Bydd diswyddiadau gwirfoddol ac adleoli yn cael ei gynnig i rai o staff Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, wrth i’r adeilad barhau ynghau o ganlyniad i goncrid RAAC.

Fe wnaeth swyddogion Cyngor Caerdydd annerch aelodau’r pwyllgor craffu economi a diwylliant yr awdurdod lleol mewn cyfarfod ddydd Mawrth (Hydref 24), oedd wedi cynnig diweddariad ar y lleoliad cerddoriaeth glasurol.

Gyda’r cyhoeddiad diweddar y bydd yr adeilad ynghau am ddeunaw mis yn dilyn archwiliad o banelau to RAAC, mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch dyfodol y staff.

Dywedodd arbenigwyr oedd wedi archwilio Neuadd Dewi Sant fod nifer o banelau’r to sy’n cynnwys RAAC mewn ‘perygl coch difrifol’ ac eraill yn ‘berygl coch’, sy’n golygu y gallen nhw gwympo.

‘TUPE’

Pan gyhoeddodd y Cyngor eu bod nhw wrthi’n trosglwyddo rheolaeth o Neuadd Dewi Sant i AMG, cwmni sy’n gweithredu lleoliadau mawr, dywedon nhw y byddai cytundebau staff yn cael eu diogelu drwy gytundeb rheoliadau trosglwyddo mentrau (gwarchodaeth a chyflogaeth).

Ond o ganlyniad i’r amser y bydd y lleoliad ynghau, mae’r Cyngor bellach wedi cael gwybod ei bod hi’n bosib na fydd TUPE yn berthnasol.

Mae’r Cynghorydd Jackie Jones, sy’n aelod o’r pwyllgor craffu economi a diwylliant, wedi gofyn am ragor o eglurder ynghylch hyn.

“Y cyngor cyfreithiol yw fod TUPE yn annhebygol o fod yn berthnasol,” meddai Tracey Thomas, prif swyddog adnoddau dynol Cyngor Caerdydd.

“Mae TUPE yn rhan dechnegol o gyfraith gyflogaeth, a dydy cyfraith gyflogaeth fyth yn ddu a gwyn… ac felly, byddai’n rhaid ei phrofi yn y broses gyfreithiol.

“Mae’n annhebygol o fod yn berthnasol, ac mae a wnelo fe ddim oll â bod yn les amodol.

“Mae’n ymwneud â bod yn doriad.

“Mae TUPE yn berthnasol pan gaiff gwasanaeth ei drosglwyddo o A i B.

“Yn yr achos hwn, does dim gwasanaeth sy’n cael ei drosglwyddo oherwydd bod AMG yn cymryd gwasanaeth drosodd sydd wedi’i gau.”

To newydd

Fel rhan o’r gwaith angenrheidiol ar Neuadd Dewi Sant, bydd yn rhaid disodli’r to cyfan.

Er bod AMG wedi dweud wrth Gyngor Caerdydd eu bod nhw’n parhau i ymrwymo i redeg y lleoliad, mae’r cwmni wedi gofyn i’r Cyngor ystyried les amodol am gyfnod.

Byddai hyn yn golygu na fyddai AMG yn cymryd y les i gyd i redeg y lleoliad hyd nes eu bod nhw’n cael caniatâd cynllunio sydd ei angen, fwy na thebyg, a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith.

Pe bai angen hyn, bydd AMG yn talu am do newydd a gwaith adnewyddu.

O ran y cyngor cyfreithiol gafodd y Cyngor o ran TUPE, dywed Tracey Thomas fod “hynny wedi’i gyflwyno i’r staff ac undebau llafur sy’n gyffyrddus â’r safbwynt hwnnw ac… mae nifer o gyfleoedd i staff”.

Diswyddiadau

Bydd yr holl staff parhaol, dros dro ac achlysurol sydd â hawliau mewn perthynas â Neuadd Dewi Sant yn cael cynnig diswyddiadau gwirfoddol ac adleoli posib.

