Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, wedi cyhoeddi’r garfan i herio Awstralia yn Auckland yn Seland Newydd nos Wener (Tachwedd 3).

Hon yw gêm olaf Cymru yn eu hymgyrch WXV1, gyda’r gic gyntaf yn Stadiwm Go Media Mount Smart am 7 o’r gloch.

Hannah Jones fydd yn arwain y tîm o’r canol, gyda chwe newid yn y tîm ac un chwaraewr yn newid safle o gymharu â’r tîm heriodd Seland Newydd gyda Jaz Joyce yn symud i’r cefn a Lisa Neuman a Carys Cox yn dychwelyd i’r esgyll.

Mae Carys Phillips a Sisilia Tuipolotu wedi’u henwi yn y rheng flaen gyda Gwenllian Pyrs.

Mae Georgia Evans yn dychwelyd i’r ail reng ochr yn ochr ag Abbie Fleming, gydag Alex Callender, Kate Williams a Bethan Lewis yn y rheng ôl.

Mae Cerys Hale wedi’i henwi ar y fainc yn lle’r prop Donna Rose, gafodd ergyd i’w phen yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl iddi ennill cap rhif 48 ei gyrfa ryngwladol.

‘Penderfynol o berfformio’n dda’

Dywed Ioan Cunningham fod y garfan yn benderfynol o berfformio’n dda yn eu gêm olaf yn y gystadleuaeth, a “gorffen ar nodyn uchel”.

“Fe wnaeth Awstralia guro tîm Ffrainc wnaeth faeddu’r ‘Black Ferns’ (Seland Newydd), ac rydyn ni’n gwybod fod hon yn her enfawr arall i ni, ond dyma’r profion rydyn ni eisiau eu chwarae cyn Cwpan y Byd 2025,” meddai.

“Rydyn ni wedi gwneud newidiadau ac wedi cylchdroi’r garfan ar gyfer ein trydydd prawf o fewn tair wythnos, a’r nod yw adeiladu ar ein cryfder mewn dyfnder ar y lefel ryngwladol.

“Dyma’r garfan lawn broffesiynol gyntaf i adael Cymru, ac mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol o ddysgu i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff.”

Tîm Cymru

15. J Joyce, 14. L Neumann, 13. H Jones (capten), 12. H Bluck, 11. C Cox, 10. Ll George, 9. K Bevan; 1. G Pyrs, 2. C Phillips, 3. S Tuipulotu, 4. A Fleming, 5. G Evans, 6. K Williams, 7. A Callender, 8. B Lewis

Eilyddion

16. K Jones, 17. A Constable, 18. C Hale, 19. A Butchers, 20. S Harries, 21. M Davies, 22. R Wilkins, 23. K Lake