Mae De Affrica wedi ennill Cwpan Rygbi’r Byd am yr ail waith yn olynol.

Dyma’r pedwerydd tro iddyn nhw ennill y tlws, a does neb wedi ennill mwy o dlysau yn hanes y gystadleuaeth, wrth iddyn nhw fynd heibio tri eu gwrthwynebwyr.

Roedden nhw’n herio 14 dyn am ran fwya’r gêm, yn dilyn cerdyn coch Sam Cane, capten y Crysau Duon am drosedd ar Jesse Kriel ar ôl 26 munud  – y cerdyn coch cyntaf erioed yn y rownd derfynol.

Ar y pryd, roedd gan Dde Affrica fantais o 9-3 diolch i gicio cywir Handre Pollard at y gôl.

Tarodd y Crysau Duon yn ôl gyda chiciau cosb Beauden Barrett i’w gwneud hi’n 12-11.

Croesodd y mewnwr Aaron Smith am gais yn ei gêm olaf i Seland Newydd, ond cafodd ei chanslo ar ôl i’r bêl fynd ymlaen o’r dwylo mewn cymal blaenorol.

Gallai De Affrica hwythau fod wedi mynd i lawr i 14 dyn ar ôl i’r capten Siya Kolisi weld cerdyn melyn am drosedd â’i ben, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd cyfiawnhad dros uwchraddio’r gosb.

Methodd Jordie Barrett â chic at y gôl ar ôl 72 munud fyddai wedi rhoi ei dîm ar y blaen, ac fe lwyddodd y Springbok i gadw eu blaenoriaeth i godi’r cwpan ar noson wlyb yn Paris.