Byddai’n costio tua £1m i’r Cyngor pe bai’r holl staff cymwys yn y lleoliad yn derbyn diswyddiadau gwirfoddol.

“Yn amlwg, bydd yna staff fyddai â diddordeb mewn cyfleoedd eraill yn y Cyngor, a byddwn ni’n annog y staff hynny ac yn eu cefnogi ni ar gyfer cyfleoedd o fewn y Cyngor sy’n addas ar gyfer eu sgiliau,” meddai Donna Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol ystadau sirol Cyngor Caerdydd.

Bydd staff asiantaeth â mwy na dwy flynedd o wasanaeth yn Neuadd Dewi Sant hefyd yn gymwys i gael cynnig diswyddiadau gwirfoddol ac adleoli, ond bydd staff asiantaeth â llai na dwy flynedd o wasanaeth yn cael eu rhyddhau o’u rolau.

Bydd hyn yn digwydd ar ddyddiad sydd wedi’i gytuno, yn amodol ar benderfyniad y Cabinet.

Ychwanega Donna Jones ei bod hi’n bosib y gallai AMG gynnig cyfleoedd i rai staff mewn lleoliadau AMG neu Live Nation eraill, yn enwedig staff sydd â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y lleoliadau hynny.

Helpu staff nad ydyn nhw’n bodloni’r trothwy

Gofynnodd y Cynghorydd Jackie Jones hefyd beth all y Cyngor ei wneud i helpu staff sydd o dan y trothwy o ddwy flynedd o wasanaeth.

“Mae’r rhan fwyaf o staff y tu hwnt i’r ddwy flynedd,” meddai.

“Ond i’r staff hynny [o dan ddwy flynedd], mae’n cwympo’n bennaf i’r categori staff asiantaeth, a’r hyn y byddwn ni’n chwilio amdano ar gyfer y staff hyn yw cyfleoedd eraill yn y Cyngor.

“Mae 24 aelod o staff achlysurol hirdymor… staff achlysurol yw’r rhain sydd wedi gweithio i’r lleoliad ers amser hir iawn.

“Bydd y staff hyn yn cael mynediad diofyn at yr un cyfleoedd diswyddiadau gwirfoddol a chyflogaeth â staff parhaol.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn â’r grŵp staffio, yn cyfarfod â nhw, yn eu diweddaru nhw ac yn amlwg yn gweithio’n agos â chydweithwyr undebau.

“Rydyn ni’n gwneud cymaint ag y gallwn ni i’w cefnogi nhw i gael swyddi eraill.

“Mae oddeutu 72 o swyddi gwag yn y Cyngor ar hyn o bryd, ar lefelau amrywiol, ac yn amlwg byddwn ni’n cydweithio â’r staff hynny i geisio dod o hyd i gyfleoedd eraill i’r staff hynny sy’n dymuno aros gyda ni.”

Les

Pe bai popeth yn mynd yn ôl y cynllun, a bod yr holl amodau gofynnol ar gyfer dechrau’r gwaith yn Neuadd Dewi Sant yn cael eu bodloni, byddai les AMG yn mynd yn ôl i fod yn un 45 mlynedd er mwyn rhedeg y lleoliad.

Byddai hyn yn golygu cadw at holl amodau eraill y les, gan gynnwys gwarchod y calendr cerddoriaeth glasurol pan fydd y lleoliad yn ailagor.

Gallai penderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud rhwng Mai a Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Ond gall fod angen caniatâd cynllunio ar gyfer hyn, fyddai’n gwthio dyddiad y penderfyniad yn ôl.

Gallai’r gwaith ddechrau fis Gorffennaf nesaf, ond unwaith eto pe bai angen caniatâd cynllunio, gallai hyn ddigwydd fis Hydref nesaf.

Mae AMG yn anelu i ailagor Neuadd Dewi Sant cyn cystadleuaeth nesaf Canwr y Byd Caerdydd y BBC fis Gorffennaf 2025.