Gyda sgamiau ac ymosodiadau seibir ar gynnydd mae ystafell ddianc seibir yn mynd ar daith o amgylch y gogledd a’r canolbarth i godi ymwybyddiaeth.
Mae’r ystafelloedd yn dilyn yr un patrwm ag ystafelloedd dianc eraill, profiad sydd wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, lle mae’n rhaid i bobol ddianc o ystafell mewn hyn a hyn o amser drwy gwblhau gwahanol heriau.
Nod y gweithgaredd yw codi ymwybyddiaeth o sut i gadw’n ddiogel ar-lein, yn ôl Dewi Owen, Heddwas Tîm Troseddu Seibir Heddlu Gogledd Cymru, sy’n gweithio ar y cyd â chwmni CGI ar y prosiect.
“Maen nhw’n sôn rŵan bod troseddau seibir yn un o’r troseddau mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig,” eglura Dewi Owen wrth golwg360.
“Beth mae’r ystafell ddianc seibir yn ei wneud ydy helpu pobol i ddysgu am gadw ei hunain yn saff ond mewn ffordd sydd yn hwyl ac sy’n ffordd o ddysgu heb sylweddoli bod chdi’n dysgu mewn ffordd.
“Yn hytrach na bod rhywun yn darllen neu fod ni’n sefyll o flaen nhw’n rhoi cyflwyniad maen nhw’n gallu mynd mewn i’r ystafell ddianc seibir, cwblhau sialensiau, ond wrth gwblhau sialensiau maen nhw’n dysgu am bwysigrwydd cael cyfrinair cryf, pa mor bwysig ydy hi i fod yn wyliadwrus o negeseuon sgam, sut i osgoi nhw ac i beidio clicio ar y linciau ac ati.”
Gêm dditectif seibir
Wrth chware gêm am fod yn dditectif seibir mae’r chwaraewyr yn dysgu mwy am broblemau a diogelwch seibir.
Fel rhan o’r gêm, mae’r chwaraewyr yn cael bod yn dditectif seibir, gan ymuno â thîm yr heddlu am dri chwarter awr, cyn gorfod datrys achos.
“Wrth wneud hyn maen nhw’n dysgu am bethau [fel] pwysigrwydd cael cyfrineiriau cryf, pwysigrwydd bod yn ofalus iawn am beth rydym yn rhannu, bod ni ddim yn gor-rannu gwybodaeth amdanom ni’n hunain, bod ni ddim yn datgelu gwybodaeth bersonol am ein hunain ar-lein sy’n mynd i helpu hacwyr neu sgamwyr sy’n ein targedu ni.
“Wrth gwrs dylen ni ddim datgelu ein cyfrinair i neb, bod ni’n diweddaru meddalwedd ar ein apiau a dyfeisiadau er mwyn cadw nhw’n saff a bod ni’n defnyddio dilysu dau gam er mwyn rhoi mwy o ddiogelwch i’n cyfrifon.”
‘Rhai’n fwy bregus’
Yn ôl Dewi Owen, mae pawb angen diogelu eu hunain ar-lein ond mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o gael eu targedu gan wahanol fathau o droseddau seibir.
“Er enghraifft efallai bod yr henoed yn fwy bregus i gael eu twyllo gan negeseuon testun,” meddai Dewi.
“Efallai bod pobol ifanc yn fwy bregus i gael eu sgamio ar Instagram neu Tik Tok.
“Mae busnesau’n fwy bregus i gael eu targedu gan e-byst ffug efo anfonebau ffug a phethau mwy cymhleth.
“Mae’r [ystafelloedd dianc] yn fanteisiol i unrhyw un sydd eisiau dysgu [sut i] ddiogelu eu hunain ar y we, rydyn ni’n gallu eu teilwra yn dibynnu ar bwy sy’n dod.”
‘Neges bwysig’
Un sydd wedi bod i’r ystafell ym Mangor yw Catrin Wager a’i phlant o Fethesda ac maen nhw wedi ei ffeindio yn fuddiol.
“Cefais i a’r teulu fore difyr iawn yn yr ystafell ffoi ‘Cyber Escapes’ ym Mangor,” meddai Catrin Wager.
“Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi llwyddo i ffoi!
“Tra bod o’n lot o hwyl, ac yn eithaf heriol trio cael allan o’r ddwy ystafell sy’n rhan o’r profiad, mae yna neges bwysig tu ôl i’r holl beth – sut i gadw’n hunain yn saff ar-lein.
“Drwy ymgymryd â’r posau i geisio dianc, roedd rhywun yn dod ar draws bob maeth o ddata personol, ac yn profi pa mor hawdd yw canfod gwybodaeth am eraill, a pa mor bwysig ydy bod yn ofalus am ein gwybodaeth bersonol ar-lein.”