Mae deiseb i amddiffyn cartref teuluol Owain Glyndŵr yn Sycharth yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Medi 13).

Y gobaith yw annog Llywodraeth Cymru i brynu’r safle y Mhowys er mwyn ei achub ac i ddathlu ei hanes.

Dywed Dr Huw Griffiths, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, y byddai prynu Sycharth yn dod â phosibiliadau newydd, megis yr opsiwn i’w ddefnyddio fel canolfan addysg ac ymchwil.

Trwy wneud hynny, byddai hefyd yn gyfle i ddenu twristiaid a’u haddysgu am hanes Cymru, meddai mewn llythyr at aelodau un o bwyllgorau’r Senedd.

“Drwy gadw Sycharth, mae Llywodraeth Cymru yn cyfleu neges bwerus o falchder a hunaniaeth genedlaethol,” meddai.

“Mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu ein ffigurau hanesyddol a diogelu ein diwylliant unigryw.

“Mae cadw Sycharth, yn fy marn i, yn ymwneud â diogelu rhan hanfodol o hanes, diwylliant a hunaniaeth Gymreig.

“Trwy wneud hynny, gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y dreftadaeth hon ar gael i’r genedl bresennol a’r dyfodol, gan feithrin cysylltiad dyfnach â’n gwreiddiau Cymreig.”

‘Parchu ein hanes’

Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw, oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ddeiseb.

Bu’r cynghorydd yn ymgyrchu i alw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu hanes drwy bersbectif Cymreig rhwng 2017 a 2020.

Mae’n credu nad yw safle Sycharth yn derbyn y sylw cenedlaethol mae’n ei haeddu.

Trwy ei brynu, dywed y gallai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle i ddathlu Owain Glyndŵr, un o arwyr mwyaf adnabyddus Cymru.

“Mae cwestiwn yn codi, ydyn ni dal am drin ein hanes fel rhywbeth ymylol, wedi’i daflu i’r cysgodion, neu ydyn ni am barchu hanes ein cenedl a’i ddysgu’n iawn i genedlaethau’r dyfodol?” meddai.

“Fydd dod â’r safle yma dan berchnogaeth genedlaethol ddim yn unig yn newid Sycharth, ond bydd o’n esiampl i lefydd eraill ar draws Cymru, sydd yn bwysig i’n hanes, ond ar hyn o bryd yn cuddio oherwydd nad oes neb wedi eu labelu fel llefydd ‘digon pwysig’ i’w dathlu a’u datblygu.”

Amlygu’r safle

Dywed Elfed Wyn ap Elwyn mewn llythyr i’r Pwyllgor Deisebau ei fod wedi cael y cyfle i gyfarfod gyda chadeirydd ac aelod o’r pwyllgor yn Sycharth, ynghyd ag aelodau o’r Senedd, CADW a thrigolion lleol.

Yn ystod y cyfarfod, daeth yn amlwg fod sawl un yn cael trafferthion dod o hyd i’r safle hanesyddol.

Mae’n dadlau y byddai prynu’r safle yn rhoi’r cyfle i newid hynny a’i ddatblygu’n ganolfan hanes flaenllaw.

Pryder arall yw y gallai’r berthynas dda gyda’r ystâd newid, gan beryglu dyfodol y safle heb rybudd, ond gallai perchnogaeth genedlaethol fynd i’r afael â’r sefyllfa honno, meddai.

Dywed Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw am wneud sylw am y sefyllfa tan ar ôl y ddadl.