Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Trafnidiaeth Cymru a’r Llywodraeth Lafur sy’n ei rheoli am wario miliynau ar ymgynghorwyr.

Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi gwario £14.2m ar ymgynghoriaethau ers i Lywodraeth Cymru ddechrau rheoli’r gwasanaeth.

Roedd hyn yn ystod y cyfnod rhwng Chwefror 2021 a Mawrth 2023, ac mae’n ymwneud â gwaith seiliedig ar brosiectau gan gyflenwyr, gan gynnwys prosiectau cyfalaf.

O Chwefror 7, Trafnidiaeth Cymru sydd wedi bod yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, hynny fel is-gwmni, Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf/Transport for Wales Rail LTD.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi ym mis Hydref 2020, yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr.

Y bwriad oedd sicrhau’r sefydlogrwydd ariannol tymor hir sydd ei angen i fwrw ymlaen â chynlluniau i wella’r seilwaith a gwella’r gwasanaethau i deithwyr.

‘Allan o reolaeth’

“Mae gwario cymaint o arian ar ymgynghorwyr, mewn cyfnod mor fyr yn anghredadwy, mae £14.2m yn swm enfawr o arian,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wrth sôn am yr ymchwiliad.

“Siawns na fyddai wedi bod yn fwy effeithiol o ran costau i gyflogi detholiad o arbenigwyr yn barhaol ar gyfer y rolau gofynnol, yn hytrach na thalu ffioedd mor fawr.

“Gyda gwariant ychwanegol o £4.5m ar wasanaeth bws newydd wedi’i ddarganfod gan y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos hon, rhaid gofyn y cwestiwn; faint o wastraff mae trethdalwyr yn ei wario ar brosiect Metro De Cymru?

“Mae cost y prosiect eisoes yn mynd allan o reolaeth, ni allwn ond gobeithio na fydd costau adfer yn cael eu trosglwyddo yn y pen draw i gwsmeriaid gyda phrisiau tocynnau uwch.”

Trafnidiaeth Cymru yn ymateb

“Mae TrC a TrC Trenau yn trawsnewid gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mewn modd na welwyd ei debyg o’r blaen,” meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

“Dim ond pan fydd angen cymryd camau gweithredu dros dro neu arbenigol mewn meysydd sy’n cynnwys cynllunio trafnidiaeth a rhwydwaith, trawsnewid cerbydau rheilffyrdd, rheoli asedau strategol ac i gefnogi gwasanaethau cynghori strategol TrC i eraill yng Nghymru, Llywodraeth Cymru yn bennaf, y caiff gwasanaethau ymgynghori allanol eu defnyddio.

“Mae cymorth gwasanaethau ymgynghori o’r fath yn cynrychioli cyfran isel o wariant blynyddol TrC ac mae hyn wedi’i olrhain a’i reoli wrth i TrC barhau i ddatblygu ei allu mewnol ei hun.

“Mae’r holl wariant yn ddarostyngedig i brosesau llywodraethu a chlirio mewnol, lle mae’r gwerth gorau am arian, gan gynnwys opsiynau recriwtio, yn cael ei brofi a’i sicrhau. Rydym hefyd yn darparu diweddariadau ariannol rheolaidd i Lywodraeth Cymru.”