Byddai 46% o boblogaeth Cymru “wedi’u hypsetio” o adael y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg newydd.
Daw hyn wrth i YouGov holi trigolion Cymru, Lloegr a’r Alban am eu safbwyntiau am ddyfodol y gwledydd hynny, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag ynysoedd Gibraltar a’r Malfinas.
Cafodd trigolion eu holi a ydyn nhw’n dymuno gweld Gogledd Iwerddon yn aros yn y Deyrnas Unedig, ac a fydden nhw wedi’u hypsetio pe baen nhw’n gadael.
Mae dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn bwnc llosg ar hyn o bryd, ac yng Nghymru mae Comisiwn Cyfansoddiadol wedi’i sefydlu i drafod yr union fater hwn.
Mae’r cwestiwn annibyniaeth yn flaenllaw yn yr Alban, ac yng Nghymru i raddau llai yn dilyn yr orymdaith ddiweddar yn Abertawe, tra bod cryn drafodaeth ynghylch y posibilrwydd o uno Iwerddon a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae’r Deyrnas Unedig hefyd yn rheoli ynysoedd Gibraltar a’r Malfinas.
Yr arolwg
Fe wnaeth YouGov gynnal dau arolwg er mwyn mesur barn trigolion gwledydd Prydain.
Roedd y naill yn cynnig cwestiwn dwy ffordd ynghylch aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig gyda’r opsiwn i nodi ‘Ddim yn gwybod’, a’r llall yn gofyn cwestiwn tair ffordd union yr un fath â’r cwestiwn cyntaf ond gyda’r opsiwn i nodi mai mater i drigolion y wlad dan sylw yw penderfynu hynny.
Fe wnaeth yr arolwg ofyn hefyd faint fyddai pobol wedi’u plesio neu eu hypsetio pe bai’r gwledydd unigol yn mynd yn annibynnol, neu’n uno â gwlad arall yn achos Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Cymru
Cymru yw’r wlad y mae’r rhan fwyaf o drigolion gwledydd Prydain (53%) eisiau iddi aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, yn ôl y cwestiwn tair ffordd.
Dim ond 11% sy’n credu y dylai fynd yn annibynnol, a dywedodd 31% mai mater i drigolion Cymru yw penderfynu hynny.
Wrth ateb y cwestiwn dwy ffordd, roedd 62% o drigolion gwledydd Prydain yn awyddus i Gymru aros yn y Deyrnas Unedig, tra bod 17% eisiau iddi fynd yn annibynnol.
Tristwch oedd yr ymateb mwyaf cyffredin (46%) pe bai Cymru’n mynd yn annibynnol, tra byddai 10% wedi’u plesio a 36% ddim yn poeni.
Yr Alban
Mae mwyafrif bach o drigolion gwledydd Prydain hefyd eisiau i’r Alban aros yn rhan o’r Undeb (51%), yn ôl y cwestiwn tair ffordd, gyda 14% yn arddel annibyniaeth.
Mater i’r Alban yw penderfynu hynny, yn ôl 29%.
O ddileu’r opsiwn i ddweud mai mater i’r Alban ei benderfynu yw hynny, roedd 58% yn dymuno iddi aros yn y Deyrnas Unedig a 23% am ei gweld hi’n wlad annibynnol.
Dywedodd 43% y bydden nhw wedi’u hypsetio pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol, gydag 16% wedi’u plesio, ond dywedodd traean nad oedden nhw’n poeni’r naill ffordd na’r llall.
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon yw’r wlad mae’r trigolion yn yr arolwg yn poeni amdani leiaf.
Mater i’w thrigolion benderfynu yw ei dyfodol, meddai 44% o’r rhai atebodd.
Mae 32% eisiau iddi aros yn yr Undeb, tra bod 18% yn credu y dylai hi uno â Gweriniaeth Iwerddon.
Mae mwy o bobol o blaid gadael wrth ateb y cwestiwn dwy ffordd na’r cwestiwn tair ffordd, a llai yn dymuno aros – gyda 40% yn awyddus iddi aros a 34% o blaid gadael.
Er bod agweddau tuag at Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn newid yn gyson, mae’n ymddangos mai apathi yw’r agwedd fwyaf cyffredin yn rheolaidd mewn arolygon.
Gibraltar
Mae ynys fechan Gibraltar oddi ar Sbaen yn nwylo’r Deyrnas Unedig ers dechrau’r ddeunawfed ganrif.
Mae Sbaen yn pwyso ar y Deyrnas Unedig i’w chael hi’n ôl, tra bod trigolion yr ynys wedi gwrthod cysylltiadau agosach â Sbaen mewn dau refferendwm, yn 1967 a 2002.
O edrych ar ganlyniadau’r cwestiwn tair ffordd, mae 35% o drigolion gwledydd Prydain am iddi aros, gyda 10% eisiau iddi fynd yn annibynnol, tra bod 47% yn dweud mai mater i’w thrigolion yw hynny.
Yn y cwestiwn dwy ffordd, mae 53% eisiau iddi barhau’n diriogaeth Brydeinig, a dim ond 18% sydd eisiau iddi gael ei dychwelyd i Sbaen.
Does dim ots gan 48% beth sy’n digwydd i’r ynys, gyda 33% yn dweud y bydden nhw wedi’u hypsetio o golli’r ynys, a dim ond 9% yn hapus pe bai hynny’n digwydd.
Y Malfinas
Yn y cwestiwn tair ffordd, nododd 47% mai mater i drigolion y Malfinas yw penderfynu ar ei dyfodol, gyda 34% yn dymuno iddyn nhw aros dan reolaeth Brydeinig, a 9% yn ffafrio’u dychwelyd i’r Ariannin.
O ran y cwestiwn dwy ffordd, nododd 52% y dylai’r ynysoedd aros dan reolaeth Brydeinig, ac 16% y dylen nhw ddychwelyd i reolaeth yr Ariannin.
Byddai 35% wedi’u hypsetio pe bai’r ynysoedd yn dychwelyd i reolaeth yr Ariannin, 9% wedi’u plesio a 46% ddim yn poeni’r naill ffordd na’r llall.