddio ymarferion mewn gweithdai sydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion fod yn greadigol gyda iaith ac arbrofi â geiriau
- sicrhau bod materion LHDTC+ yn cael eu trafod yn agored mewn gweithdai ysgrifennu creadigol er mwyn dangos sut gall straeon ac ysgrifennu gynorthwyo plant a phobol ifanc i ddeall ac ymdopi gyda’u profiadau a lleihau teimladau o ddieithrwch ac unigrwydd.
- herio dylanwad negyddol y caiff cyfryngau cymdeithasol ar y ddelfryd o ddelwedd bersonol, gan gynnal gweithdai a llunio gwaith creadigol yn seiliedig ar themâu hunaniaeth a hunanhyder
- annog plant i fagu eu hannibyniaeth a’u hunaniaeth unigryw, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu eu llais personol a phwerus ei hun
- gweithio law yn llaw â’r genhedlaeth nesaf i weithredu newid a datblygu byd mwy hygyrch, teg, a gwyrdd
- cynrychioli plant a phobol ifanc Cymru ar lwyfan cenedlaethol, gan eirioli dros eu lleisiau.
Y panel a’r broses ddethol
Mae’r cyhoeddiad mai Nia Morais yw Bardd Plant Cymru 2023-25 yn benllanw proses recriwtio gafodd ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru.
Cafodd beirdd eu gwahodd i wneud cais am rôl Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales (chwaer-brosiect Bardd Plant yn y Saesneg), a chafodd cyfweliadau a gweithdai prawf eu cynnal gyda rhestr fer o ymgeiswyr.
Aelodau’r panel i ddethol Bardd Plant Cymru 2023 – 2025 oedd Ciarán Eynon, Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2022; Dafydd Lennon, bardd a chyflwynydd Cyw ar S4C; Bethan Mai Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru; a dau gydlynydd creadigol o dîm Llenyddiaeth Cymru.
Roedd gweithdy gyda disgyblion Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron, yn rhan o’r broses hefyd, gan sicrhau bod rhanddeiliaid mwyaf allweddol y prosiect, y plant eu hunain, yn cael rhannu eu barn.
Bydd enw’r Children’s Laureate Wales newydd, y Bardd Plant Saesneg, yn cael ei gyhoeddi fory (dydd Gwener, Mehefin 2) yng Ngŵyl y Gelli.
‘Plannu hedyn o gariad gydol-oes at lenyddiaeth’
“Mae cyflwyno plant a phobol ifanc i ddarllen ac ysgrifennu creadigol yn gynnar yn eu bywydau yn gallu plannu hedyn o gariad gydol-oes at lenyddiaeth,” meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru.
“Mae’r prosiectau Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales yn cyflwyno pobol ifanc i awduron cyffrous, talentog ac ysbrydoledig.
“Mae gan Nia – a’r Children’s Laureate Wales yr ydym ar fin eu cyhoeddi – weledigaeth glir ar gyfer eu cyfnod, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y llwybrau y byddant yn eu dilyn.
“Nid yn unig y byddant yn ffigyrau y bydd plant yn eu hedmygu, byddant hefyd yn cyflwyno cariad at eiriau, a dulliau o’u mwynhau a’u defnyddio i fynegi eu hunain yn greadigol yn rhoddion iddynt.”
Dywed Bethan Mai Jones ei bod hi’n “bleser pur” gweld Nia Morais yn “annog ac ysbrydoli’r plant mor llwyddiannus” yn ystod y gweithdy.
“O’r cychwyn cyntaf, cafwyd syniadau ffres a bachog, creodd cryn dipyn o argraff gan sbarduno’r plant a’u hannog i fentro a chwarae gyda’r iaith Gymraeg,” meddai.
“Mae ganddi weledigaeth gref ac mae ei hangerdd at hunaniaeth ac annog eraill i barchu eu hunan-ddelwedd yn heintus.
“O ganlyniad, gwelwyd ymateb brwd wrth i’r plant arbrofi a chyfansoddi pytiau bach ysgrifenedig, gan awchu i’w rhannu gyda gweddill y dosbarth.
“Rydym yn dymuno’r gorau iddi ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol agos.”