Mae nifer o orsafoedd ar hyd rheilffordd Calon Cymru ymhlith y 100 isaf yn y Deyrnas Unedig o ran perfformiad, yn ôl data diweddar.
Mae’r ystadegau ar gyfer y cyfnod rhwng y Pasg a’r haf eleni’n dangos bod defnyddwyr trenau rhwng Abertawe ac Amwythig wedi diodde’r perfformiadau gwaethaf ledled gwledydd Prydain.
Mae dadansoddiad data National Rail, gafodd ei gasglu gan y wefan On Time Trains, yn dangos bod gorsafoedd Llandeilo a Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin yn rhif 2,597 a 2,594 allan o 2,633 o orsafoedd o ran eu perfformiad.
Gorsaf Llanymddyfri oedd yn safle 2,603 – a thros y chwe mis diwethaf, cafodd 20% o’r gwasanaethau yno eu diddymu, gyda 19% yn rhagor dros ddeng munud yn hwyr.
Dros y ffin ym Mhowys, roedd gorsaf reilffordd Llanwrtyd yn safle 2,541 tra bod Builth Road yn rhif 2,367 yn y tabl.
‘Sefyllfa annerbyniol’
Yn ôl Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae nifer “sylweddol” o etholwyr wedi cysylltu â’i swyddfa i fynegi eu rhwystredigaeth ynghylch gwasanaeth Llinell Calon Cymru.
“Mae nifer wedi cael eu hesgeuluso ar blatfformau gwledig – gan wynebu oedi sylweddol neu aros am fysiau amnewid nad ydynt yn bodoli,” meddai.
“Mae eraill wedi profi anhawster sylweddol wrth gymudo i’r gwaith neu gael eu gwyliau wedi’u difetha o ganlyniad i’r problemau rheolaidd sydd wedi plagio’r gwasanaeth dros y misoedd diwethaf.
“Does gen i ddim amheuaeth mai’r gwasanaeth yw’r tlws yng nghoron rhwydwaith rheilffyrdd Cymru; fodd bynnag, nid yw’r tarfu parhaus hyn yn gynaliadwy, ac rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn annog eu sylw brys i’r sefyllfa annerbyniol hon.”
‘Siomedig’
Ychwanega Handel Davies, Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Lanymddyfri, ei fod e’n “siomedig” deall bod gwasanaeth trenau’r dref ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ond na fydd hynny o syndod i bobol yr ardal.
“Dro ar ôl tro, mae’r gwasanaeth wedi wynebu aflonyddwch sylweddol ers misoedd lawer,” meddai.
“Yn anochel, mae methiannau o’r fath yn achosi rhwystredigaeth gynyddol i’r holl ddefnyddwyr ac nad yw’n gwneud dim i annog mwy o ddefnydd o drenau ar adeg pan ddylai hyn gael ei hyrwyddo.”