Mae gwaith wedi dechrau ar gae 3G maint llawn newydd yng Nghaernarfon, fydd yn adnodd gwych ar gyfer y gymuned gyfan, yn ôl Ysgol Syr Hugh Owen.

Y nod yw darparu cyfleuster modern ar gyfer ysgolion lleol, clybiau chwaraeon a’r gymuned ehangach.

Bydd y cae 3G newydd yn disodli’r cae hanner maint presennol sydd wedi’i leoli ar gampws Ysgol Syr Hugh Owen, ger canolfan hamdden Byw’n Iach Arfon.

Mae’r prosiect yn dilyn cydweithio rhwng nifer o bartneriaid lleol a chenedlaethol, gyda thros £1m o gyllid wedi’i sicrhau drwy gyfraniadau Cyngor Gwynedd, Chwaraeon Cymru, Cymru Football Foundation, Pêl-droed yn y Gymuned Tref Caernarfon, a’r Football Foundation sydd yn cynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr EPL a’r FA fel partneriaid cyllido.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr.

‘Angen mwy o gyfleusterau’

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros yr Economi a Chymuned, yn dweud ei bod hi’n ddiolchgar i bawb fu’n rhan o’r prosiect, a’i bod hi’n teimlo bod yna dreftadaeth bêl-droed yn y sir er bod angen rhagor o gyfleusterau.

“Mae’n wych sut mae pawb wedi dod at ei gilydd i wneud hyn yn bosib,” meddai.

“Mae gan Wynedd dreftadaeth bêl-droed gyfoethog, ond mae heriau yn wynebu pêl-droed yn y sir, gydag angen am gyfleusterau sy’n ateb gofynion addysgiadol, chwaraeon a chymunedol ar draws Gwynedd.

“Ar hyn o bryd, nid oes caeau maint llawn o’r math yma yng Nghaernarfon, felly bydd y cae 3G maint llawn yn codi proffil ac yn gwella profiad clybiau pêl-droed a chwaraeon lleol yn yr ardal, yn ogystal â thref Caernarfon gyfan.

“Dwi’n gobeithio y bydd y cae newydd nid yn unig yn cynnal y cyfranogiad presennol, ond y bydd hefyd yn galluogi’r gêm i ffynnu ar lawr gwlad ac ennyn diddordeb ar draws ein cymdeithas – gan gynnwys annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn pêl-droed.

“Mae dyheadau mewn cymunedau yn Nwyfor a Meirionnydd i ddatblygu cyfleusterau newydd ac mae trafodaethau ar y gweill.

“Diolch i Chwaraeon Cymru, Cymru Football Foundation, Football Foundation a Phêl-droed yn y Gymuned Tref Caernarfon am gyfrannu’n ariannol gyda’r Cyngor tuag at y prosiect gwych yma, ac i Glwb Pêl-droed Caernarfon am eu rôl allweddol yn y prosiect.”

‘Angen cae maint llawn’

Mae’r Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, hefyd yn credu bod angen cae maint llawn yn yr ardal.

“Adeiladwyd y cae hanner maint presennol yn Ysgol Syr Hugh Owen tua ugain mlynedd yn ôl, ac mae o wedi cael cryn dipyn o ddefnydd gan ddisgyblion dros y blynyddoedd hynny,” meddai.

“Fodd bynnag, mae ei gyflwr a’i faint yn golygu nad yw’n cwrdd â gofynion modern sy’n cael eu cynnig gan gae 3G maint llawn.

“Bydd y cae 3G maint llawn newydd, fydd yn disodli’r hen gae ar gampws Ysgol Syr Hugh Owen, yn trawsnewid cyfleusterau’r ysgol ac yn ysbrydoli plant a phobol ifanc i fod yn gorfforol weithgar, yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth dysgu.

“Diolch i bawb am eu gwaith caled er mwyn sicrhau y bydd gan ardal Caernarfon ased fel hyn, fydd nid yn unig o fudd enfawr i ysgolion lleol, ond i’r gymuned ehangach hefyd.”

‘Adnodd anhygoel’

Dywed Clive Thomas, Pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen, ei fod yn ddiolchgar am y cydweithio ac y bydd y cae hwn o fudd i bobol ifanc.

“Mae Ysgol Syr Hugh Owen yn falch iawn bod y gwaith o adeiladu’r cae 3G newydd wedi dechrau,” meddai.

“Wedi blynyddoedd o gydweithio gyda’n partneriaid – Adran Addysg, Byw’n Iach, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Football Foundation, Clwb Pêl Droed Caernarfon a chydweithrediad Clwb Rygbi Caernarfon a Chlwb Hoci Caernarfon, rydym yn teimlo bod y freuddwyd o’r diwedd wedi’i gwireddu.

“Bydd yr adnodd anhygoel hwn yn rhoi safle cyfoes fydd yn ychwanegu at brofiadau a safonau ein disgyblion yn yr ysgol ac yn adnodd i’w rhannu gyda’r gymuned yn ehangach.

“Edrychwn ymlaen at weld yr Adran Addysg Gorfforol yn ymestyn ymhellach ar y safonau uchel sydd eisoes yn bodoli.”

Yn ôl Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach, mae’r datblygiad yn un cyffrous iawn, ac mae cryn angen am gae maint llawn.

“Mae galw gwirioneddol am gae synthetig maint llawn yn yr ardal, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’r ysgolion a’r clybiau lleol i reoli’r maes dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Mae’r prosiect yn enghraifft wych o waith tîm, a’r hyn sy’n bosib pan mae gwahanol sefydliadau lleol yn cyd-weithio.”

Effaith bositif

Yn ôl Aled Lewis, Pennaeth Buddsoddiad Cyfleusterau a Gweithrediadau Sefydliad Pêl-droed Cymru, braf oedd cefnogi’r prosiect fydd yn cael effaith bositif ar bobol ifanc Gwynedd.

“Bydd y 3G newydd yma’n ganolbwynt i gymaint o bobol ifanc a chlybiau lleol, ac rydym wedi cyffroi i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar gymuned Gwynedd,” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau ysbrydoledig ac addas ar gyfer y dyfodol ledled Cymru, gan arwain at fwy o chwaraewyr a phrofiadau gwell, fydd yn gwella iechyd a lles y genedl.”

Un arall sy’n croesawu’r datblygiad yw Dave Cavanagh o Academi Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, sy’n dweud ei fod yn “newyddion gwych i’r gymuned gyfan”.

“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y prosiect, a sefydliadau sy’n rhannu ein hamcanion cyffredin a’n gwerthoedd i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n chwaraewyr a’r gymuned leol,” meddai.

“Wrth lunio ein Cynllun Strategol Academi Tref Caernarfon, roeddem bob amser yn anelu at gael safle Academi yng Nghaernarfon a oedd yn cynnig amgylchedddatblygol safon uchel Academi Trwyddedig FAW ar gyfer datblygu chwaraewyr.

“Bydd y cyfleuster hwn yn ein galluogi i adeiladu ar hynny a pharhau i ddarparu mwy o gyfleoedd proffesiynol i chwaraewyr ein hacademi yn y dyfodol.”

Talent y dyfodol

Mae Darren Billinghurst o Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn credu y bydd y cae newydd yn datblygu talent leol.

“Mae’n newyddion da i’r dref a’r gymuned gyfan, mae wedi bod yn amser hir yn dod ac rydym yn edrych ymlaen at helpu i feithrin talent y dyfodol yn yr ardal leol,” meddai.

“Diolch yn arbennig i bawb a oedd ynghlwm er mwyn ei gael dros y llinell.”