Mae term gafodd ei ysbrydoli gan gyn-gricedwr Morgannwg wedi cael ei gynnwys yn y geiriadur am y tro cyntaf.
Daeth cadarnhad heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 1) fod ‘Bazball’ bellach yn yr Oxford English Dictionary.
Caiff Bazball, sydd wedi’i enwi ar ôl Brendon McCullum o Seland Newydd, ei ddiffinio fel “dull o griced Prawf lle mae’r tîm sy’n batio’n ceisio achub y blaen drwy chwarae mewn dull ymosodol dros ben”.
Mae’r dull hwn o griced yn cael ei gysylltu â chriced undydd yn bennaf, ac nid y fformat hir.
Chwaraeodd Brendon McCullum i Forgannwg am hanner tymor yn 2006, yr ail chwaraewr o Seland Newydd i chwarae i’r sir y flwyddyn honno, ar ôl James Franklin.
Ar y pryd, roedd ganddo fe enw da am ei sgiliau yn y gemau ugain pelawd – dull mae clatsio’n rhan allweddol ohono.
Tarodd e hanner canred oddi ar ddeunaw o belenni yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn ei gêm ugain pelawd gyntaf i Forgannwg, cyn taro 160 ymosodol yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr.
Penderfyniad dan y lach
Ond mae chwaraewr tramor presennol Morgannwg wedi beirniadu’r penderfyniad.
“O, bobol bach!” meddai.
“Llanast yw hwnna.
“Dw i ddim yn gwybod beth yw hwnna, wir i chi.”