Mae prif weindiogion Cymru a’r Alban wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barchu pwerau datganoledig.

Daw neges Mark Drakeford a Humza Yousaf wrth iddyn nhw gyfarfod yng Nghaeredin, a hynny am y tro cyntaf ers i arweinydd newydd yr SNP ddod yn Brif Weinidog yr Alban, gan olynu Nicola Sturgeon.

Maen nhw hefyd wedi galw ar lywodraeth Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i gadw at egwyddorion cyd-barch, ymddiriedaeth, cyfathrebu effeithiol ac atebolrwydd, fel sydd wedi’u nodi yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

Yn ystod y cyfarfod, buon nhw hefyd yn trafod yr angen i Lywodraeth San Steffan roi terfyn ar fyrder ar yr achosion niferus o dorri Confensiwn Sewel ac i ddefnyddio’r Fframweithiau Cyffredin yn gadarnhaol.

Cafodd y rhain eu creu i reoli dulliau gwahanol o ran polisi ar draws y Deyrnas Unedig yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Cytunodd y ddau y bydden nhw’n parhau i weithio’n agos i ddiogelu datganoli.

‘Diolch am y croeso’

Dywedodd Mark Drakeford ar Twitter fod y cyfarfod yn cynnig “cyfle i ailgadarnhau ein hymrwymiad i gysylltiadau rhynglywodraethol a thrafod sut y gallwn gydweithio ar sialensau a rennir”.

Fe orffennodd ei neges drwy ddweud “diolch am y croeso”.