Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr tîm rygbi Awstralia, wedi ymddiswyddo ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd oedd yn cynnwys colli yn erbyn Cymru.
Daw ei ymddiswyddiad ar ôl llai na blwyddyn wrth y llyw, ar ôl iddo fe lofnodi cytundeb pum mlynedd.
Daeth hynny fis yn unig ar ôl iddo fe gael ei ddiswyddo gan Loegr.
Ond roedd adroddiadau yn ystod Cwpan y Byd ei fod e eisoes yn chwilio am swyddi newydd, a’i fod e wedi cael cyfweliad ar gyfer swydd prif hyfforddwr Japan, lle mae ei wreiddiau teuluol, ddyddiau’n unig cyn Cwpan y Byd.
Methodd Awstralia â chyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Bydd yn gadael ei swydd yn ffurfiol ar Dachwedd 25, ac mae’n dweud nad oes ganddo fe swydd arall i fynd iddi ar hyn o bryd.
Wrth siarad â’r wasg, mae e wedi awgrymu nad oedd e’n rhannu’r un weledigaeth ag Undeb Rygbi Awstralia, a’i fod e wedi mynd â’r tîm hwn mor bell â phosib.