Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi gwneud un ymdrech olaf i geisio achub gwasanaeth y Bwcabus Fflecsi.
Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r gwasanaeth – gafodd ei sefydlu 14 o flynyddoedd yn ôl i wasanaethu rhannau gwledig o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – ddod i ben ar Hydref 31.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r gwasanaeth yn un hanfodol i bobol sydd heb geir na mynediad at brif rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac sy’n ceisio cyrraedd trefi a phentrefi eraill ar gyfer gwaith, siopa a thriniaeth feddygol.
Ond daeth cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Medi bod y cyllid ar gyfer y gwasanaeth am gael ei dorri ymhen wythnosau.
Mae trigolion lleol yn ofni effaith colli’r gwasanaeth ar eu gallu i fynychu apwyntiadau meddygol, mynd i’r gwaith ac ymrwymiadau eraill sy’n golygu eu bod nhw’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Cwestiwn brys yn y Senedd
Ddechrau mis Hydref yn y Senedd, cyflwynodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, gwestiwn brys yn y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer y gwasanaeth.
Yn y cyfamser, mae deiseb yn gwrthwynebu diwedd gwasanaeth y Bwcabus wedi denu dros 1,750 o lofnodion.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei drefnu gan Elin Jones a Ben Lake, Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol Ceredigion, a’i gynnal yn Llandysul yr wythnos ddiwethaf.
Roedd bron i gant o drigolion a chynghorwyr lleol yn y cyfarfod, lle mynegodd nifer eu pryderon ac effaith colli’r gwasanaeth arnyn nhw, gan gynnwys pobol sy’n defnyddio’r gwasanaeth ers blynyddoedd i gyrraedd apwyntiadau meddygol wythnosol.
Dywedodd eraill y byddai’n rhaid iddyn nhw ailystyried eu hymrwymiadau i’w swyddi oherwydd y penderfyniad sydyn i ddileu’r gwasanaeth.
Galw am ailystyried
Cafodd profiadau’r rhai oedd yn y cyfarfod eu rhoi yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn y Senedd, wrth i Cefin Campbell herio Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ar ddyfodol y gwasanaeth.
Gan alw eto ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad, fe bwysodd hefyd am gyfarfod i drafod y sefyllfa ymhellach.
“Yr hyn a ddaeth i’r amlwg i ni’r noson honno yn Llandysul oedd yr effaith niweidiol y bydd cael gwared ar y gwasanaeth yn ei chael ar fywydau pobol go iawn,” meddai.
“Nid e-byst oedd y rhain, ond tystiolaeth fyw o sut y bydd pobol sy’n dioddef o epilepsi methu â mynychu clinigau; pobl sy’n ddibynnol ar ffisiotherapi yn wythnosol methu â mynychu eu clinigau a’u hysbytai, yn methu gwneud y siop wythnosol; roedd rhai yn sôn am orfod rhoi’r gorau i’w swyddi gan na fydden nhw’n medru cyrraedd eu gweithle.
“Felly, fe wnaethoch chi’r penderfyniad i ddod â’r gwasanaeth hwnnw i ben gyda phedair wythnos o rybudd yn unig.
“Sôn am weld pobol ar ymyl y dibyn wrth iddyn nhw orfod cynllunio dyfodol eu hunain!”
Gobeithio ceisio ateb
“Roedd y cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul yr wythnos ddiwethaf yn adlewyrchu cryfder y teimlad yn lleol tuag at y gwasanaeth amhrisiadwy mae Bwcabus yn ei ddarparu i gynifer o drigolion – hen ac ifanc,” meddai Elin Jones.
“Mae colli’r gwasanaeth – a hynny ar fyr rybudd – yn bryder mawr yn lleol, ac mae perygl gwirioneddol y bydd llawer o drigolion yn cael eu gadael heb unrhyw opsiynau eraill wrth i’r gwasanaeth hwn gael ei dorri – gyda thacsis yn brin ac yn ddrud a dim darpariaeth o unrhyw fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.
“Rydw i’n parhau i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr, cynghorwyr, sefydliadau trafnidiaeth gymunedol a Llywodraeth Cymru yn y gobaith y gellir dod o hyd i ateb.”
“Ysbrydoliaeth” i rannau eraill o Gymru
Wrth ymateb, dywedodd Lee Waters ei fod yn “gweld gwerth gwasanaeth y Bwcabus”.
“Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r gwasanaeth Fflecsi yr ydym bellach yn ei dreialu mewn rhannau eraill o Gymru, felly does dim angen unrhyw argyhoeddiad o werth y model arnaf,” meddai.
“Dydw i ddim yn meddwl bod nifer y defnyddwyr yn uchel iawn.
“Mae’n ddiddorol bod 100 o bobol wedi dod i’r cyfarfod; byddai’n ddiddorol gwybod faint o’r rheiny oedd yn ei ddefnyddio’n rheolaidd.
“Yn aml, dydy pobol ddim eisiau colli gwasanaeth, ond dydy’r un bobol ddim yn cefnogi’r gwasanaeth chwaith.
“Felly rydw i’n meddwl bod angen i ni gyd feddwl o ddifri sut gallwn annog mwy o bobol i ddefnyddio gwasanaethau bysus wrth edrych i’r dyfodol.
“Rydyn ni’n ariannu gwasanaeth TrawsCymru yn sylweddol drwy Geredigion, sy’n wasanaeth rhagorol â bysus trydan, modern sy’n rhad i’w defnyddio ac maen nhw’n boblogaidd iawn.
“Felly, rydyn ni’n buddsoddi llawer mewn gwasanaethau bysus yng nghefn gwlad Cymru.
“Yn drist iawn, oherwydd y sefyllfa gyllido sy’n ein hwynebu yn y tymor byr, doedden ni ddim yn gallu llenwi’r bwlch a adawyd pan dynnwyd cyllid yr Undeb Ewropeaidd oddi wrthon ni, ac mae arnaf ofn nad oes ateb hawdd i’r ffaith honno.”