Bydd cylchgrawn hanes newydd yn cael ei lansio yn yr hydref gan Wasg Carreg Gwalch.

Daeth Llafar Gwlad, cylchgrawn gwerin gwlad y wasg, i ben wedi deugain mlynedd gyda rhifyn mis Mai.

Roedd Myrddin ap Dafydd, sydd wedi bod yng ngofal y cylchgrawn ers y cychwyn cyntaf, wedi sôn y byddai’n hoffi gweld cylchgrawn tebyg, ond efallai â mwy o bwyslais ar hanes, yn cael ei ddatblygu gan y to ifanc.

Mab Myrddin ap Dafydd, Owain ap Myrddin, yw is-olygydd HanesByw, ac Ifor ap Glyn yw’r golygydd.

Bydd pwyslais y cylchgrawn newydd ar sut mae gwreiddiau’r hyn sy’n digwydd heddiw yn perthyn i wahanol gyfnodau mewn hanes, a bydd colofnwyr megis Dylan Iorwerth, Mared Gwyn, Guto Rhys a Mari Emlyn yn cyfrannu ato, ochr yn ochr ag erthyglau unigol.

“Dw i’n trio yn y blynyddoedd nesaf yma i gymryd camau at ymddeol a hefyd camau at drosglwyddo’r wasg,” eglurodd Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.

“Mae Owain y mab yn un sydd â diddordeb mewn dod i mewn i’r wasg, mae o’n gweithio i Eisteddfod yr Urdd ar hyn o bryd ond mae o wedi dechrau ymhél â rhai prosiectau, gan gynnwys hwn.

“Mi benderfynais i bod Llafar Gwlad wedi rhedeg ei gwrs. Dw i wedi cael llawer o bleser ac wedi mwynhau ffyddlondeb a chyfraniadau o bob rhan o Gymru, ac o bob cefndir hefyd – darlithwyr coleg, gwerin gwadd, pobol yn ffonio, e-bostio.

“Mae o wedi bod yn llwyfan i’n llafar ni, straeon, cymeriadau, traddodiadau, ac edrych ar wledydd tramor hefyd.

“Rhywbeth oeddwn i wedi’i feithrin yn fy ffordd fy hun, ac wedi cael llawer o bleser ohono fo dros y blynyddoedd ydy Llafar Gwlad, a doeddwn i ddim eisiau i hwnna fynd yn faen melin ar ben rywun arall.”

Wrth ddirwyn Llafar Gwlad i ben, eglurodd wrth Gyngor Llyfrau Cymru, oedd yn cyfrannu’n ariannol tuag ato, efallai y byddai gan y genhedlaeth nesaf ddiddordeb mewn dechrau cylchgrawn newydd yn yr un maes, yn fras, ond efo mwy o bwyslais ar hanes.

“Mae Owain efo diddordeb mawr mewn hanes, ac yn rhyfedd ym mis Rhagfyr, ar ôl fi wneud y cyhoeddiad bod Llafar Gwlad yn dod i ben, dyma Cyngor Llyfrau yn cael arian gan Cymru Greadigol i gynhyrchu dau gylchgrawn – un ar chwaraeon ac un ar hanes,” esboniodd Myrddin ap Dafydd.

“Doedden ni ddim yn meddwl cychwyn y cylchgrawn mor fuan, ond gan fod y cyfle wedi dod doedden ni ddim yn mynd i golli’r cyfle.”

Myrddin ap Dafydd

‘Taflu goleuni newydd’

Mae’r rhifyn cyntaf, fydd allan ar Fedi 28, yn cynnwys tua hanner dwsin o erthyglau gan sgrifennwyr ifanc yn eu 20au, ymhlith eraill fel Dafydd Tudur o’r Archif Ddarlledu Genedlaethol, ac yn ôl Myrddin ap Dafydd bydd hynny’n rhoi “gogwydd ffres” ar y cylchgrawn.

“Pwyslais y cylchgrawn gan Owain ydy bod be bynnag sy’n digwydd heddiw, mae yna wreiddiau ohono fo mewn ryw gyfnod o hanes.

“Rydyn ni’n defnyddio straeon o hanes i daflu golau newydd, efallai, ar bethau sy’n perthyn i’n cyfnod ni – pethau efallai dydyn i ddim yn ymwybodol o’r gwreiddiau hanesyddol, ac mi fyddai bod yn ymwybodol ohonyn nhw’n helpu ni i ddatrys rhai o’r problemau yma.”

Bydd lle yn y cylchgrawn i erthyglau sy’n edrych ar hanes rhyngwladol, ond hanes Cymru fydd y prif destun.

Fe fydd HanesByw yn cael ei gyhoeddi’n chwarterol, ac yn gylchgrawn A4, 40 tudalen, mewn lliw, ac ar gael yn ddigidol ac mewn print.

“Mae o’n faes hollbwysig wrth gwrs. Dydy o ddim wedi’i anelu at blant, ond dw i’n gobeithio’n fawr iawn y bydd llawer iawn, iawn o athrawon yn ei ddefnyddio fo achos mae yna wybodaeth yn mynd i fod iddyn nhw fydd yn berthnasol i’w cynefin nhw a fedran nhw addasu’r deunydd wedyn yn wersi ar gyfer Cwricwlwm Cymru, cynradd ac uwchradd.”

‘Awydd am ddeunydd hanesyddol’

Ychwanegodd Ifor ap Glyn, golygydd y cylchgrawn, bod yna awydd i drio mabwysiadau cymaint o ddarllenwyr Llafar Gwlad â phosib, ond eu bod nhw am “fwrw’r rhwyd yn ehangach” hefyd.

“Mae’r cylchgrawn yn cynnig platfform i gyrraedd pobol ehangach,” meddai wrth golwg360.

“Bydd hyd yr erthyglau’n amrywio, ond drwyddi draw fyddan nhw’n fyrrach a’r pwyslais ar ddweud y stori mewn ffordd ddifyr tra hefyd yn cynnig, nid safon academaidd fel y cyfryw, ond yn cynnig safon.”

Ifor ap Glyn. Llun: Rhys Llwyd

“Mae’r erthyglau cyntaf wedi dod yn barod ar gyfer cyhoeddiad y rhifyn cyntaf, a dw i wrth fy modd. Maen nhw tu hwnt o ddiddorol,” ychwanegodd Ifor ap Glyn.

“Dw i’n ffeindio’n hun yn darllen yr union fath o beth dw i’n licio’u cael mewn cylchgrawn o’r fath.

“Dw i’n gobeithio y bydd o’n ennyn ymateb tebyg mewn pobol sydd efo diddordeb mewn hanes.

“Dw i’n meddwl yn gyffredinol bod gan bobol fwy o ddiddordeb mewn hanes nag efallai y mae rhai darlledwyr yn fodlon cydnabod, ac o bosib cyhoeddwyr.

“Mae yna awydd am ddeunydd hanesyddol, ac rydyn ni’n gobeithio y byddan ni’n gallu dangos bod yr awydd yn ehangach hyd yn oed na mae pobol efallai’n ddisgwyl, a hynny ymhlith carfanau gwahanol o gymdeithas.”

Cylchgrawn Llafar Gwlad yn dod i ben ar ôl deugain mlynedd

Cadi Dafydd

“Dw i’n meddwl efallai y gwneith y maes greu ryw gylchgrawn arall yn y dyfodol, ond nid fi fydd yn arwain hwnnw,” medd Myrddin ap Dafydd