Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd heddiw (dydd Llun, Mehefin 5), mae perchennog siop ddi-wastraff wedi bod yn rhannu rhai o fuddion siopa’n gynnaliadwy.
Agorodd Laura Fielding, sydd hefyd yn Faer ar dref Llanfairfechan, y siop Nood Food yn ôl ym mis Rhagfyr 2020.
Ar ôl sgwrsio gyda rhai o drigolion Llanfairfechan mewn grŵp Facebook, sylweddolodd hi fod yna alw ar gyfer siop di-wastraff.
“Ro’n i wedi sefydlu’r grŵp ‘Plastic Free Llanfairfechan’ ar Facebook cyn Covid, felly ro’n i’n gwybod fod yna grŵp reit fawr o bobol yn y dref a oedd yn awyddus i osgoi plastig untro,” meddai wrth golwg360.
“Wedyn daeth Covid, ac roedd pobol yn defnyddio hyd yn oed mwy o blastig untro, ac roeddech chi’n gweld masgiau ym mhob man, a wnes i jest gweld y broblem yn gwaethygu’n gyflym iawn.
“Ro’n i’n meddwl bod rhaid i fi wneud rhywbeth am y peth.”
Siopau di-wastraff yn helpu i godi ymwybyddiaeth
Y prif reswm tu ôl i siopau di-wastraff ydy helpu’r amgylchedd, ym marn Laura Fielding, ond fod amryw o fuddion o’u defnyddio.
“Prif fwriad siopau di-wastraff yw osgoi pecynnu plastig, ac mae plastig wedi’i wneud o danwyddau ffosil, sydd felly’n cynyddu eich ôl-droed carbon yn syth,” meddai.
“Wedyn ar ôl prynu rhywbeth mewn pecynnau plastig, byddi di’n taflu hwnna i ffwrdd a bydd hwnna’n mynd i safle tirlenwi achos dydy popeth methu cael ei ailgylchu.
“Hyd yn oed os ydy o’n gallu cael ei ailgylchu, dim ond tair gwaith mae’n bosib ailgylchu plastig cyn iddo fynd i safle tirlenwi.
“Bob blwyddyn, dw i’n trio edrych ar faint o eitemau o becynnu rydan ni’n arbed rhag mynd i safle tirlenwi.
“Roedd o dros 20,000 y flwyddyn ddiwethaf, achos rydan ni’n gwneud popeth o fara a chacennau i ffrwythau a llysiau.
“Ac mae hynna jest o un siop fach.
“Yn ddelfrydol, byddai yna ddim angen am siopau fel fy un i yn y dyfodol, achos byddai archfarchnadoedd yn newid eu ffordd o werthu pethau.
“Ond dw i’n meddwl bod y siop wedi cael effaith eithaf mawr.
“Yn amlwg, y fwyaf o bobol sy’n defnyddio’r siopau di-wastraff yma, y fwyaf o effaith bydd y siopau’n cael.
“Hyd yn oed os dydi pobol ddim yn dod i mewn i’r siop, ti’n gallu gweld nhw’n cerdded heibio a dweud: ‘Mae hynna’n syniad da. Dydw i heb hyd yn oed meddwl am hynna’.
“Byddai’n help os bydden nhw hyd yn oed yn dod i mewn i’r siop a phrynu rhywbeth mewn jar gwydr, yn hytrach na photel blastig o ryw archfarchnad.
“Mae jest presenoldeb y siopau yma ar y stryd fawr yn helpu i godi ymwybyddiaeth.”
Cefnogi busnesau lleol
Wrth brynu stoc i’w siop, mae Laura Fielding yn ceisio cadw mor lleol â phosib ble boed hynny’n bosib.
“Dw i’n trio ffeindio fersiynau lleol o be dw i eisiau prynu i werthu yn y siop, cyn edrych ymhellach i ffwrdd,” meddai.
“Mae genna’i tua thri math gwahanol o sebon a siampŵ – mae un yn dod gan wneuthurwr yn Neganwy, un o Bwllheli ac un o Hen Golwyn.
“Yn amlwg, dwyt ti methu tyfu gwygbys yn Llanfairfechan, ond ble mae’n bosib dw i’n trio cael stwff lleol.
“Mae’n gwneud o’n fwy diddorol hefyd bod o ddim yn cael ei fasgynhyrchu, ac mae’r bobol yna’n cael eu talu’n uniongyrchol ac yn cael cyflog teg am eu celfyddyd neu eu masnach.”
Budd economaidd
Yn ôl Laura Fielding, mae yna fuddion economaidd hefyd o siopa mewn siopau di-wastraff.
“Dw i’n meddwl bod lot o bobol yn meddwl bod o’n ffordd ddrytach o siopa, ond mae o’n gallu bod yn lot rhatach yn enwedig gyda ffrwythau a llysiau,” meddai.
“Dw i’n cael lot o bobol yn dod mewn sy’n byw ar ben eu hunain ac sydd jest yn prynu dwy foronen a thaten, achos dyna maen nhw am gael gyda’u te heno.
“Mae’n costio llai na 50c iddyn nhw.
“Wrth gwrs, mae yna bethau yn y siop sy’n ddrytach, ond mae hynny fel arfer am eu bod nhw’n ailddefnyddiadwy, neu maen nhw wedi eu creu yn fwy cynaliadwy, neu mae’r gweithwyr gweithgynhyrchu yn cael cyflog teilwng.
“Felly, mae yna resymau moesegol tu ôl i siopau di-wastraff hefyd, nid jest amgylcheddol.”
Gair o gyngor
Un gair o gyngor gan Laura Fielding i unrhyw un sy’n edrych i helpu’r amgylchedd yw defnyddio’r hyn sydd gennych chi.
“Y cynnyrch mwyaf ecogyfeillgar yw’r un yr ydych eisoes yn berchen arno,” meddai.
“Rydan ni’n cario ymlaen i brynu llwyth o stwff…
“Rydan ni’n prynu eitemau gwyrdd ac ecogyfeillgar yn meddwl: ‘Mae hwn yn ecogyfeillgar, wna’i brynu un o’r rhain’.
“Ond efallai bod gennych chi tupperware neu container allwch chi ddefnyddio, heb fynd â phrynu pethau newydd.
“Y containers gorau mae pobol yn dod i’r siop ydy hen botiau iogwrt mawr neu dybiau hufen ia – maen nhw’n gweithio’n dda iawn.
“Mae ailddefnyddio yn grêt, yn hytrach rhuthro i brynu’r pethau diweddaraf sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.”
Mae hi hefyd yn dweud bod angen cadw llygaid allan am wyrddgalchu, sef yr arfer lle mae cwmnïau’n honni eu bod yn gwneud mwy dros yr amgylchedd nag ydyn nhw mewn gwirionedd.
“Mae lot o bobol yn meddwl bod o’n iawn i ddefnyddio bagiau papur o siopau, ond mae ganddyn nhw ôl-droed carbon sydd hyd yn oed yn uwch na phlastig,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn aros o gwmpas yn yr amgylchedd am mor hir, a dydyn nhw ddim mor niweidiol â bagiau plastig o gwbl.
“Ond mae bagiau papur yn drymach ac maen nhw wedi eu gwneud o bapur wedi’i ailgylchu, felly mae yna lot o allyriadau sy’n mynd i mewn i weithgynhyrchu’r papur.”