Mae cneifwyr wedi bod wrthi am 24 awr yn Ninas Mawddwy ym Meirionnydd er mwyn codi arian at ddwy elusen “sy’n agos iawn” i galonnau’r gymuned.

Cafodd digwyddiad Concro’r Cnu ei drefnu gan Glwb Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy, a dros y penwythnos bu tua ugain o gneifwyr gweithio yn y neuadd bentref.

Llwyddwyd i gneifio 2,297 o ddefaid, a’r tro diwethaf iddyn nhw gynnal digwyddiad o’r fath ddeng mlynedd yn ôl fe wnaethon nhw godi £16,000.

Does ganddyn nhw ddim ffigwr pendant hyd yma, ac mae hi dal yn bosib cyfrannu drwy’r dudalen JustGiving, gyda’r arian yn mynd tuag at Ymddiriedolaeth y DPJ, elusen sy’n rhoi cymorth iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, ac uned cemotherapi Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

“Fe wnaeth y clwb benderfynu gwneud y digwyddiad yn dilyn llwyddiant yr un diwethaf ddeng mlynedd yn ôl yn 2013,” eglura Angharad Fflur Jones, ysgrifennydd Clwb Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy, wrth golwg360.

“Prif fwriad y digwyddiad oedd codi arian i elusennau.

“Roedd yn benwythnos bythgofiadwy, roedd o mor braf gweld y gymuned i gyd yn dod at ei gilydd i gynnal y digwyddiad – roedd y criw oedd wedi ei drefnu tro diwethaf wedi dod atom ni i’n helpu ni drefnu popeth.

“I ddechrau roedd gweld 24 awr ar y cloc yn lot o amser ond roedd yr amser yn pasio ddigon cyflym gan fod cymaint yn digwydd!”

Y cneifwyr wrthi yn y neuadd bentref

‘Gwaith i’w wneud’ i chwalu stigma

Wrth egluro pam eu bod nhw wedi dewis codi arian at yr elusennau hynny, dywedodd Angharad Fflur Jones bod yna “wastad waith” i’w wneud er mwyn chwalu’r stigma o amgylch iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.

“Mae DPJ yn elusen sy’n agos iawn at nifer o bobol. Mae’n elusen bwysig i ni fel clwb CFfI gan mai ei phrif bwrpas yw helpu a chefnogi ffermwyr a phawb o fewn y sector amaeth sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael.

“Mae wastad gwaith i wneud i chwalu’r stigma, ac felly roeddem yn gobeithio codi pres ynghyd a chodi ymwybyddiaeth am yr elusen a’r pwrpas.

“Mae Uned Chemotherapi Bronglais yn elusen agos iawn i ni hefyd gan mai ym Mronglais fydd nifer o bobol leol yr ardal yn derbyn triniaeth yn y dyfodol.

“Roedd cefnogi Elin Llawr, sy’n gyfrifol am yr elusen, yn bwysig iawn i ni fel Clwb.”

Bydd y Clwb yn cyhoeddi faint o arian sydd wedi cael ei godi ar dudalen Facebook ‘Concro’r Cnu 2023’ yn fuan.