Roedd canlyniadau cymysg i ddau yrrwr rali o Gymru dros y penwythnos.
Dychwelodd Tom Cave i frig ei gamp unwaith eto wrth ennill Rali Cambria Conwy, wrth iddyn nhw guro Garry Pearson sydd wedi ennill y Bencampwriaeth.
Daeth y cymal olaf i ben ar y promenâd yn Llandudno.
Siom i Elfyn Evans
Ond roedd siom i Elfyn Evans wrth iddo geisio cadw ei obeithion o ennill Pencampwriaeth y Byd yn fyw.
Kalle Rovanperä gipiodd y tlws yn y pen draw, yn dilyn gwrthdrawiad ar unfed cymal ar ddeg Rali Canol Ewrop, wrth iddo fe orffen y cymal yn yr ail safle.
Ond mae ganddo fe flaenoriaeth o 44 pwynt yn y bencampwriaeth, gydag un rownd yn weddill yn Japan.
Daeth ras Elfyn Evans i ben pan darodd e i mewn i feudy, ond fe ddechreuodd e’r diwrnod olaf yn gryf gan ennill y cymal cyffro a chael pum pwynt allai fod wedi bod yn hanfodol.
Yr ail safle yw’r uchaf y bydd e’n gallu gorffen erbyn hyn, ond bydd yn rhaid iddo fe frwydro’n galed yn erbyn Thierry Neuville.